麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Un Diwrnod yn yr Eisteddfod
Nofel am gymeriad yn deffro - am chwilio a chael
Adolygiad Ion Thomas o Un diwrnod yn yr Eisteddfod gan Robin Llywelyn. Nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen 2004. Gomer. 拢6.99.

Y plot yn gryno
Fel awgryma'r teitl, hanes un diwrnod yn yr eisteddfod yw'r nofel hon.

Fodd bynnag, mae'n datblygu'n ddiwrnod tra arbennig a chofiadwy.

Wil Chips yw'r prif gymeriad. Milwr sydd newydd adael y fyddin ac helyntion Irac, gan ddychwelyd i Gymru i ymladd ei frwydr bersonol ei hun.

Mae ei wraig o Albanes wedi dychwelyd i'r Alban, gan fynd a'u dau blentyn gyda hi.

Clawr y llyfrGeidw hyn Wil Chips yn chwerw flin, ac yn adyn ar goll.

Ar derfyn diwrnod o firi ar faes y brifwyl a rhialtwch y nos ymddengys bod llwybr yn dechrau agor o'i flaen.

Trwy gyfres o ddigwyddiadau a sgyrsiau difyr, caiff ysbryd a hwyl yr eisteddfod ei ddal a gwelir yn y nofel mai maes cwrdd 芒 hen ffrindiau yw'r brifwyl.

Wrth ddilyn hynt a helynt Wil Chips drwy'r penodau clywn sgyrsiau yn cychwyn rhwng cydnabod na welwyd ers tro. Sylweddola Wil, er bod amgylchiadau sawl cyfaill wedi newid bod eu cymeriadau yr un fath. Un i fenthyg beic heb ganiat芒d fu Gwyn Bont neu Gwyn ap Llwyd erioed.

Yr hyn sy'n poeni Wil Chips a'i ffrindiau
Prif ofid Wil Chips yw ei blant.
Mae Wil yn dipyn o dderyn brith, ond sylweddolwn bod yna dynerwch a chariad mawr ganddo at y ddau sydd yn cael eu cadw oddi wrtho.

Nid yw hyn yn syndod o gofio bod yr awdur ei hun yn dad i deulu ifanc.

Yn debyg i'r awdur y mae Wil yn poeni am yr iaith a dyfodol y genedl Gymraeg a Chymreig.

Mae prisiau cynyddol tai a'r Seisnigo parhaus a ddigwydd yn destun sgwrs i'w gydnabod ynghyd 芒'r hinsawdd a diwedd y byd.

Cawn glywed am dranc a phicil ieithoedd lleiafrifol a daw crefydd a Christnogaeth o dan lach.

Yr eisteddfod a'i ll锚n.
Mae'n syndod i mi nad oes gennym fwy o nofelau wedi eu gosod yn yr Eisteddfod o gofio mai hon yw prifddinas symudol Cymru; yn groes-ffordd i lawer o'r Cymry, yn ficrocosm o'n gwlad.

Byddai un yn disgwyl i lawer mwy o'n nofelwyr gael sbardun a deunydd yma.

Clod felly i Robin Llywelyn am wneud yr eisteddfod yn llwyfan i'w stori.

Cnoi cil
Heb os, nod sawl eisteddfodwr yw cael mynediad am ddim i'r maes. Breuddwyd eraill yw cael ymuno 芒 seremoni y cadeirio, neu banel siarad llawn o bwysigion.

Datblyga Wil Chips yn arwr anghyffredin a llwyddiannus yn y meysydd yma. Llenwa'r r么l o darfwr heb darfu'n ormodol.

Rhyw gymeriad trasig gomig sy'n atgoffa un o Charlie Chaplin ar brydiau yw Wil Chips. Cafodd ei wrthod gan y fyddin wedi i deulu diniwed gael ei ladd yn Irac. Cafodd ei ddal mewn priodas chwerw sy'n fethiant, gyda'r wraig yn dwyn y plant oddi arno.

Ar ben hyn, teimla'n euog. Yn euog o droi ei gefn a gadael Cymru.

Dioddefa hefyd o euogrwydd y milwr.

Dydy pethau ddim yn dechrau yn addawol iddo'n y brifwyl. Colla'r beic ar gychwyn ei ddiwrnod o steddfota. Ond nid yw'n ildio i'r felan. Wedi'r cyfan mae'n eisteddfod.

Pendilia'r nofel rhwng ffuglen a hanes. Rhwng y dychymyg a'r gwirionedd.

Cof da gennyf o weld yr awdur Robin Llywelyn yn teipio'n frysiog chwyslyd englyn cyfarch y bardd cadeiriol ym Mhabell Gwyddoniaeth a Thechnoleg Meifod ychydig cyn y seremoni.

Cofiaf hefyd weld g诺r yn cyfarch y bardd mewn sbectol dywyll.

Ai cofnodi rhyw wirionedd a wna llenor Daniel Owen yn y nofel hon?

Do, fe ddigwyddodd gig Geraint Jarman a do, fe enillodd Twm Morys gyda'i awdl gampus, Drysau - awdl sydd fel geiriau Jarman yn cael eu gwerthfawrogi gan Wil ac yn ennill eu lle yn y nofel hon.

Ydy, y mae'n gofnod o eisteddfod. Ac nid unrhyw eisteddfod ond eisteddfod grasboeth Meifod. Yr eisteddfod ddialcohol, ddi-far olaf.

Gwirioneddau
Ac y mae yna wirioneddau yn britho'r gyfrol.
Faint yw gwerth ein llenyddiaeth tybed? Wedi i Wil Chips fwynhau'r awdl ymresyma: 'A'r gyfrol wedi costio'r un faint a'r hufen ia roeddwn i'n dechra meddwl fod y llyfr yn fargen'.(tud 69)

Wrth i'r gyfrol fwrw yn ei blaen, gwelir un o negeseuon yr awdur a'r dyn busnes Robin Llywelyn yn glir. Delyth sydd bia'r geiriau, y ferch y mae Wil Chips yn ymserchu ynddi.
Meddai yn feirniadol am y prif gymeriad; 'Ti'n disgwyl i betha ddigwydd i chdi. Dw i ddim yn disgwyl i ddim byd ddigwydd nad ydw i wedi'i greu o'n hun'(109)

Ac oes, mae yna ddigon o feirniadaeth gymdeithasol yma i bara tan y steddfod nesaf. Aiff Delyth yn ei blaen i leisio teimladau llawer o Gymry Cymraeg: 'Magu teulu Cymraeg yng nghefn gwlad Cymru. Ydi hynny'n ormod i'w ddisgwyl fel hawl sylfaenol? Sut fedrwn ni, a'r prisiau'n nadu inni groesi trothwy'r gwerthwyr eiddo?'(109)

Un arall o'r doethinebwyr yw Gwyn ap Llwyd. Meddai :'Erbyn i bobol sylwi be sy'n digwydd i'r hen fyd yma mi fydd hi'n Gantra'r Gaelod arnon ni i gyd.'

Angen siswrn
Mae'n siwr bydd ambell un yn teimlo y byddai siswrn y golygydd wedi tynhau a chryfhau ambell bennod.

Enghraifft o hyn yw'r drydedd bennod lle try'r prif gymeriad at y cyfrifiadur i olrhain negeseuon, gwybodaeth a chymorth gan y fyddin.

Huw Penmachno, Hywal Dimbach, Dei Congol y Wal a Gwyn Bont. Dyma'r criw sydd gyda Wil yn siarad iaith 'Stiniog.

Wrth gwrs mae Gwyn ap Llwyd bellach wedi mudo i Gaerdydd ond ymddengys i mi eu bod i gyd yn driw i'w tafodiaith - ond dim ond darllewyr 'Stiniog fedr benderfynu a ydy'r ddeialog yn gywir i'r glust. Ond un peth sy'n sicr, mae'r sgwrs yn llifo, a hwyl yn y dweud a'r tynnu coes.

Mwynheuais y nofel yn fawr.

Pleser a chwethin
Tybiaf y caiff llawer sydd wedi bod yn cerdded y brifwyl bob blwyddyn, yn gwybod rhywfaint am 'Y Pethe' ac wedi blasu rhialtwch nosweithiau'r eisteddfod, bleser a chwerthin o ddarllen y gyfrol hon.

Un peth sy'n sicr am waith Robin Llywelyn, mae o hyd yn llwyddo i daro nodyn gwahanol, nodyn ffres a difyr. Fel yr hen Ddaniel, mae gan 诺r busnes Portmeirion lygad a chlust dda i weu stori a'i gwerthu'n llwyddiannus.

Dengys y nofel hon pa mor bwysig yw'r eisteddfod i'n seicoleg ni'r Cymry. Er cydnabod ein sefyllfa fregus yn y sgyrsiau aml rhwng Gwyn Bont ac eraill, y mae syniadau ac ysbryd mentrus yn blaguro o'r sesiynnau, y seiadu a'r holl stwr.

Nofel am gymeriad yn deffro yw hon. Nofel am chwilio a chanfod. Ie,dyna sy'n medru digwydd mewn 'un diwrnod yn yr Eisteddfod'.

Cysylltiadau Perthnasol




cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy