麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cerddi Caerdydd
Ymwelwyr yn troi'n ddinasyddion
Adolygiad gan Grahame Davies o Cerddi Caerdydd, gol. Catrin Beard, (Gwasg Gomer, 2004, tud. 123. 拢6.95).

Go brin bod yr un ardal arall yng nghyfres Cerddi Fan Hyn gan Wasg Gomer wedi newid cymaint yn y blynyddoedd diweddar ag ardal Caerdydd.

Bu newidiadau mawr yn y cefn gwlad, wrth gwrs, yn sgil y cyfnewid poblogaeth, a newidiadau yn y cymoedd yn sgil tranc y diwydiannau trymion.

Clawr y llyfrOnd prosesau yw'r newidiadau hynny, waeth pa mor bellgyrhaeddol, tra bod y newid a ddaeth i ran y brifddinas gyda'r bleidlais ddatganoli yn 1997 yn fwy o ddigwyddiad, un sy'n gefndeuddwr sy'n rhannu cynnyrch barddoniaeth Gymraeg yr ardal hon yn dwt yn 'gynt' ac yn 'wedyn'.

Cyn ac 么l ddatganoli
Mae'r gyfrol hon yn delio gyda'r ddau gyfnod, a cheir cerddi cyn- ac 么l-ddatganoli ynddi, er i'r golygydd benderfynu trefnu'r cerddi yn 么l pwnc yn hytrach na chyfnod.

Mae Catrin Beard i'w chanmol am ddod o hyd i ddeunydd yn amrywio o rigymau gwerin traddodiadol yn dyddio o'r cyfnod pan oedd Caerdydd yn rhan o'r hen Forgannwg, hyd at gerddi gan fwy nag un person sydd bellach yn gweithio i Gynulliad Cymru yn y Bae.
Dyna rychwantu'r canrifoedd yn wir.

Ac ni chyfyngir y dewis i'r canon barddonol ychwaith.
Ceir yno gyfraniadau nodedig gan gerddorion fel Geraint Jarman a Meic Stevens, er enghraifft. Yn wir, i mi, mae cerddi Jarman ymhlith uchafbwyntiau'r gyfrol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill ceir cerdd wych gan Alan Llwyd yn s么n am ymweliad ag eglwys Sant Ioan Fedyddiwr.
Hynodir y gerdd gan ddifrifoldeb ei hamcan a chan y ffaith fod yr ymateb sydd ynddi mor ddwys a phersonol.

Bardd gwlad
Mae'n wahanol yn hynny o beth i lawer o'r cerddi eraill a gesglir yma, sydd yn ymdebygu'n fwy i gynnyrch bardd gwlad, yn lleisio ymatebion carfan o gymdeithas fel y cyfryw, ac sydd, o'r herwydd, yn llai uchelgeisiol.

Byddai fy ngherddi i fy hun a gynhwysir yma yn dod i'r ail gategori hwn.

Perl o gerdd
Un o'r trysorau eraill yw perl o gerdd mewn tafodiaith gan y diweddar John Rowlands, yn cofnodi cyfarfyddiad rhwng dau o Gwm Tawe yng nghaffi'r Hayes:
ble chi'n bilongin 'te?
Aberyshwelife?
jew chi'n gwpot am y str卯t?
beth o'dd e str卯t?
o'n i'n byw 'na
pwy gapel 'te?
wel jiw a fi

Ceir hefyd englyn penigamp i Sain Ffagan:
Bu'n fwthyn, rywle, unwaith; - do, cariwyd
Y cerrig yn berffaith;
Adeilad ydyw eilwaith
Ond wedi mynd y mae'i iaith.

Priodolir y gerdd honno, a enillodd gystadleuaeth Barddas ym 1997, i Hendre'r Dail, un o ddyrnaid o gerddi anhysbys a ymddengys yn y gyfrol.

Datrys dirgelwch
Fel mater o ddiddordeb, gallaf ddatrys cwestiwn awduriaeth o leiaf ddwy o'r cerddi a briodolir i Anhysbys, sef Cerdd Fawr Caerdydd 2 a Cerdd Fawr Caerdydd 3, gan mai'r awdur presennol a'i comisiynwyd i'w llunio ar gyfer menter y Gerdd Fawr ychydig flynyddoedd yn 么l.

O roi y ddwy gerdd yna i fy nghownt, caf mai minnau a Geraint Jarman sydd gydradd gyntaf o ran nifer ein cerddi a gynhwysir yn y gyfrol.
Dyna fi, felly, ar yr un lefel ag un o fy arwyr - o leiaf o ran nifer cyfraniadau, os nad o ran safon!

Cyfosod celfydd
Mae'r golygydd wedi bod yn gelfydd yn cyfosod cerddi sydd yn ymwneud 芒'r un profiadau, neu'r un lleoliadau.

Rhydd hynny gyfle i gymharu ymatebion beirdd gwahanol i'r un ysgogiadau.

Serch hynny, cefais fy hun yn dyheu am gael nodyn ar y tudalennau i ddangos blwyddyn, neu o leiaf gyfnod y cerddi mewn cwestiwn.

Mae'n wir y nodir llawer o ddyddiadau'r cerddi yn y mynegai yn y cefn ond mi fuasai'n braf medru lleoli cerdd yn ei chyfnod heb orfod croes-gyfeirio, gan fod byd o wahaniaeth rhwng cerddi Caerdydd cyn datganoli, a cherddi'r cyfnod wedi hynny.

Ynddo'i hun, mae'n rhwystredig i beidio gwybod a ddaw cerdd o'r 70au neu o 2004.

Gwan ac ystydebol
Wrth gasglu rhyw gant o gerddi ar un thema fel hyn, mae'n anochel y bydd amrywiaeth yn y safon, a cheir nifer o gerddi llai sylweddol yma, yn wan ac ystrydebol eu mynegiant, ac yn arwynebol eu gweledigaeth.

Tybed a yw diniweidrwydd yn rhinwedd sydd wedi ei gorbrisio?
Teimlaf weithiau y gall esgor ar ymateb sydd heb ddeall hanfod y sefyllfa dan sylw ac sy'n bodoli ar edrych ar allanolion.

Teimlaf fod nifer o'r cerddi yma wedi eu handwyo gan yr agwedd hon, wrth i ryw fydolwg diniwed, gwladaidd, lygad-rythu ar y ddinas fawr ddrwg.

Ceir enghreifftiau o'r math yma o ymateb drwy gydol y cyfnodau a gesglir yn y llyfr, gan gynnwys hyd yn oed gyfraniadau rhai o feirdd ifanc y presennol.
Mae'r profiad dinesig yn amlwg yn creu rhyw sioc ddiwylliannol o hyd.

Mynd dan y croen
Llawer mwy llwyddiannus yw'r cerddi hynny sydd yn gweld y ddinas o'r tu fewn, a lle eir o dan groen y lle.

Ceir llawer o enghreifftiau o'r rhain gan feirdd fel Emyr Lewis, Mererid Hopwood, Gwyneth Lewis, Elinor Wyn Reynolds ac Iwan Llwyd, ynghyd 芒 Jarman a Stevens, a grybwyllwyd eisoes.

Un o nodweddion y cerddi gorau yma yw nad allanolion y ddinas sydd yn mynd 芒'r sylw, ond bod y ddinas yn gefndir ar gyfer ymdriniaethau 芒 materion eraill, megis serch, marwoldeb, perthyn, ac yn y blaen.
Golwg trigolyn yn hytrach nag ymwelydd.

Mae'r gyfrol hon yn arweiniad gwych i farddoniaeth Gymraeg y brifddinas, a gwelir ynddi y broses araf, ond angenrheidiol, o ymwelwyr yn troi'n ddinasyddion.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy