麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
M么r Goleuni - Tir Tywyll
Adolygiad Gwyn Griffiths o M么r Goleuni - Tir Tywyll gan Aled Rhys Hughes a Damian Walford DaviesGomer. 拢14.99


Lluniau heb bobol gyda geiriau Waldo
Wrth fodio drwy ddarluniau cyfoethog Aled Rhys Hughes yn y gyfrol hardd M么r Goleuni Tir Tywyll y geiriau coffee-tableddaeth i'm meddwl.

Mae'n amlwg i rywbeth tebyg fynd drwy feddwl y golygydd, Damian Walford Davies, hefyd gan ei fod yn dweud yn ei ragair nad "coffee-table pastoralism" yw nod y gyfrol.

Clawr y llyfrYn y traddodiad argraffu Prydeinig y duedd yw cael llyfrau gyda llawer iawn o luniau a dim llawer o eiriau, neu lyfrau gyda llawer iawn o eiriau heb lawer o luniau.

Nid ydym ni yng Nghymru, fwy nag yn Lloegr, wedi llwyddo - neu efallai, fentro - i gyfuno yn yr un gyfrol luniau cyfoethog gyda llwyth go dda o lenyddiaeth.

Byr, byr
Yn y gyfrol hon ceir dyfyniad byr, byr, o waith Waldo Williams wedi ei osod gyferbyn 芒 llun.

Darn o gerdd gawn ni gan amlaf ond, weithiau, gwelir brawddeg o lythyr neu adolygiad neu erthygl o'i waith a gyhoeddwyd mewn cylchgrawn neu bapur newydd.

A chan fod cyn lleied o eiriau yn y gyfrol i gyd roedd yn anhygoel canfod cam ddyfynnu trychinebus o Preseli - un o gerddi enwocaf y bardd ar dudalen 108. Dyma a ddylai fod:
Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw.

Dim pobl
Cefais fy mhlesio'n fawr ar yr olwg gyntaf - a chael llawer o fwynhad yn troi'n 么l a blaen o'r darluniau i'r ddalen olaf i ganfod lleoliadau'r lluniau.

Onf wn i ddim pam na ellid fod wedi cynnwys hynny o wybodaeth ar y tudalen - wedi'r cwbl nodir enwau'r cerddi a ffynhonellau'r dyfyniadau ar y tudalen gyferbyn.

Wedyn dechreuais feddwl mwy am Waldo'r bardd.
Bardd brawdoliaeth, bardd a welodd fod "dynion, yn gyntaf dim, yn frodyr i'w gilydd". Bardd sy'n s么n am "y perci llawn pobl". Am "Menywod".

Ond does dim pobl ymysg holl ddelweddau gwych Aled Rhys Hughes.
Mae yma dirwedd sy'n awgrymu 么l llaw dyn; ambell gerflun, croes neu ddwy, ambell ddarn o offer fferm wedi'i ollwng yn y clawdd.
Ond dim pobl.
Natur yw'r gwrthych pennaf.

Cymhleth a chythryblus
Yn y rhagair mae Damian Walford Davies yn gwneud ymdrech arwrol i gyfiawnhau hyn drwy ddweud nad "ieuad syml a chyfosod cymharus" sydd yma ond bod rhwng y geiriau a'r ddelwedd "(b)erthynas fwy cymhleth a chythryblus".

Cythryblus i mi, am y cawn drafferth yn aml i ganfod unrhyw fath o gyswllt.
Y teimlad g锚s i oedd fod yma ymdrech go fawr i sodro gair a delwedd wrth ei gilydd a chyfiawnhau hynny wedyn yn y rhagair.

Effaith y gair ar yr ymenydd a'r emosiwn a'i s诺n a'i fiwsig yn y glust - rywle fan yna, goelia i, mae rhin barddoniaeth. Ychwanegwch allu'r bardd i danio dychymyg y darllenydd neu wrandawr, a fan yna mae'r broblem yn codi.

Fel y dywedodd ryw hen wraig fach pan gafodd ei theledu cyntaf, "Mae e'n neis iawn, ond mae'r llunie'n well ar y weiarles.".

Os nad yw'r llun a'r gair bob amser yn cydfynd yn berffaith, gwell hepgor y llun a rhoi rhyddid i'r dychymyg. A fedra i ddim gweld bod y briodas yn M么r Goleuni yn gyt没n na llwyddiannus bob tro.

Gwirioneddol fendigedig
Yr hyn sy'n ddifyr yw fod y lluniau'n wirioneddol fendigedig a fy ymateb i oedd ysu am esgus i ddychwelyd eto i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda, a Phorth Maenmelyn, Pencaer, a'r llu llefydd eraill a bortreadir yn y gyfrol.

Wrth gwrs, dyna amcan y llyfr "coffee-table" ac fel llyfr felly y cafodd ei ddisgrifio gan y cyhoeddwyr, beth bynnag am y golygydd.

Fe wnaeth imi, hefyd, dynnu fy nghyfrol o Dail Pren oddi ar y silff.

Cysylltiadau Perthnasol




cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy