麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Waldo Williams
Llyfr canmlwyddiant ei eni
A hithau eleni yn ganmlwyddiant geni un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru cyhoeddwyd llyfr go arbennig i gofio Waldo Williams.




Nos Lun, Medi 20,y cyhoeddwyd y gyfrol arbennig amdano wedi ei golygu gan Damian Walford Davies sy'n arbenigwr cydnabyddedig ar waith y bardd.

Disgrifir M么r Goleuni / Tir Tywyll fel cyfrol bwrdd coffi gan y cyhoeddwyr, Gomer, ac mae'n cynnwys detholiad o ddyfyniadau o farddoniaeth a rhyddiaith Waldo Williams ochr yn ochr 芒 lluniau lliw o amrywiol ardaloedd yn ei fro.

Arddangosfa o'r lluniau
Bydd y lluniau, a dynnwyd gan Aled Rhys Hughes, sy'n ddarlithydd mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr , i'w gweld mewn arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth tan Rhagfyr 31, 2004.

Damian Walford Davies ddewisodd y dyfyniadau i'w gosod gyda'r lluniau.

Clawr y llyfr"Dramateiddia delweddau grymus Aled Rhys Hughes gymhlethdod gweledigaeth Waldo," meddai.

"Llwydda'r delweddau i ddiriaethu cysyniadau creiddiol Waldo - goleuni, tywyllwch, ffenestr, cwmwl, bwlch, gwreiddyn, pren - mewn modd sydd hefyd yn cyfleu eu p诺er trosiadol," ychwanegodd.

Hoff fardd
Nid yn unig yr oedd Waldo Williams, a fu farw yn 1971, yn un o feirdd mwyaf blaenllaw y Gymraeg ond mae'n parhau hefyd yn fardd hynod o boblogaidd sy'n cael ei enwi byth a hefyd fel eu hoff fardd gan rai sy'n ateb holiaduron.

Disgrifwyd ef fel person hynod o deimladwy yn meddu ar ddiniweidrwydd ac onestrwydd plentyn.

Ond yr oedd yn ddyn penderfynol hefyd a wnaeth sawl safiad moesol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd yr oedd yn heddychwr ac yn y pumdegau gwrthododd dalu treth incwm er mwyn dangos ei wrthwynebiad i gofrestriad milwrol gorfodol - conscriotion.

Fe'i carcharwyd fwy nag unwaith a dygwyd dodrefn oddi arno gan feiliaid.

Gadawodd ei swydd yn athro pan ddechreuwyd tynnu treth incwm yn syth o'i gyflog gan ddod yn ddarlithydd allanol yn Aberystwyth lle'r oedd yn gyfrifol am dalu ei dreth ei hun.

Poeni am ddifrawder
Dywedir ei fod yn pryderu hyd at boen bron am ddifrawder dyn tuag at ei gyd-ddyn.

Yr oedd ei genedlaetholdeb hefyd wedi ei sylfaenu ar egwyddorion crefyddol cryf fel Crynwr.

Sail ei weledigaeth wleidyddol oedd un o ryddid a thegwch i unigolion heb ymyrraeth llywodraethau.

Yn ei Gymru ef byddai grym llywodraeth ganol yn mynd i awdurdodau lleol a byddai gweithwyr 芒 rhan yn rhedeg diwydiant.

Drwyddi draw mae pwyslais ei farddoniaeth ar gariad brawdol.

Yn ei fywyd personol cafodd brofedigaeth fawr pan fu farw ei wraig, Linda, yn 1943, wedi cwta flwyddyn o fywyd priodasol a gadawodd yntau Gymru yn 1944 i fod yn athro yn swydd Wiltshire.

Yn 么l y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru; "Ysgrifennodd ei farddoniaeth fwyaf ingol yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd ffrwydro'r bomiau atomig dros Hiroshima a Nagasaki."

Atgofion personol am Waldo:
Mae eleni yn ganmlwyddiant geni pedwar llenor Cymraeg o bwys: Euros Bowen, John Gwilym Jones, Caradog Prichard a Waldo Williams. Mae hefyd yn ganmlwyddiant Gwyn Williams a fu'n gyfrifol am gyfieithu cymaint o farddoniaeth Gymraeg i'r Saesneg.

Cysylltiadau Perthnasol




cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy