麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhwng y Nefoedd a Las Vegas
Adolygiad Caron Edwards o Rhwng y Nefoedd a Las Vegas gan Elin Llwyd Morgan, 拢6.95, Y Lolfa.
Rhwng y Nefoedd a Las Vegas yw nofel gyntaf Elin Llwyd Morgan ac mae pethau'n argoeli'n dda o'r dechrau - gyda'r teitl ei hun. Dydy hi heb ail-fedyddio prifddinas gormodiaeth yr Unol Daleithiau gyda'r 'F' bondigrybwyll, ond yn hytrach wedi glynu at y 'V' 'goman', ddi-Gymreig wreiddiol.Clawr y llyfr

Roedd hi'n addawol iawn y buasem yn dwyn ymlaen yn gr锚t. Ac felly y bu, am ran helaetha'r gyfrol, beth bynnag.

Nofel ydyw sy'n cynnig trafodaeth am gymhlethdod perthnasau emosiynol ac yn gwneud hynny mewn dwy ran. Strwythur cynllun o'r fath, fel arfer, yw defnyddio'r rhan gyntaf i osod baglau a rhwystrau yn llwybr y prif gymeriad, cyn symud i ail ran o ddatrys a denoument.

Hynny a geir yma, er i'r awdur geisio'i addurno a'i guddio mewn mantell fymryn yn fwy cymhleth ar yr olwg gyntaf.

Aduniad coleg
Sbardun y stori yw'r addewid am aduniad coleg sy'n gyfle i gyflwyno'r holl gymeriadau a hanes y berthynas rhyngddynt.

Mae'r achlysur yn un arwyddocaol iawn i'r prif gymeriad, Alys, sy'n briod 芒 Mal, gyda dau o blant, Si么n a Cadi, ac sy'n ferch i Aelod Seneddol, o'r enw - yn ddiddorol iawn - Joshua Palance.

Dilema Alys yw cyfarfod Ifor Stone unwaith eto, hen gariad sydd heb lwyr adael ei chalon na'i hemosiynau.

Dyma greu'r rhwystrau a'r cymhlethdodau felly, ac o hyn allan, yn ail ran y nofel, mae'r awdur yn camu o un cymeriad i'r llall - y teulu, y criw ffrindiau, pawb ond Ifor - sy'n parhau i fod yn ffigur anghyraeddadwy, ac o ganlyniad, yn mynd yn fwy dirgel.

Dwy ochr i bob storiYn y rhan gyntaf, gwelwn bopeth trwy lygaid Alys ond buan y down i ddysgu fod dwy ochr i bob stori ac nad yw popeth yr hyn 芒 ymddengys ar yr olwg gyntaf.

Diddorol yw gweld mai darlun Salvadore Dali, Muchacha en la Ventana a ddewiswyd yn glawr.

Mae'r nofel ei hun, fel un o baentiadau'r artist hwnnw, yn swreal, yn hofran yn yr adfyd rhwng realiti a ffantasi ac yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb, gan ddibynnu o ba ongl yr edrychir arno.

Mae unigrwydd a dyhead y ferch yn y darlun yn ymgorfforiad o unigedd nid yn unig Alys ond ymron bob un o'r cymeriadau y cyfarfyddwn 芒 hwy.

Unigoleddau'n bodoli yn yr un gofod, heb fyth fod yn cyffwrdd. Na chwaith ddod yn ymwybodol o dymhestloedd eraill.

Gofod o gamddealltwriaethau ac o gamddehongli.

Emosiynau duach
Yn ogystal 芒 thrafod yr hyn sydd fel arfer yn cael ei sgubo tan garped y cartref Cymreig, megis anffyddlondeb, mae hefyd yn ymdrin a rhai o deimladau ac emosiynau duach unigolyn, yn bennaf trwy chwalu'r myth o'r fam gariadus sy'n rhiant yn bennaf, ac yn ddynes yn ail.

Y manion bethau mawr mewn bywyd, megis "y diflastod a'r undonedd o fod adra'n magu plant."

Caiff hyn ei gyfosod yn effeithiol iawn 芒 ffalsrwydd sgleiniog Las Vegas yn gefndir.

Mae'r ddinas hon yn un cawdel o baradocsau a sy'n taro rhyw haen bron yn newydd ar bopeth - ar yr wyneb - ond sydd yn ei hanfod yn anwiredd oll.

Darlunnir hyn yn graff o gynnil gan Elin Llwyd Morgan dro ar 么l tro. Un o'r enghreifftiau gorau o hyn yw'r disgrifiad o stafell ymolchi'r gwesty 芒'i "goleuadau myglyd yn gelwyddog o gl锚n."

Digri a dwys
Mae yma gydbwysedd rhwng y digri a'r dwys gyda rhyw ddynoldeb agored, amrwd, ar brydiau'n perthyn i'r ysgrifennu.

Ac mae'r rhyddiaith honno'n llifo'n rhwydd ac yn ystwyth, yn llwyddo i swnio'n gwbl naturiol heb orddibynnu ar fratiaith. A thrwyddi draw, mae'r iaith yn cyfoethogi'r stori.

Y cyfeiriadau crafog, "Iola Elan Glynu fel Gelan", yr asides bachog, "genod trin gwallt, ysgrifenyddesau - y math o genod sy'n dal i fod a thedi b锚rs ar eu gwl芒u."

Sylwadau o'r math yma y mae rhywun yn eu 'twt-twtio' yng ngŵydd eraill, ond sy'n fendigedig o bitchy a doniol serch hynny.
Y natur ddynol yn ei holl ysblander.
Ac mae'n llwyddo i drin a thrafod natur gynhenid unigolyn, o fod yn hunanol, yn hunandosturiol, yn afresymol, a hynny heb golli gafael ar ei chynulleidfa nac ar eu cydymdeimlad hwy.

Enw cymeriad
Pe bawn wir eisiau canfod beiau, rwy'n gweld y dewis o gyfenw 'Palance' yn un amwys. O gysidro bod tipyn o gyfeiriadau tuag at gelfyddyd a cherddoriaeth yn y nofel, enwau megis Elvis Presley, Dolly Parton, Y Cyrff ac ati, hoffwn feddwl fod cysylltiad rhwng y dewis a'r actor hwnnw, Jack Palance, ond nid yw'n amlwg bod.

Hwyrach fod y camddehongli yn ymestyn mor bell 芒 hyn, yn y ffaith fod wyneb Jack Palance, o ganlyniad i ddamwain ddrwg, yn golygu mai'r 'baddie' oedd ei ran yn dragywydd, er mai ei rinwedd fel actor oedd yn ei alluogi i wisgo amryw o fygydau gwahanol.

Mae hyn yn wir am Alys a'i ffrindiau - llawer ohonynt yn closio yn ystod ymarferion o berfformiad coleg o ddrama Arthur Miller, The Crucible.

Nid yn unig fod hyn yn rhagflaenu hanes y criw i raddau, o ddyheu chwantus ac o edifarhau, ond mae hefyd yn eu galluogi i gynnal yr act gydol eu perthynas a'i gilydd.

Ac er bod y perfformiad yn wahanol, act ydyw wedi'r cwbl.

Mae Rhwng y Nefoedd a Las Vegas yn nofel gyntaf, hyderus a soffistigedig. Mae yma ymwybyddiaeth graff o ymddygiad pobl, o sylwi ar fanylion bychain sy'n dweud cyfrolau.

Prin yw'r driniaeth o dor-priodas ac o ail briodi mewn llenyddiaeth Gymraeg a hynny'n dipyn o syndod o ystyried peth mor gyffredin yw tor-priodas yn ein cymdeithas gyfoes.

Mae'n chwa o awyr iach, felly, cael nofel yn gwneud yr union beth yma. A phwy a ŵyr, hwyrach yn y gyfrol nesaf, y bydd yn fwy beiddgar fyth, ac yn fodlon cynnal cyfrol gyfan am hyn.

Ta beth, roeddwn yn falch imi ddilyn fy ngreddf, ac rwy'n eich annog chithau i gael gafael ar gopi cyn gynted 芒 phosib. Chewch chi mo'ch siomi yn eich taith i fyd Alys a'i ffrindiau.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Elin Llwyd Morgan


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy