Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec ac Amser Amherffaith
Adolygiad Caron Edwards o Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec/Amser Amherffaith gan Emyr Lewis. (Gwasg Carreg Gwalch)


Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec/Amser Amherffaith (Gwasg Carreg Gwalch) yw cyfrol ddiweddaraf Emyr Lewis, bardd a roddodd inni eisoes y gyfrol Chwarae Mig ymysg gweithiau eraill.

Clawr y llyfr Fel yr awgryma'r teitl, ceir dwy gyfrol mewn gwirionedd gyda'r rhan flaenaf, Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec, yn trin, trafod a thraddodi mewn mydr hwyliog ysgafn.

Yna, mae'r tu cefn, (ac yn addas iawn, wyneb i waered) yn ymwneud â dwysterau bywyd.

Blaengar iawn
Ar yr olwg gyntaf, hwyrach y gall hyn ymddangos yn ddewis od ar ran y cyhoeddwyr, ond rwyf o'r farn ei fod yn addas ac yn flaengar iawn.

Wedi'r cyfan, ffin denau iawn sydd rhwng hapusrwydd a thristwch.

A dweud y gwir, yr un yw crio a chwerthin, dim ond y cywair sy'n wahanol gyda'r emosiwn gwaelodol yn parhau yr un fath.

Rydw i hefyd yn hoff o'r syniad y gall rhywun gario'r gyfrol o gwmpas a phori drwyddi dow-dow, gan ddewis cerdd naill ai i ymgolli ynddi neu i godi'r galon.

Crwbanod llên
Yn ei ragarweiniad i'r gerdd agoriadol, sy'n dwyn yr un enw â theitl un rhan o'r gyfrol, datgan y bardd na fu "erioed fawr o deithiwr barddol" gan ymhelaethu trwy gyfeirio at feirdd teithiol fel "crwbanod llên".

Efallai ei fod yn ddisgrifiad teg o rai ond, yn sicr, nid dyma'r gwir am y gerdd hon.

Mae'r mydr yn llamu gan awgrymu cân sionc, hwyliog ac er bod elfennau digri iawn yma, fel â'r hiwmor gorau i gyd, mae islais o rywbeth tywyllach yn llifo nid nepell o'r wyneb:
Colloquial Czech ydy enw
y gyfrol sy'n cynnig y cwrs
sy'n llawn ymadroddion defnyddiol
os wyt am berffeithio dy sgwrs...

Yn amlwg, mae yma wamalu am aneffeithiolrwydd llyfrau o'r fath. Am ddysgu ar gof frawddegau i ofyn am frechdan ham, neu am gyfarwyddiadau i'r lle a'r lle, sy'n f'atgoffa i o wersi Ffrangeg cynnar yn yr ysgol.

Brawddegau sy'n galluogi'r siaradwr i honni fod ganddo ef/hi afael ar yr iaith. Ond, o dreiddio'n ddyfnach, credaf fod yma gyfeirio at ffalsrwydd geirfa pob dydd, a'n defnydd ffwr' a hi ni ohoni.

Gall rhywun raffu brawddegau wrth ei gilydd, ond mae llunio ystyr yn dipyn o gamp.

Cerdd y cefais dipyn o flas arni yn y gyfrol oedd Cywydd y Lowt o Latai.
Fel ag yn ei gerddi i gyd, mae'n amlwg yma mai gwaed dinesig sy'n rhedeg drwy ei wythiennau, a daw â sŵn a stŵr Caerdydd yn fyw yn ei ieithwedd a'i ddelweddau;
Dyn lled wan a llwyd ei wedd,
miniog a diamynedd
a dwfn iawn wyf, di-fwynhau,
hogyn dinas gwên-denau.
Ofnaf na fedraf, yn fyr, fod yn nyt am fyd natur.

Rhediad braf
Nid yw'r gallu i gynganeddu'n golygu o anghenraid y gallu i gywydda ond mae hon yn enghraifft wych o'r hyn a gredaf y dylai cerdd fod yn ei hanfod.

Mae rhediad y cywydd yn braf a chlec cynghanedd iddo - a'r gynghanedd honno'n cyfrannu rhywbeth at y dweud.

Bron nad yw Miniog a diamynedd yn onomatopoeig yn ei wisg stacato.

Rwy'n mwynhau'r gwrthgyferbyniad tafod yn y boch gyda'r traddodiad barddol o ganu am natur a'i wychderau. Ymfalchiodd rhai o'r beirdd gorau, o T.S. Eliot i T.H. Parry Williams, yn rhagoriaeth byd natur dros erchyllterau'r ddinas, a braf yw gweld cefnogaeth i'r ddinas yn cael llais.

Trwy ddefnyddio ieithwedd fyw llwydda Emyr Lewis i roi aml haen i'r mynegiant.

Ceir enghraifft o hyn yn ei arwrgan i'r chwaraewr rygbi, Neil Jenkins;
...pan fo'r mwd yn dew
yn bwdin, a'r cae'n bydew.

Dyma saer geiriau wrth ei waith. Rhywun sy'n mwynhau sŵn, teimlad a gafael geiriau gan gyffroi'r holl synhwyrau gyda'i ddisgrifiadau.
ac yn gwneud hynny heb ormodiaeth.



Pyllau llonyddTra bod Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec yn fyrlymus ei mydr, mae cerddi Amser Amherffaith yn ymdebygu fwy i byllau llonydd i syllu, synfyfyrio ac ymgolli ynddynt.

Os mai prysurdeb oriau brig dinas yw canolbwynt llawer o'r rhan gyntaf, mae'r ail ran yn manylu ar dylluanod nos y ddinas a'i strydoedd cefn liw nos.

Crynhoir hyn yng nghynildeb Nid yw Adar yn Aros:
...nes daw'n nos sydyn, a hi'n
awyr wag yn llawn rhegi
golau coch, ac oglau car,
a gwaed; ond gwag o adar.

Cyfoethoga'r gynghanedd y disgrifiad trwy bwysleisio'r agwedd adleisiol a geir mewn gwactod.

Pe byddai'n rhaid imi ddewis un gerdd, credaf mai'r un a'm swynodd fwyaf oedd Dan Ddylanwad gyda'i dweud syml yn cyferbynnu mor effeithiol ag erchyllterau dwys yr hyn a ddisgrifir.

Mae'n drawiadol iawn â'r holl emosiwn yn ffrwtian dan yr wyneb.
A dyma un o themau amlycaf Emyr Lewis.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý