麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Gaucho o'r Ffos Halen
Adolygiad gan Glyn Evans o Y Gaucho o'r Ffos Halen gan Carlos D Ferrari. Cyfieithiad Gareth Miles. Carreg Gwalch. 拢7.


Mae rhai ohonom yn cofio, flynyddoedd yn 么l, fwynhad a gafwyd o lyfrau am 'gowbois' Cymraeg o gymharu 芒'r rhai Saesneg eu hiaith hynny a fyddem yn eu gweld yn y pictiwrs.

Yn cofio bod yn gaeth i Y March Coch gan R. Bryn Williams ar radio yn gyntaf, oddeutu 1949, ac wedyn yn y comic Hwyl ac yn nofel ar 么l hynny.

Ym 1950 enillodd yr un awdur, R Bryn Williams, wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili gyda'i Bandit yr Andes a ddaeth hefyd yn ddrama radio boblogaidd.

Cyn yr un o'r ddwy yma roedd Bryn Williams wedi cyhoeddi Straeon Patagonia yn adrodd ymhlith hanesion eraill hanesyn y ceffyl rhyfeddol, Malacara, a achubodd fywyd John Daniel Evans.

Ond er bod tebygrwydd rhwng ei nofelau ef a'r Westerns Saesneg straeon cwbl Gymreig oeddan nhw am Gymry yn y Wladfa a sefydlwyd ganddynt ym Mhatagonia, yr Ariannin.

Wedi'r bwrlwm hwnnw bu'n hirlwm oni bai am ddwy nofel arall a gyhoeddwyd eto gan R. Bryn Williams ddiwedd y chwedegau a dechrau'r saithdegau, Y Rebel ac Agar.

Aur llenyddol
Mae'n rhywfaint o syndod i wyth茂en mor gyfoethog a naturiol Gymraeg esgor ar gyn lleied o aur llenyddol. Ond ychydig drybeilig o weithio a fu arni ar wah芒n i ymdrechion clodwiw Bryn Williams.

Hyd yn oed pan ddaeth teledu Cymraeg i'w oed ni fu'r cefndir hwn sy'n gyfuniad amheuthun o'r dieithr a'r cyfarwydd yn sbardun.

Sgrifennu yn Sbaeneg
O ganlyniad, mae Y Gaucho o'r Ffos Halen y nofel Gymraeg gyntaf a'i chefndir yng Ngwladfa Patagonia i'w chyhoeddi ers blynyddoedd lawer.

Clawr y llyfr Nid nofel Gymraeg wreiddiol yw hi ond un wedi ei sgrifennu yn Sbaeneg yn gyntaf gan un o dras Gymreig sy'n byw yn Y Wladfa, Carlos D Ferrari.

Yn gyfuniad o nofel serch a nofel hanes mae'n cychwyn ar fwrdd y Mimosa a'r fintai gyntaf o ymfudwyr o Gymry yn cyrraedd Patagonia.

Ni all unrhyw un a ymwelodd 芒 Phatagonia, a gweld natur yr amgylchedd naturiol yno, beidio 芒 dyfalu beth oedd ymateb y Cymry hyn i'w golwg gyntaf ar y tir cras ac anghroesawgar hwn - yn enwedig 芒 hwythau wedi'u harwain i gredu fod tiroedd ffrwythlon, ir, yn eu disgwyl.

Mae'r ymateb hwnnw yn cael ei gyfleu yn effeithiol iawn yn Y Gaucho o'r Ffos Halen.

"Gobeithion twyllodrus oedd y rhain. Cafwyd, wedi glanio, fod y ddarpariaeth yn wahanol iawn i'r disgwyl. Nid oedd y llety ond hoewal cyfyng, simsan, na wn芒i lawer i warchod ei breswylwyr rhag yr oerwynt a chwythai o'r m么r . . . fe'u synnwyd gan grinder diflas y wlad y tu hwnt i'r traeth. Y rhyfeddod pennaf oedd nad oedd yr un goeden i'w gweld yn unman . . .

"Enynnodd dieithrwch ac ansicrwydd eu hamgylchiadau i lawer o anghydfod a ffraeo . . .er gwaethaf areithiau huawdl, tanbaid, Edwin Roberts a addawai bethau gwych iawn i ddyfod. . ."

Ond caledi, siom ac hyd yn oed drychinebau a ddaeth i drethu dewrder y Cymry a hynny'n cael ei amlygu drwy hanes arwr y nofel, Ifor Randal Thomas, a'i gymhlethdodau teuluol. Er, go brin fod angen dweud, "adlewyrchai sefyllfa'r teulu Thomas argyfwng cyffredinol y Wladfa" i'r darllenydd sylweddoli hynny.

Butch a Sundance
Cawn yr argraff ar y cychwyn mai ailadrodd hanes yr ymsefydlu trwy ei lygaid ef a'i deulu yw'r unig fwriad ond er bod hynny'n digwydd mae stori'n tyfu hefyd gan gyrraedd ei phenllanw gydag ymweliad Butch Cassidy a'r Sundance Kid a chartref Ifor a charwriaeth Ifor ag Etta Place, gwraig Sundance.

Dydi hyn ddim mor ffans茂ol ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf.

Bu Butch a Sundance yn byw ar eu hysbail yn Cholila ar gyrion Y Wladfa ac y mae'n wir iddyn nhw fod yn cymysgu 芒'r Cymry gan hyd yn oed ymweld 芒 chartrefi ambell un a gwneud cryn argraff oherwydd eu hymarweddiad foneddigaidd "a'u Saesneg da" yn 么l un sy'n cofio'r straeon amdanynt.

O safbwynt stor茂ol dyma ran fwyaf gafaelgar y nofel gyda'r awdur yn anhuddo tyndra'n ofalus hamddenol a chreu awyrgylch o beryg ac ofn wrth i Ifor ddangos iddyn nhw, yn ei ddiniweidrwydd, bot o aur y mae wedi ei gasglu .

Mae'r amseru yma, wrth adrodd, yn gelfydd tu hwnt a'r stori am gariad coll yr Ifor claf o serch yn llawn sensitifrwydd.

Dyma yn sicr ran orau y llyfr o safbwynt nofelaidd.

Caledi a dewrder
Ond mae i'r gweddill rinweddau hefyd ac yn profi unwaith eto offeryn pa mor effeithiol yw ffuglen i drosglwyddo Hanes.

Mae'r diddordeb sy'n deillio o weddill y nofel yn ymestyn o'r wybodaeth am helyntion a chaledi a dewrder gwladychu a chydol yr amser mae cyffyrddiad yr awdur yn sicr.

Dim ond ymhellach yn y nofel y sylweddolwn pwy sy'n dweud y stori ac y mae hynny yn egluro'r arddull sydd weithiau'n ymddangos yn hen ffasiwn ond, wedi arfer 芒 hi, yn gweddu i'r dim i gefndir a chyfnod y nofel - er bod rhywun yn ofni y gall anystwythder yn y naratif brofi'n dramgwydd i rai darllenwyr.

Yn gwbl naturiol; yn unol a symlrwydd y gwaith ac heb ymddangos yn hunandybus, pregethwrol na phwysfawr mae cwestiynau fel hunaniaeth a gwreiddiau yn bynciau trafod wrth i'r Cymry ddygymod a deuoliaeth bod yn hen genedl yn ceisio diogelu ei diwylliant a'i ffordd o fyw dan ddylanwadau gwlad ddieithr.

"Un o blant yr Ariannin a Phatagonia wyf i, merch i Gymro a Chymraes oedd ymhlith y fintai wladfaol gyntaf," meddai'r storiwraig wrth drafod y dylanwadau arni. Dylanwadau amgylcheddol "awelon a dsdaw o'r paith ac o'r meysydd - m诺g o d芒n coed, alffalfa newydd ei doirri" a "chwaon chwys a baco" a lynai wrth ddillad y dynion ar y naill law a hen werthoedd ei chenedl ar y lall .

Carlos D Ferrari a Gareth Miles"Rwy'n s么n . . . am y Gwladfawyr hynny, heb ddim ond rhawiau a nerth b么n braich, fu'n cydymdrechu ac yn cydweithredu . . . am y mamau a roddodd enedigaeth i'w plant yn nhywyllwch rhynllyd y bythynnod pridd, a lwyddodd i fwydo eu teuluoedd pan oedd newyn . . . ac a wedd茂ai wrth erchwyn gwely plentyn claf pan nad oedd yr un feddyginiaeth heblaw'r ffydd Gristnogol ar gael."

Os nad yw'n gwneud dim arall mae'r nofel hon yn dangos sut y gall amgylchiadau arbennig ac adfyd greu pobl arbennig hefyd.

Diolch am ei chael yn y Gymraeg.

Dengys hefyd bod yn y chwarel arbennig hon ddigonedd o straeon eraill i'w cloddio a chyda'r deffroad newydd yn yr ymwybyddiaeth o Gymreictod yn y Wladfa gellir gobeithio y bydd eraill am efelychu ymdrech Carlos Ferrari a Gareth Miles - a'r teledu yn gweld gwerth yn hynny hefyd.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy