麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Walia Wigli
Y dyn wedi dwad yn 么l!
Adolygiad Dafydd Meirion o Walia Wigli gan Dafydd Huws. Y Lolfa.
Mae'r dyn wedi dwad eto, a hynny am y trydydd tro mewn bron i drigain mlynedd.
Dyddiadur Dyn Dwad (1978), Un Peth ydy Priodi ... (1990) a rwan Walia Wigli.

"Nofel gan Dafydd Huws," meddai'r geiriau dan y teitl, ond mae hi'n fwy o sgrap-bwc personol yr awdur.

Mae'r cymeriad yn cyfaddef ei fod yn cadw pob sgrapyn o bapur yn ei atig - mi gaiff ddefnydd iddo rhyw ddydd ac, yn wir, mae rhywbeth ddywedais i wrtho dros ddeng mlynedd ar hugain yn 么l wedi ymddangos!

Mae ffurflen y cyfrifiad yn rhedeg drwy'r llyfr gydag ymdrechion Goronwy Jones i'w llenwi i'w gweld bob hyn a hyn. Ond alla i ddim gweld bod hyn yn ychwanegu fawr ddim at y llyfr.

Draig o ddynes
Os cofiwch chi, un o Gaernarfon ddaeth lawr i Gaerdydd i chwilio am waith oedd Goronwy Jones (alter ego'r awdur), un o'r werin oedd o ac un o'r werin fuodd o trwy gydol y llyfr.

Yna mae'n priodi Si芒n (hogan swil a distaw a ymddangosodd yn y gyfrol gyntaf) yn ei ail nofel ac mae cymeriad Sian yn dechrau newid.

Erbyn y drydedd gyfrol mae hi'n ddraig o ddynas, a dydy bywyd Goronwy Huws ddim yn f锚l i gyd.

Clawr y llyfrY fo sy'n gwarchod Gwenlli'r ferch tra mae Si芒n yn ddirprwy-brifathrawes ysgol Gymraeg leol.

Yn aml, y fo hefyd sy'n gorfod mynd i ambell gyfarfod yn ei lle, pan fo mwy nag un wedi'i drefnu yr un pryd.

Mae'n dal i gael ei beint a gwneud ei geffylau - ond ar y slei! Yfed gwin adref mae o ran amlaf er iddo ddweud yn Un Peth ydy Priodi na allai "ddim diodda lysh yn ty".

Doedd Si芒n yn rhegi dim yn y gyfrol gyntaf, fawr ddim yn yr ail ond mae hi'n rhegi mwy na'i gwr yn y drydedd!
Ac erbyn hyn mae Goronwy yn rhoi 't' ar ddiwedd pob 'con' a dyw ond unwaith yn dweud 'mwnci nel' drwy'r llyfr.

Faint o stori
Ond faint o stori sydd yna mewn gwirionedd yn Walia Wigli?
Cyfres o olygfeydd sydd yna'n aml, cyfres o bregethau weithiau hyd yn oed a'r rheiny ar gyflwr truenus Cymru a'r Cymry.

Mae yna benodau difyr iawn, iawn. Yn arbennig 'Problemau Prifysgol' ble mae'n dweud llawer o wirionedd am blant Cymry da yn mynd i brifysgolion yn Lloegr.

Mae dwy neu dair o'r penodau yn ddigon tebyg i rai Dyddiadur Dyn Dwad, yn arbennig - yn naturiol - yr un sy'n s么n am ei barti pen-blwydd efo'i hen f锚ts, a hefyd, 'Yr Opera' a 'C'est Bon'.

Rhy bell?
Ond ydy Dafydd Huws wedi mynd yn rhy bell efo'i eiriau amwys? Maen nhw weithiau'n fwrn, yn cymryd drosodd o'r stori a byddai cyllell golygydd wedi bod yn help ar brydiau. Mae'r 'census' yn mynd yn 'cens-less', er enghraifft, ceir 'blino'n Laugharne', 'Ordnance Servile' a rhai cannoedd o rai eraill.

Wedi dweud hynny, ar y cyfan, mae'n llyfr difyr a doniol iawn.
Mae'n dechrau rywbeth yn debyg i Un Peth ydy Priodi ...

Yn yr ail gyfrol mae Nain Nefyn byth a beunydd ar y bog efo'r b卯b, yn Walia Wigli mam Si芒n - sy'n byw efo nhw - sydd 芒 phroblemau efo'i bwals. Mae yna sylwadau doniol iawn.
"Ma' disgwl babi yn union fatha syportio'r mudiad cenedlaethol. Cymru Fydd, Plaid Cymru, y Gweriniaethwyr, yr FAW, MAC ... meddwl bod y wawr yn torri bob munud a dim byd yn digwydd!"

Neu beth am hon pan mae o mewn gwasanaeth i agor y Cynulliad?
"Agor y Cynulliad o'dd y syniad ond mi o'dd rhaid i bawb fynd i'r Eglwys Gadeiriol gynta er mwyn i'r Cw卯n ga'l diolch i Dduw am y saith can mlynadd o wasanaeth roth y Cymry iddi am ddim."

Dywediadau clyfar
Mae yna ddywediadau clyfar drwy'r gyfrol, fel:
"Dwrnod i'r brenin ydi dydd Sul i Si芒n ac ma' hi'n tueddu i adal busnas y Brenin Mawr i mi!" gan ei fod yn gorfod mynd 芒'r ferch i'r capel.

A'i ben yn brifo wedi noson ar y lager mae Stella Artois yn mynd yn Stella Artaith, a'i sylw ar addysg bellach:
"Ma' digr卯 wedi mynd yn beth digri, tydi? BAs i bawb o bobol y byd. Ma' hyd yn oed gwarthaig yn cael BSc heddiw 'ma yndi?"

Dydy o'n rhoi fawr o obaith i'r papur newydd dyddiol chwaith:
"Dwn i'm be ma' Ned Tomos yn traffarth trio creu papur newydd dyddiol. Tydi'r dosbarth canol Cymraeg byth yn prynu . . . dim ond tai!"

Mae yna rywfaint o gyfeiriadau at gymeriadau Dyddiadur Dyn Dwad drwy'r llyfr, Fferat, Bob Blaid Bach ac ati.

Mae George Cooks yn hipi erbyn hyn ac wedi priodi hipi arall o'r enw Strawberry Monday.

Trwy sgwennu
Mae Goronwy Jones erbyn hyn yn ennill ei damaid - os hynny - drwy sgwennu, ac yn ceisio ei orau i gael comisiwn gan S4C i lunio sgript, ond yn aflwyddiannus.

"Fel'na ma' nhw'n licio ca'l ych syniadau chi - yn dwt ac yn gryno [ar un dudalen A4] fel bod nhw'n medru eu sgrwnsho nhw i fyny yn beli bach twt a'u taflyd nhw i'r bun yn y gongl."

Pethau anghyson
Mi fyswn i'n dweud bod yna bethau anghyson yn y llyfr. Ar dudalen 220, dydy o ddim wedi clywed am George Orwell ond yn nes ymlaen mae'n amlwg wedi clywed am Samuel Beckett, ac mae yna sawl cyfeiriad arall tebyg.

Perlau
Oes, mae yna berlau drwy'r llyfr ond mi fyswn i'n dweud bod y llyfr braidd yn hir am beth ydy o.

Gellid yn hawdd fod wedi colli hanner cant o dudalennau heb golli miniogrwydd yr awdur.

Peth arall fyswn i wedi ei hoffi fyddai cael cartwnau gan Cen Williams fel a gafwyd yn Dyddiadur Dyn Dwad a hynny i gael gweld sut mae Goronwy Jones a gweddill y criw wedi heneiddio dros y blynyddoedd.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy