麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cyfri'r Da
Adolygiad o: Cyfri'r Da - Hanes Canmlynedd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gan David W. Howell. Gwasg Prifysgol Cymru. 拢19.99.



Mae yna hanesyn am ffermwr yn cerdded i mewn i gae sioe y Royal Welsh yn Llanelwedd ar y bore cyntaf a dechrau siarad, ac erbyn y cyrhaeddai hanner ffordd at y cylch mawr roedd yr wythnos wedi dod i ben!

Mae'r stori hon yn cael ei hadrodd gan David W. Howell yn ei lyfr sy'n rhoi hanes canrif gyntaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy'n cynnal y Sioe Fawr.

Gwelir yn syth o ddarllen llyfr swmpus David Howell, gweithred o gymaint ffydd opedd creu'r gymdeithas hon a mynd ati i gynnal sioe flynyddol dros y blynyddoedd.

Yn wir, yn ysgrifennu yn Chwefror 1904 proffwydodd John Gibson: "Mynd i'r gwellt a wna'r sioe hon sydd i fod ar gyfer yr holl fydysawd."

Clawr y llyfr Bu dau gyfnod dyrys mewn gwirionedd. Y cychwyn cyntaf a chyfnod wedyn pan aed ati i gynnal y sioe yn Llanelwedd yn unig yn hytrach na theithio o gwmpas Cymru. Gweithred arall o ffydd a allai yn hawdd iawn fod wedi bod yn gaff gwag trychinebus.

Gelyniaeth ffyrnig
Ond yn 么l, yn gyntaf, at y cychwyn cyntaf pan oedd Cymru yn 1904, yn 么l y llyfr, yr olaf o wledydd y Deyrnas Gyfunol i ffurfio cymdeithas amaethyddol genedlaethol a hynny yn dilyn cryn wrthwynebiad a gelyniaeth.

"Nid heb gryn genfigen y gwelwyd sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru, cenfigen o du cymdeithasau amaethyddol lleol a fodolai, a gelyniaeth ers tro byd rhwng trigolion gogledd a de Cymru," meddai David Howell.

Ychwanega: ". . . yn ystod ei blwyddyn gyntaf, fwy neu lai, wynebodd y Gymdeithas sefyllfa gwbl elyniaethus o du nifer o wrthwynebwyr penderfynol ac am lawer blwyddyn wedyn cawsai'r trefnwyr eu rhwystro a'u llesteirio oherwydd diffyg aelodau, ac roedd hyn yn bygwth sefydlogrwydd ariannol y Gymdeithas, a hyd yn oed yn peryglu ei bodolaeth."

Lladd y syniad
Syniad T Loveden Pryse, un o feibion yst芒d Gogerddan, oedd y Gymdeithas ac yntau a'i fryd ar ddyrchafu sioe Cymdeithas Amaethyddol Gogledd Sir Aberteifi "i statws sioe genedlaethol i Gymru".

Cafodd gefnogaeth D D Williams o Dregaron ond nid papur newydd y Cambrian News a dynnodd bob ewin o'r blew i ladd y fath syniad.

Cyfeiria David Howell at "ymosodiadau di-ball" y papur hwnnw gan egluro mau'r ofn mwyaf oedd y byddai sioe genedlaethol yn tanseilio mentrau lleol.

Ond er gwaethaf popeth "fe lwyddodd y fenter newydd i wrthsefyll strancio cenfigennus cymdeithasau lleol yn ardal Aberystwyth ei hun ac yn y de" ac erbyn y chweched sioe genedlaethol broliai cylchgrawn y Gymdeithas fod y sioe "wedi cyrraedd rheng flaen y sioeau amaethyddol" gydag arddangoswyr nid yn unig o Gymru ond o Loegr yn heidio yno.

Teithio Cymru
Y datblygiad nesaf fu teithio o amgylch Cymru a bu hynny hefyd yn llwyddiant gydag ehangu cyson rhwng y ddau Ryfel Byd diolch, meddai David Howell, "i effeithiolrwydd ac ymgysegriad ei swyddogion".

Ar ben hynny, dywed: "Yn sicr roedd nifer o deuluoedd bonheddig y siroedd, yn ogystal ag edrych ar y sioe fel ffenest siop amaethyddol, yn ei hystyried hefyd fel digwyddiad cymdeithasol lle gallent dynnu sylw atynt eu hunain a chymysgu 芒 boneddigion enwocaf a theuluoedd aristocratig o'r siroedd cyfagos."

Ac fe welwn, o ddarllen y llyfr, fod yr ymhyfrydu mewn tras a phwysigrwydd cymdeithasol yn rhywbeth sydd wedi goroesi'r blynyddoedd gydag ymweliadau a chefnogaeth nid yn unig gan fyddigion lleol ond gan y teulu brenhinol hefyd yn gyntaf fel cystadleuwyr ac o 1966 ymlaen fel ymwelwyr.

"Yn 1966 y cafodd sioe Llanelwedd ei hymweliad brenhinol cyntaf ym mherson y Dywysoges Margaret ac o hynny ymlaen anrhydeddwyd y sioe 15 o weithiau hyd at ac yn cynnwys 2002."

Ni ellir peidio a sylwi hefyd at amlder y teitlau milwrol ymhlith arweinyddion y Gymdeithas o'r dyddiau cynharaf un.

Sgarmes yr ymsefydlu
Wrth gwrs lleisteirwyd datblygiad gan yr Ail Ryfel Byd ond bu cyfnod newydd ffyniannus o 1947 ymlaen nes cyrraedd sgarmes yr ymsefydlogi yn Llanelwedd ddechrau'r chwedegau gyda'r un ofnau ag sy'n cael eu mynegi wrth s么n am ganoli'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael eu gwyntyllu.

Ond codi gwersyll yn Llanelwedd a wnaed, fel y gwyddom, ac er gwaethaf cychwyn sigledig dengys David Howell pa mor eithriadol o lwyddiannus fu'r fenter honno yn y pen draw ac y mae llawer i ymfalchio ynddo ar drothwy'r ail ganrif.

Wrth gymeradwyo'r syniad o gartref parhaol cymharodd J E Gibby, sy'n cael ei alw yn "bensaer y Royal Welsh fodern" y fenter fel un o'r Gymdeithas yn mentro i l芒n briodas ar 么l byw yn hen lanc cyn hynny.

Problemau llwyddiant
"Daeth y trobwynt yn ffawd y Gymdeithas gyda chynnydd yn y nifer a fynychai'r Sioe ar 么l canol y 1970au. Yn ffodus roedd y cynnydd i 90,000 yn 1975 i barhau, ac yn 1976 gallai'r swyddogion ymhyfrydu ei fod wedi cyrraedd 105,000, er nad oeddynt wedi disgwyl cyrraedd 100,000 am ryw ddwy flynedd arall," meddai David Howell.

Rhan o faes y sioe gyntaf un yn Aberystwyth"At ei gilydd roedd y blynyddoedd o ganol y 1970au ymlaen, ar wah芒n i flwyddyn ddychrynllyd 2001, yn flynyddoedd cynyddol lwyddiannus," ychwanega gan fynd ymlaen i ddangos mai 'problemau' yn deillio o lwyddiant fu'n rhaid eu hwynebu ers hynny wrth i'r sioe ddenu mwy a mwy o ymwelwyr a rhai sydd am gymryd rhan.

Ail iaith
Go brin bod angen darllen yn hir cyn amau mai cyfrol wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg ydi hon, gan fod olion termau a chystrawennau'r Saesneg gwreiddiol yn gwbl amlwg yn y Gymraeg.

Mae hynny'n drueni arbennig pan gofiwn fod amaethyddiaeth yn siwr o fod yn un o gaerau cadarnaf yr iaith Gymraeg yn brothio o eiriau, dywediadau ac ymadroddion sy'n arddangos yr iaith ar ei chyfoethocaf.

Mor braf, ac mor addas, fyddai hi wedi bod i ddefnyddio'r ieithwedd honno wrth adrodd yr hanes hwn.

Ydi, mae yn rhywfaint o siom mai yn null yr adroddiad swyddogol y trosglwyddir yr hanes gyda geiriau terminolegol hyll fel peripatetig (be sydd o'i le efo crwydrol?), y ffactor ymddangosiadol hanfodol, absenoliaeth, hunanoli, negodi, yr olygfa ffisegol ac yn y blaen yn britho'r testun.

Yn un lle (tud 122) cyfeirir at ehangu'r "gofod" ar gyfer arddangosfa gan anwybyddu'r gair symlach, lle, oherwydd bod y llall, mae'n debyg, yn gyfieithiad geiriadurol o space.

Lle a gwerth
Er na allwn ddadlau gyda thrylwyredd yr ymchwil a manylder y cofnodi y bydddai rhywun yn ei ddisgwyl gan ysgolhaig o safon David Howell cyfrol yn nhraddodiad yr 'adroddiad blynyddol' yw Cyfri'r Da yn dibynnu'n helaeth, gallwn dybio, ar gofnodion pwyllgorau a ffynhonellau tebyg.

Ac yn wir mae lle - a gwerth digamsyniol - i gyfrol o'r fath ar ddiwedd cyfnod fel hyn ond byddai'n esgeulus i beidio 芒 dweud fod yna le hefyd i gyfrol ysgafnach, fwy poblogaidd, llai ffurfiol, llai swyddogol, a fyddai'n cyfleu y miri a'r hwyl sy'n gysylltiedig 芒'r Royal Welsh.

Y cysgu'n ryff yng nghefn lori wartheg neu babell sy'n gollwng, y codi'n fore i baratoi da byw ar gyfer beirniaid, a'r tynnu coes dros beint - a byddai rhywun yn gobeithio y bydd y Gymdeithas yn prysuro, rhag blaen, i sicrhau y bydd cyfrol felly, cyforiog o luniau, ar gael erbyn y sioe nesaf. Synnwn i ddim na fyddai cryn werthu arni.

Edrych ymlaen
Rhaid prysuro i ddweud nad edrych yn 么l a chofnodi yn unig mae David Howell yn Cyfri'r Da. Cyn cau pen y mwdwl mae'n cynnig awgrymiadau neu gynghorion buddiol ar gyfer y dyfodol.

Rhybuddia rhag "glastwreiddio ymhellach" gynnwys amaethyddol y sioe - mewn ymdrech, mae'n debyg, i ddenu 'mwy o bobl'.

Geilw am hwyluso'r ffordd i ffermwyr ifainc "chwarae rhan helaethach yn rheolaeth y sioe a'r Gymdeithas" - ac o bosib mai dyma ei annogaeth bwysicaf un.

Dywed hefyd: "At hyn, byddai'n braf ac yn addas pe rhoddid mwy o bwyslais ar y duedd ddiweddar o gael mwy o ferched yn weithredol yng ngwaith y Gymdeithas - fel yr anogwyd gan Teleri Bevan yn ei haraith ysbrydoledig wrth agor sioe 1999."

Ond yn bwysicaf oll dywed mai'r her ar gychwyn ail ganrif yw yr angen i'r Gymdeithas "ystyried sut y gall hybu'r Gymru wledig sy'n bell o fod yn ffyniannus . . . yn ogsytal 芒 bod o gymorth i adfywio ei phentrefi."

I'r rhai hynny ohonom sy'n edrych dros y gwrych ar fyd amaeth y mae yn rhywfaint o syndod pa mor dawedog yw Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar faterion pwysig sydd yn effeithio ar amaethyddiaeth ac yn bygwth, weithiau, gefn gwlad.

Tybed, ar gychwyn canrif newydd, na ddaeth yr amser i Gymdeithas mor barchus fod yn llais annibynnol, diduedd, i ddiwydiant y mae dyfodol cymaint ohonom yn dibynnu arno?

gan Glyn Evans

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy