麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Nant Gwrtheyrn gan Carl Clowes
Adolygiad Ioan mai Evans o Nant Gwrtheyrn gan Carl Clowes. Y Lolfa. 拢4.95




Ar y Sadwrn cyntaf o fis Gorffennaf yn Nant Gwrtheyrn cyhoeddwyd y llyfr cyntaf gan y cyntaf i sefydlu y Ganolfan Iaith Genedlaethol yno, y meddyg Carl Iwan Clowes.

Clawr y llyfrYn arwain y gweithgareddau roedd Hywel Williams AS y cyfeiriwyd ato gan gyfarwyddwr y Nant, Aled Jones Griffith, fel un sy'n dra chefnogol i'r ganolfan.

Gan fod gan yr aelod seneddol gysylltiadau teuluol agos 芒'r fro teimlai gryn falchder o gael rhan yn y cyhoeddi, meddai.

Calondid o'r mwyaf oedd gweld y pentref wedi cael ei ailgodi, serch fod angen rhagor o arian i uwchraddio'r adnoddau sy'n bod eisoes.

Yn ei sylwadau cyfeiriodd Carl Clowes at yr angen i lanw bwlch yn hanes y Nant.

Gwir, gan fod yma gefndir hanes sy'n mynd yn 么l i Oes yr Haearn.

Roedd galw am osod Gwrtheyrn yn ei gyd-destun a dod o hyd i fersiwn wir o'r hanes.

Cyfeiriodd hefyd at amgylchedd doreithiog y Nant - ffyniant planhigion ac adar sydd wedi prinhau mewn ardaloedd eraill.

Yn y llyfr o dros 60 dalen a nifer o luniau cawn wybod sut y bu i'r trigolion gefnu ar y Nant wedi i'r diwydiant cerrig ddarfod rhwng y ddau ryfel gan adael y pentref yn wag.

Yn 1978, prynwyd y pentref gan Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ac aed ati yn ddiymdroi i sefydlu canolfan iaith yno.

Profodd y ganolfan honno yn atyniad i blant ysgol a ddeuai yno i ymddiddori yn hanes y fro.

Yn y bennod gyntaf cawn hanes cynnar y Nant gan gyfeirio at Dre'r Ceiri a llwybrau'r pererinion tuag at Enlli.

Jyrman Sbei
Yn dilyn amrywiol chwedlau'r fro, cyfeirir at garwriaeth ramantus Rhys a Meinir, y corach, Elis Bach y Nant, a'r Jyrman Sbei ar y ffordd i chwarel Carreg Llan.

Ond rhaid cywiro'r dybiaeth mai dyn oedd y sbei gan yr arferem ni blant y pentref fynd yno. A chan y byddwn yn canu ffidil cofiaf fynd yno gan y byddai hithau hefyd yn canu'r offeryn.

Yn sicr, llaw dynes fyddai'n byseddu y ffidil ond miwsig Almaenig glywid ganddi.

Yn y drydedd bennod daw manylion am ddatblygu achos crefydd ac addysg.

Y tro cyntaf
Yna, pwy yn well na'r awdur ei hunan i roi am y tro cyntaf hanes tyfiant y ganolfan iaith.

Carl ClowesAc yntau ond yn 28 oed, wynebodd sialens - ac nid y nant oedd yr unig sialens fel y gwelir wrth ddarllen ymlaen.

Pennod wedyn ar nodweddion amgylcheddol y nant a llun o un o'r geifr gwylltion yn dianc am y graig ddu.

yna, ymestyn i'r amgylchedd eanghach at gyflwr yr iaith yn y fro ac yng Nghymru gyfan.

Daw y clo gyda Nant Gwrtheyrn heddiw.

"Bellach mae 25,000 o bobl wedi cael y cyfle i flasu'r iaith gymraeg yn y Nant."

Darllen difyr gyda lluniau dadlennol.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy