麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cyfaredd y Cysgodion
Adolygiad o lyfr Gwenno Ffrancon, Cyfaredd y Cysgodion - Delweddu Cymru a'i Phobl ar Ffilm, 1935 - 1951. Gwasg Prifysgol Cymru.


Darlun wedi ei lurgunio a gafwyd o Gymru yn rhai o'r ffilmiau enwocaf a wnaed amdanom yn 么l awdur a fu'n astudio'r pwnc.

Ar 么l bod yn astudio tylwyth o ffilmiau yn cynnwys How Green was my Valley, The Citadel a The Corn is Green dywed Gwenno Ffrancon Clawr y llyfryn ei llyfr, Cyfaredd y Cysgodion - Delweddu Cymru a'i phobl ar ffilm, 1935-1951:

"At ei gilydd, ceir yn y ffilmiau a drafodir yn y gyfrol hon bwyslais ar y traddodiadol a phrin y ceir unrhyw wir ymdrech i herio delweddau'r gorffennol a chreu portreadau newydd o'r genedl.

"Yn aml iawn, bodlonwyd ar fenthyg, ailgylchu a llurgunio hen stereoteipiau a oedd eisoes wedi ennill eu plwyf mewn llenyddiaeth."

Cymru Wyddelig!
Wrth s么n yn benodol am yr enwocaf o'r cnwd hwn o hen ffilmiau, How Green was My Valley dywed mai gwerthoedd Gwyddelig-Americanaidd y cyfarwyddwr John Ford sydd yn lliwio'r dehongliad o Gymru yn hytrach nag unrhyw werthoedd gwir Gymreig.

"Maen gwbl amlwg," meddai, "mai ffilm am Gymru drwy lygaid a lleisiau Gwyddelig a gynhyrchwyd yn y diwedd . . . A dyma un o'i diffygion pennaf.

Cwm ystrydebol"Yn wir mae'n mynd mor bell a dweud: "Ar lawer ystyr, nid ffilm am Gymru ydyw o gwbl" gan ychwanegu fod ei rhamant "yn sarhad ar y Cymry a ddioddefasai galedi enbyd ym mhyllau glo y cymoedd" oherwydd i Ford garthu "pob budreddi ac anharddwch" o'r stori ar gyfer y sgr卯n fawr.

Cwm Robeson
O'r ffilmiau Saesneg a wnaed am Gymru dywed Gwenno Ffrancon mai dim ond yn The Proud Valley gyda Paul Robeson "y ceir yr ymgais fwyaf credadwy mewn ffilm nodwedd i bortreadu amodau byw a gwaith y gl枚wr ac i gyfleu canlyniadau erchyll y damweiniau a ddigwyddai ym mhyllau glo de Cymru."

Y ffilm sy'n dod drymaf dan lach Gwenno Ffrancon ydi The Citadel oherwydd ei darlun camarweiniol, "ystumedig a melodramatig" o gymdeithas lofaol y de.

Yn drylwyr
Mewn cyfrol ragorol sy'n amcanu rhoi "sylw Manwl" i "gyfnod cychwynnol a chyffrous" yn hanes ffilm yng Nghymru mae Gwenno Ffrancon yn ymdrin gyda chryn drylwyredd a manylder 芒 phum ffilm ddogfen, dwy ddrama ddogfen ac wyth ffilm nodwedd a grwyd yn ystod cyfnod y mae hi'n ei ystyried yn un "allweddol bwysig" yn nhwf y diwydiant ffilm.

Nid yw'n cyfyngu ei sylwadau i ffilmiau Saesneg am Gymru ond yn pwyso a mesur ymdrechion Cymraeg cynnar i ddehongli Cymru ar ffilm fel Yr Etifeddiaeth a wnaed gan John Roberts Williams pan oedd yn olygydd Y Cymro.

"Trafodir," meddai Gwenna Ffrancon am y llyfr, "cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol pob ffilm, gan gynnwys ei lleoliad, dull y sgriptio, y plot, cyfraniad ei chynhyrchwyr a'i phrif actorion, ymyrraeth allanol o du'r stiwdio neu'r sensor, ynghyd 芒'i rhinweddau a'i diffygion gweledol a thechnegol. Rhoddir sylw arbennig i ddelweddau cofiadwy a hir eu parhad am Gymru a'i phobl.

"Trafodir yn ogystal, ymateb y gynulleidfa yng Nghymru a thu hwnt i'r ffilm, a lle bo hynny'n briodol, fy marn bersonol amdani."

Mae'n un a'i gair ac mae cynhwysfawr, yn sicr, yn air i ddisgrifio'r llyfr hwn ac heb os nid oes dim byd wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn sy'n trafod y maes arbennig hwn gystal, yn y Gymraeg neu'r Saesneg, ac mae'n gydymaith teilwng ar unrhyw silff lyfrau i Wales and Cinema: The First 100 Years gan David Berry.

Y ffilmiau Cymraeg cynnar sy'n cael eu rhoi yn y dafol ydi Y Chwarelwyr - y ffilm Gymraeg gyntaf a wnaed - Yr Etifeddiaeth a Noson Lawen gan ddod i'r casgliad mai Noson lawen gan Sam Jones a Mark Lloyd, oedd y fwyaf llwyddiannus o'r tair oherwydd ei bod yn fwy o "gyfanwaith" na'r ddwy arall.

Pendantrwydd barn
Braf edmygu trylwyredd yr ymchwil - a'r pendantrwydd barn, hefyd, achos ar ei gorau dydi Gwenno Ffrancon ddim yn betrus o fynegi barn yn glir a diamwys - er y gall yr aml dynnu sylw at wendidau ymddangos weithiau fel gor-awydd i bastynu a ffustio gyda rhyw ond parhaus yn dilyn pob canmoliaeth.

Weithiau cawn y teimlad, hefyd, megis gyda'i thrafodaeth o Yr Etifeddiaeth, o ddiffyg cydymdeimlad 芒 phrinder profiad ac adnoddau yr arloeswyr cynnar yn y maes.

Hefyd, anodd deall pam, wrth drafod Yr Etifeddiaeth, ei bod yn gorfod holi pam na thrafodwyd llosgi Penyberth a phryderon ynglyn 芒 dylanwad dyfodiad faciw卯s ar gefn gwlad Eifionydd gan iddi gael cyfle i gael ateb i'r union gwestiwn hwnnw i wneuthurwr y ffilm pan yn ei holi.

Yn y fan hon hefyd cyfeirir at Y Cymro wythnosol fel papur "dyddiol" Cymraeg ym 1945!

Ond y gwir amdani yw fod y drafodaeth yn gyffredinol aeddfed a chytbwys ac er yn astudiaeth ysgolheigaidd mae'r arddull yn ddiddan, rhugl a chyfeillgar.

Cymru Emlyn Williams
Pennod ddifyr - ac amserol hefyd ar drothwy 60 mlynedd saethu The Last Days of Dolwyn - yw'r un am Gymru Emlyn Williams y "mwyaf lliwgar, cymhleth ac enigmatig o'r Cymry Cymraeg a roes gynnig ar gynnal delwedd arbennig o'r genedl ar ffilm."

Dydi o ddim yn plesio gyda'i ddarlun "unllygeidiog" o Gymru a hynny'n cael ei briodoli i'r ffaith fod bywyd cymdeithasol modern y genedl yn ddieithr iddo.

"Darlun dethol a chyfyng, felly, yw'r un a geir ganddo o Fywyd Cymru yn The Corn is Green, darlun gan Gymro o'r tu allan a w锚l Gymru drwy sbectol oes Victoria, o'i wneuthuriad ei hun," meddai.

Ac er i'r ffilm ennill ei lle yng nghalonnau'r bobl dywed na ellir "llai na gresynu" fod y portread o Gymru a'i phobl "mor ddifrifol o hen ffasiwn a chamarweiniol," meddai.

Ac er gwaethaf "rhinweddau arbennig" ffilm arall ganddo, The Last days of Dolwyn dywed fod i honno hefyd "wendidau amlwg".

Paul Robeson yn Proud Valley gydag Edward Rigby"Dagrau pethau o safbwynt Emlyn Williams i bortreadu Cymru a'i phobl yw na lwyddodd i oresgyn yr amwysedd yn ei agwedd tuag at ei famwlad nac ychwaith i dreiddio'n ddwfn i'r amwysedd hwnnw . . . Dewisodd gynnal darlun dethol, hiraethus ac ystrydebol o Gymru yn hytrach na chreu portread gwreiddiol a blaegar a archwiliai'r arwyddoc芒d o foid yn Gymro amwys," meddai wrth gau pen y mwdwl ar y drafodaeth amdano.

Yr un mor ddiddorol a buddiol a'r farn am y gwahanol ffilmiau yw'r hanes y tu 么l i'w gwneud.
Mae hanes y ffilm David am Amanwy yn eithriadol o ddifyr gyda phrif symbylydd y fenter, Aneirin Talfan Davies, yn gorfod cwyno na chafodd ei enw ymhlith y 'credits'.
gan Glyn Evans

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy