麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cant Arwyr Cymru
Adolygiad: 100 Arwyr Cymru gan Culturnet Cymru. Yr holl Straeon a'r canlyniadau o b么l piniwn ar-lein mwyaf Cymru. Rhagair gan y Dr John Davies. 拢8.99.


Ymarfer difyr, beth bynnag am fuddiol, oedd y bleidlais ar y we dro'n 么l i ddewis y cant o arwyr mwyaf Cymru drwy'r oesoedd gydag Owain Glyndwr yn dod yn ail i Aneurin Bevan.

Trefnwyd y bleidlais gan gorff o'r enw Culturnet Cymru sydd a'i gartref yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae'r un corff yn awr wedi cyhoeddi llyfr 215 tudalen yn rhoi hanes y cant a ddewiswyd.

Clawr y llyfrMae yna fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg sy'n ddarlun perffaith o'i gilydd gyda'r Gymraeg, fe fyddwn i'n dyfalu, yn gyfieithiad o'r Saesneg.

Deniadol a graenus
O ran eu pryd a'u gwedd mae'r cyfrolau yn rhai deniadol iawn gyda chlodydd pob arwr yn cael eu canu ar ddwy ddalen yn wynebu ei gilydd ac yn cynnwys lluniau ohonynt.

Yn ddieithriad mae'r bywgraffiadau byrion a'r lluniau yn gampus ac am lai a decpunt yr un mae'r cyfrolau yn hynod o apelgar o ran dyluniad.Defnyddir lliwiau i ddynodi pa un o bum maes y perthyn yr arwyr iddynt; Pobl greadigol, Arweinwyr, Meddylwyr, Arloeswyr a Pherfforwyr.

Y dyddiau hyn o fopio penwan gyda selebs sy'n aml yn enwocach am hyd eu coesau, llawnder eu bronnau a'u trafferthion carwriaethol nag unrhyw gyfraniad gwerth chweil mae'n ddiddorol gweld pwy mae pobl yn eu hystyried yn arwyr cenedlaethol.

Mewn rhagair rhagorol mae'r Dr John Davies yn ein hatgoffa am yr ymddiddan rhwng dau o gymeriadau Bertolt Brecht pan ddywed un, "Gwyn fyd y genedl a chanddi arwyr," ond y llall yn ymateb, "Gwae, y genedl y mae angen arwyr arni."

Cymru hefyd
Mae dull y papurau pengoch o godi arwyr diddim yn awgrymu mai'r ail sy'n iawn ond ta beth am hynny dyma sut mae John Davies yn ymateb:
John Davies "Mae'n bosibl mai cynhyrchu enwogion (yn yr ystyr o celebs) yw prif ddiwydiant blynyddoedd cynharaf yr unfed ganrif ar hugain ac os yw cenhedloedd eraill yn gwneud hynny, pam na ddylai'r Cymry?"

Dydw i ddim mor siwr o hynny.

Cymharu 芒'r deuddeg
Yn ddifyr iawn, mae John Davies yn mynd rhagddo i gymharu y 12 arwr a ddewiswyd ym 1912 ar gyfer llunio cerfluniau ohonyn nhw i'w gosod yn neuadd ddinesig Caerdydd.

Deuddeg 'arwr' dechrau'r ganrif ddiwethaf oedd, Buddug, Dewi Sant, Hywel Dda, Gerallt Gymro, Llywelyn ap Gruffudd, Dafydd ap Gwilym, Owain Glyndwr, Yr Esgob William Morgan, Harri VII, Williams Pantycelyn a'r Cadfridog Thomas Picton a dim ond Buddug a Phicton sydd ddim ar y rhestr ddiweddaraf.

Mae yna brinder merched fodd bynnag dim ond deg allan o'r cant; ond er cyn lleied yw hynny mae John Davies yn sylwi fod hyd yn oed hynny'n rhagori'r ddirfawr ar Y Bywgraffiadur Cymreig lle nad oes ond 58 o ferched allan o 3,223 o gyfeiriadau (1.8%).

A'r fenyw a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau yw Catherine Zeta Jones (rhif 13) sy'n seleb!.

Dal yn fyw
Un peth sy'n synnu John Davies yw fod cymaint o'r cant yn dal ar dir y byw. Ond anodd deall pam y dylai hynny fod yn syndod - onid oedd Glyndwr a Llywelyn yn arwyr yn eu hoes eu hunain hefyd?

Dyma a ddywed:
"Mae'r ffaith y gall rhywun gyrraedd statws arwrol yn ystod ei fywyd yn tanlinellu un o ffeithiau sylfaenol bywyd y dwthwn hwn bod pobl bellach yn byw yn y presennol i raddau a fyddai'n hollol annealladwy i bobl oesoedd a fu. Mae'r cyfryngau yn ein bwydo'n ddyddiol ag enwogion, ac mae'n rhaid i'r rheini fod yn fyw, oherwydd fel arall. Sut y mae modd casglu clecs ynglyn 芒 hwy?

"I haneswyr mae'r obsesiwn hwn gyda'r presennol yn bryder, oherwydd mae'n gwanhau un o ffactorau canolog y cyflwr o fod yn ddynol yr ymwybyddiaeth o wareiddiad etifeddol. Mae'r ffenomenon hon, os ydyw'n parhau, yn codi'r posibilrwydd na fydd neb, ymhen canrif, wedi clywed am unrhyw un a oedd yn byw mwy na chenhedlaeth yng nghynt," meddai.

O'r Saesneg?
Yn y fersiwn Gymraeg o'r llyfr mae nodiadau bywgraffyddol yn amrywio o ran ansawdd gan roi'r argraff yn rhy aml fod y sawl a luniodd rai ohonyn nhw un ai yn fwy cyfforddus yn yr iaith Saesneg neu, o leiaf, wedi ymgorffori yn y Gymraeg arddull sy'n hanfodol Saesneg ei ffurf trwy gadw'n rhy gaeth at y fersiwn Saesneg wrth gyfieithu.

Yn anffodus, yn ogystal 芒'r gystrawen chwithig y mae yna nifer o gamdreigladau a chymysgu cenedl enwau.

Weithiau, mae'r cyfieithiad yn cyfleu rhywbeth gwahanol i'r hyn a ddywedir yn y Saesneg. Er enghraifft wrth drosi llinell sy'n s么n am R. S. Thomas fel "forbidding figure" fe'i disgrifir fel "cymeriad anghynnes" sy'n cyfleu rhywbeth cwbl wahanol.

Go brin ychwaith fod "yn tarfu ar sgerbwd hen g芒n" yn drosiad derbyniol o'r delweddu clyfar yn "worrrying the carcase of an old song.
Nid oes bwrpas ychwanegu enghreifftiau; digon yw dweud ei bod yn aml iawn yn bosibl dychmygu'r union briod-dull Saesneg wrth ddarllen y Gymraeg a dydi hynny ddim yn dderbyniol.

Fodd bynnag, pennaf argraff y gyfrol hon yw un o bleser, balchder ac o ryfeddod.

Balchder yn bennaf fod cymaint o wahanol feysydd yn cael eu cynrychioli gan y cant gan rychwantu byd perfformio a ddiwygio cymdeithasol, llenyddiaeth a wyddoniaeth.; chwaraeon a gwleidyddiaeth gan brofi nad peth cyfyng yw cyfraniad Cymry a Chymru i'r byd.

Yn hynny o beth mae Culturnet Cymru nid yn unig yn rhoi hwb gwerthfawr i'n balchder cenedlaethol ond wedi dwyn i'n sylw Gymry yr oedd ein gwybodaeth gyffredinol amdanynt yn drist o brin.
Yr adolygiad gan Glyn Evans

Beth yw eich barn chi am gyhoeddi yng Nghymru? Cliciwch i anfon e-bost at Llais Ll锚n


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy