麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Dyn yn y Cefn heb Fwstash
Adolygiad gan Eiry Miles o:
Y Dyn yn y Cefn Heb Fwstash gan Eirug Wyn. Y Lolfa. 拢5.95

Nid casgliad o stor茂au newydd sbon yw hwn.
Daeth yr awdur o fewn trwch blewyn i ennill y Fedal Lenyddiaeth yn 1999 gydag un ar ddeg ohonynt a lluniwyd y lleill dros ddwy flynedd yn 么l.

Cawsant oll eu hysgrifennu cyn i'r awdur gael ei daro'n wael gan salwch difrifol, felly nid yw ei sefyllfa bresennol wedi dylanwadu ar y gwaith. Clawr y llyfr

Cysgodion tywyll
Serch hynny, mae cysgodion yn tywyllu nifer o'r stor茂au. Cawn y dychan a'r digrifwch disgwyliedig, ond mae nifer o gymeriadau'r stor茂au yn chwilio am ystyr i'w bodolaeth ac yn teimlo unigrwydd llethol.

Dechreua'r gyfrol yn addawol gyda'r stori Eira Ddoe sy'n edrych yn 么l yn hiraethus ar lencyndod yn y 60au.

Cawn ynddi hanes Rhys, bachgen pymtheg oed, yn mynd am dro yn yr eira gyda'i gyfeillion.

Er na ddigwydd dim byd eithriadol iddynt, ond mae'n ddiwrnod tyngedfennol i Rhys; am y tro cyntaf, mae ei nwyd yn deffro a phrofa wynfyd serch gyda Nerys.

Yn gefnlen i'r cyfan, mae'r eira, sy'n fur rhwng y cariadon a gweddill y byd.

"Roedd popeth mor berffaith. Roedd yr eira wedi gwneud y l么n yn l芒n. Roedd y caeau yn l芒n. Roedd y plu wedi golchi'i wyneb yntau yn l芒n."Mae'r stori yn ddathliad o ddyddiau di-bryder ieuenctid ond mae ynddi dristwch pan sylweddolwn mai diflannu a wna'r dyddiau hynny, fel yr eira.

Mae cynildeb yr awdur ar ei orau yn Eira Ddoe; gydag ychydig eiriau, llwydda i gyfleu'r anwyldeb, y diniweidrwydd a'r cynhesrwydd ym mherthynas y ddau ifanc.

Hawdd yw gweld pam fod gwaith Eirug Wyn yn apelio at bobl o bob rhan o Gymru. Ni chawn ddisgrifiadau manwl ganddo ac mae ei iaith - er yn fywiog a thafodieithol - yn ddealladwy.

Nid mor Wynfydedig
Ni chawn olwg mor wynfededig ar berthynas dyn a menyw yn y stor茂au eraill. Dengys y stori Cyn y modd y mae dynion a menywod yn chwarae 芒 chalonnau ei gilydd, ac yn amharod i ddilyn eu gwir deimladau.

Gwelwn rwystredigaeth ac ansicrwydd dyn wrth i flynyddoedd fynd heibio ac yntau'n byw mewn gobaith y daw gwrthrych ei serch gydag ef "cyn i'r haul farw".

Mae prif gymeriad Cyn yn nodweddiadol o'r gyfrol hon; dynion unig, mewnblyg a digymar yw'r rhan fwyaf o'r cymeriadau.

Yn Llinell Goll, Plentyn yn Nulyn a Y Trwsiwr Ffenestri, clywn leisiau dynion sy'n ymateb i dristwch a galar yn eu gorffennol trwy ddianc i fyd ffantasi.

Ond nid yw'n gyfrol undonog, a gall yr awdur amrywio ei arddull pan fo angen. Yn Yr Heipocondriac Llawen, cawn ddisgrifiadau trawiadol, megis:
"Ei breichiau a'i dwylo a'i bysedd wedi hyll droi yn gangau cnotiog a'r rheini yn pawennu'r awyr fel cath fach yn anterth ei chwarae."

Gyda phentyrrau o ansoddeiriau, llwydda'r awdur i gyfleu galar afreolus Tomos, sy'n colli ei awydd i fyw ar 么l i'w gariad farw o gancr.

Mwy tafodieithol
Arddull fwy tafodieithol a gawn yn Ni Chlywir Un Acen. Ynddi, mynegir tristwch yr awdur wrth weld iaith idiomatig bro ei febyd yn diflannu.

Hen wraig ar ei gwely angau sy'n traethu, ac mae'r awdur yn ymhyfrydu yng nghoethder ei hiaith wrth iddi fwrw'i bol am y Gymru sydd ohoni:
"Mwy o dwrw nag o daro bob tro; fel cneifio mochyn lot o sŵn, chydig o wl芒n."

Er bod iaith y wraig yn swyno'r darllenydd, teimlaf i'r awdur or-lwytho'r idiomau. Roedd fel tasai'n chwilio am esgus i gael eu defnyddio, ac o ganlyniad nid yw Ni Chlywir Un Acen yn stori mor effeithiol ag y gallai fod.

Digon o ysbeidiau heulog
Ceir digon o ysbeidiau heulog yn y gyfrol, diolch i ddychan miniog yr awdur. Mae Cwffas yn Abercoffin yn creu darlun dros-ben-llestri o ddadl ynfyd yn erbyn uno dau enwad, pan fo'r gwrthdaro rhwng Capel Sodom a Chapel Gomora yn troi'n giaidd.

Digri hefyd yw Y Dyn yn y Cefn Heb Fwstash, stori whodunnit sy'n gwneud hwyl am ben y cythraul canu.

Gyda'r sylw diweddar a roddwyd i Feibion Glyndŵr, mae Cynhadledd i'r Wasg yn stori berthnasol, a'r awdur yn awgrymu'n chwareus mai rhywun go annisgwyl oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch.

Ond, mae BYG - stori am wneud ffortiwn trwy dwyll cyfrifiadurol - wedi dyddio gan fod troseddau cyfrifiadurol yn mynd yn fwy soffistigedig bob dydd.

Mwyaf deifiol
Y stori fwyaf deifiol efallai yw CNU, ond nid oedd yn taro deuddeg i mi.

Fe'i hysgrifennwyd yn nhafodiaith y de-orllewin, felly mae rhywbeth chwithig a thrwsgwl yn yr arddull ac nid yw'r awdur yn poeni am fod yn wleidyddol anghywir'!

Heb ddatgelu gormod, rhag i mi ddifetha'r tro yn y gynffon, y cocyn hitio y tro hwn yw hoywon a lesbiaid sy'n agored ynghylch eu rhywioldeb.

Yn sicr, mae clyfrwch yn y dweud, ond ei neges yn gadael blas cas yn fy ngheg.

Eithr mae'n debyg mai dyna bwriad yr awdur corddi pobl ryddfrydig fel fi.

Un o oreuon y casgliad yw Dim Ond Heddiw lle cwrddwn 芒 Ceri athro deugain oed mewn pentref bach Cymraeg ei iaith.

Ceisia Ceri gefnogi bywyd Cymraeg y pentref y capel, yr Urdd a'r cylch llenyddol ond caiff hefyd ei ddenu i fwynhau bywyd y gwerinwr yn nhafarn y Plow.

"Oedd, roedd Ceri wedi meistroli'r grefft o rychwantu deufyd a phontio dau ddiwylliant ... Rhywle yn nwfn ei fod, fodd bynnag, roedd Ceri ers blynyddoedd yn corddi a chorddi.".

Nid yw'n naill beth na'r llall blaenor parchus na rafin ac mae gwacter yn ei fywyd o'r herwydd. Yn nodweddiadol o'r gyfrol, nid oes s么n bod cariad ganddo chwaith.

Defnyddia'r awdur y stori i fynegi ei dristwch wrth i hoelion wyth y gymdeithas Gymraeg fynd i'w beddi. Er hynny, stori am berson credadwy yw hi, ac nid pregeth am broblemau cefn gwlad.

Nid oes ynddi gymeriadau mor gartwnaidd 芒 Cwffas yn Abercoffin, felly mae hi'n fwy real a dirdynnol.

Difyr a darllenadwy
Llwyddodd Eirug Wyn i lunio cyfrol ddifyr a darllenadwy sy'n sicr o apelio at drawstoriad eang o bobl.

Mae ynddi hiwmor ond mae hi hefyd yn delio 芒 phroblemau'r Gymru fodern mewn modd dyfeisgar, sy'n procio meddwl y darllenydd.

Teimlwn weithiau y byddai'n braf cael rhagor o wybodaeth am rai o'r cymeriadau, a'u gweld yn datblygu.

Wrth gwrs, anodd yw gwneud hynny mewn stori fer.

Edrychaf ymlaen felly at ddarllen y nofel sydd ar y gweill gan yr awdur.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy