麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yn y Gegin Gyda Gareth
Adolygiad o Yn y Gegin Gyda Gareth gan Gareth Richards. Lluniau gan Hazel Thomas. Gwasg Gomer. 拢4.99.


Er nad ydyn nhw yr hyn a fyddai rhywun yn eu hystyried yn brydau traddodiadol Gymreig mae yna flas digon Cymreig i'r casgliad hwn o reipiau gan Gareth Richards.

Yn dod o Lanbedr Pont Steffan bu Gareth yn fuddugol yn rownd Gymreig cystadleuaeth Masterchef y 麻豆约拍 yn 1995 ac ers hynny bu'n pedlera'i brydau yn llwyddiannus iawn ar deledu ac mewn cyfarfodydd Merched y Wawr.

Clawr y llyfrDro'n 么l cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Yn y Gegin Gyda Gareth.

Cyfrol fechan yw hi yn mesur rhyw chwe modfedd sgw芒r ac yn cynnwys 25 o brydau pump yr un o gyrsiau cyntaf, byrbrydau blasus, prif gyrsiau, pwdinau a danteithion i de.

Mae lluniau o'r radd flaenau ganHazel Thomas ar y ddalen gyferbyn 芒 phob pryd.

Oherwydd ei faint mae'r llyfr yn hwylus ar gyfer bord y gegin ar y llaw arall byddai llyfr o fwy o arwynebedd wedi gweddu'n well ar fwrdd coffi. Mae peryg i hwn fynd ar goll ymhlith llyfrau coginio eraill mwy eu maint.

Defnyddiau Cymreig
Er nad prydau Cymreig yn yr ystyr draddodiadol yw'r cynnwys y mae Gareth yn dibynnu'n helaeth ar ddefnyddiau Cymreig i'w cynnwys o gig oen Cymru - gyda salad betys a mintys - ar un ddalen i eog Cymreig a thopin o Goriander ar ddalen arall; a menyn Llangadog ar gyfer mwy nag un resipi.

"Teimlaf ei bod yn bwysig defnyddio'r cynnyrch sydd gennym yng Nghymru er mwyn sicrhau gwir flas," meddai.

Fel cogydd bu ei fam-gu yn ddylanwad mawr arno ac mae cyfeiriadau at brydau yr oedd hi'n eu paratoi ond weithiau mae o wedi mynd 芒'i phryd hi gam ymhellach fel gyda teisennau mecryll a saws riwbob y mae'n ei argymell.

Ac mae'n ddiddorol gweld riwbob, sy'n cael ei ystyried yn bwdin gan amlaf, yn cael ei ddefnyddio yn rhan o bryd sawrus.

"Oes, mae yna fwy i riwbob na tharten a chwstard," meddai Gareth ac mae pryd bach sydyn hwn yn edrych ac yn addo'n addawol iawn.

Gorau Cymru
Mae'r gyfrol yn cynnwys hefyd yr hyn sy'n cael ei alw yn "bolognese gorau Cymru 1997" camp a gyflawnodd Gareth mewn cystadleuaeth gan y Comisiwn Cig a Da Byw yn '97.

Fydd o'n 'orau' yn ein dwylo ni sy'n gwestiwn arall, wrth gwrs, ond ni chymer ond rhyw dri chwarter awr i'w baratoi a'i goginio.

Coronau Cennin CymreigMae'r manylion i gyd yn ddwyieithog ond cyfrol Gymraeg yw hon yn ei hanfod gyda'r wybodaeth Saesneg megis troednodyn gwaelod dalen.

At ei gilydd, mae'r cyfarwyddiadau yn glir a diamwys ac mewn Cymraeg cartrefol ddigon er, nid pawb fydd yn cymeradwyo'r defnydd o'r gair "crisp" yn y Gymraeg fel cyfieithiad o'r un gair yn Saesneg. Gan amlaf, byddai'r gair crimp a chrimpio yn well.

Triciau
Ar ddalen olaf y gyfrol mae rhestr o'r hyn a elwir yn "Tipiau a thriciau" a difyr a defnyddiol iawn ydyn nhw hefyd. Mor ddifyr, y byddai croeso i sawl dalen ohonyn nhw achos nid pawb sy'n gwybod mai'r ffordd i ryddhau mwy o sudd o ffrwythau fel lemons ac orennau ydi eu cynhesu yn y popty ping am ychydig funudau.

Ac mae rhoi ychydig o ddwr ar waelod sosban yn arbed llaeth neu gwstard rhag llosgi.

A'r riwbob yna eto; mae'n ymddangos nad oes dim byd gwell ar gyfer rhwbio sosban sydd wedi llosgi os bu ichi anghofio rhoi'r dwr yna ar y gwaelod gyntaf!
Beth Evans. Evans


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy