麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Lluniau Patagonia
Mae casgliad hynod o luniau sy'n darlunio dyddiau cynharaf y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia wedi gweld golau dydd. Yn eu plith mae'r llun hynaf sydd ar gael o'r gwladfawyr cyntaf.


Maen nhw i'w gweld mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi yn yr Ariannin o ffotograffau o gymuned Gymreig y Wladfa.

Llun ydyw o Lewis Jones, a aeth gyda Love Jones Parry i archwilio'r ardal fel lleoliad posibl ar gyfer sefydlu cymuned Cymreig Y Wladfa ac ef a roddodd ei enw i un o brif drefi Patagonia, Trelew.

Lewis Jones  ymhlith y TehuelchesYn y llun a dynnwyd yn 1865, y flwyddyn y cyrhaeddodd yr ymfudwyr cyntaf, mae Lewis Jones yn eistedd gyda brodorion y paith.

Mae llun arall a dynnwyd yn 1888, yn dangos gweithwyr yn adeiladu'r l么n i Gwm Hyfryd ac yn eu plith hwy mae Llwyd ap Iwan, (yng nghanol y llun), mab Michael D Jones, sy'n cael ei gydnabod fel sylfaenydd Y Wladfa.

Dywed rhai i Llwyd ap Iwan gael ei ladd yn ei siop gan Butch' Cassidy a'r Sundance Kid' ond y tebygrwydd yw mae herwyr eraill oedd yn gysylltiedig 芒'r ddau Americanwr fu'n gyfrifol.

Saethwyd Llwyd ap Iwan yn farw yn ei siop ar Ragfyr 25 am iddo wrthod rhoi'r arian iddynt.

Adeiladu ffordd yn ardal Afon y Mynach Y gred yw y gallasai fod wedi arbed ei fywyd ei hun o ufuddhau i'r lladron.

Daw rhai o'r lluniau sydd yn y gyfrol o Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Cymru, Bangor, sydd yn gwarchod y casgliad mwyaf o ddeunydd yn ymwneud 芒'r Wladfa i'w gael tu allan i'r Ariannin.

""Wrth edrych ar y lluniau heddiw, mae'r trigolion yn edrych fel cowbois Cymreig. Maent i'w gweld yn gyrru gwartheg, symud eu heiddo ar wagenni ac yn eistedd o gwmpas tanau yn yr awyr agored. Mae nifer o'r lluniau'n dangos eu cartrefi gyda'r Andes uchel yn gefndir iddynt," meddai Einion Thomas, Archifydd y Brifysgol.

"Roedd y gwladychwyr yn wynebu bywyd caled yn y Wladfa, yn arbennig yn ystod y blynyddoedd cynnar, gyda nifer ohonynt yn dychwelyd i Gymru, ond yn y diwedd ffynnodd y Wladfa.

John Murray Thomas gyda chriw o arloeswyr "Cyfres o luniau a gomisiynwyd gan Llwyd ap Iwan ac a dynnwyd gan John Murray Thomas yw prif ran casgliad Patagonia yn yr Adran Archifau. Mae'r gyfres yn darlunio sut y lledaenodd y gymuned i diroedd newydd, gan sefydlu cymunedau newydd yn y tiroedd uchel wrth droed yr Andes, ychwanegodd.

Ail-gyhoeddir y lluniau yn awr mewn cyfrol argraffiad cyfyngedig, Una Frontera Lejana la colonisacin galesa del Chubut - Fotografas de John Murray Thomas, Henry E Bowman Carlo Foresti et otros 1865-1935.

Michael D Jones a Lewis Jones
Disgrifiwyd Michael D Jones fel 'Tad y Gymru Fodern' gyda'i gyfraniad at syniadaeth grefyddol a gwleidyddol ei ddydd yn sylweddol ac yn berthnasol hyd yn oed heddiw.

Ond mae'n cael ei gofio'n bennaf fel tad a sylfaenydd y Wladfa ym Mhatagonia yn dilyn taith i'r Unol Daleithiau yn 1848-9 lle gwelodd y Cymry'n brwydro'n aflwyddiannus i ddiogelu'r iaith a'r diwylliant Cymreig yn eu cymunedau a'r Saesneg yn lladd y defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru hefyd.

Dadleuodd mai'r unig ateb oedd oedd sefydlu cymuned neu wladfa Gymreig y tu hwnt i ddylanwad y Saesneg. A Phatagonia a ddewiswyd ar gyfer hynny yn dilyn ymweliad Lewis Jones a Love Jones Parry.

Cartref yng Nghwm Hyfryd gyda mynydd Gorsedd y Cwmwl yn y cefndir Argraffydd yng Nghaernarfon oedd Lewis Jones wrth ei alwedigaeth ac yn dilyn y symudiad i Batagonia daeth yn Rhaglaw dros yr ymfudwyr, yr unig Gymro i ddal y swydd honno.

Cafodd hefyd ei garcharu gan awdurdodau'r Ariannin oherwydd ei safiad dros hawliau'r Cymry.

Fel argraffydd nid yw'n syndod iddo sefydlu dau bapur newydd yn y Wladfa, Ein Breiniad yn 1878 ac Y Drafod yn 1891.

Yr oedd un o brif lenorion Y Wladfa, Eluned Morgan, yn ferch iddo, ac ysgrifennodd yntau Y Wladfa Gymreig. Bu farw yn 1904.

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy