麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Anifeiliaid Anwes
Anifeiliaid Anwes - Ci Bach, Cath Fach, Cwningen, Mochyn Cwta, Bochdewion a Gerbilod, Llygod a Llygod Mawr. Addasiadau Cymraeg gan Elin Meek. Gomer. 拢4.99 yr un.


Rhwng ffwr a blew
Cynneddf od yw honno mewn dyn i fod eisiau carcharu anifail er mwyn cael bod yn garedig wrtho.

Ac mae'r gynneddf honno ar ei chryfaf ymhlith plant sy'n swnian byth a hefyd am gael bod yn berchen ci, cath, cwningen, aderyn mewn cawell neu hyd yn oed lygod mawr.

Cloriau Ac yn 么l y gyfres hon o chwe llyfr gan Wasg Gomer mae bod yn berchen ar eich anifail dof eich hun "yn hwyl".

Yn gyfrifoldeb
Mae hefyd yn gyfrifoldeb gan fod yr anifeiliaid hyn yn hawlio sylw a gofal cyson.

Mae natur y cyfrifoldeb yn cael ei bwysleisio fwy nag unwaith yn y llyfrau hyn a gyhoeddwyd yn Saesneg yn wreiddiol ac yn awr ar gael yn y Gymraeg diolch i gefnogaeth Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Yn hyfryd a gl芒n o ran diwyg maen nhw'n llawn o luniau hyfryd o blant hyfryd a gl芒n, da eu byd, yn ymh茅l 芒'r gwahanol anifeiliaid.

Mae'r cynghorion yn gryno a chlir ac wedi eu sgrifennu yn yr ail berson unigol - Ti a Thithau yw hi heddiw rhwng awdur a darllenydd yn hytrach na Chwi a Chwithau ddyddiau fu.

Cyfarwyddiadau
Ond er y nodyn hwnnw o agosatrwydd, does yna ddim cymaint o gynhesrwydd yn yr arddull wrth i orchmynion gael eu pledu atom yn null y llyfr cyfarwyddiadau.

Gallasai pethau fod yn fwy cartrefol o fod wedi cyflwyno elfen o hiwmor. Cysgod yr athro yn creu dinasyddion da a chyfrifol ym myd perchenogaeth anifeiliaid dof sydd dros y gyfres.

Ac onid yw y "dof" traddodiadol, eang ei ddefnydd, yn well gair na'r anwes gwirion yma a fathwyd yn ystod yr ymdrech i gael term Cymraeg am pets?

Er bod y cynnwys pob llyfr yn hynod o debyg gyda rhai cymalau yn cael eu cludo o un llyfr i'r llall dydi hynny ddim yn debyg o fennu ar y plant fydd yn eu darllen gan na fydd unrhyw un plentyn yn debyg o fod yn darllen drwy'r casgliad cyfan ond yn pori yn ei faes arbenigol ei hun.

I oedolion
Syniad da yw cynnwys ar ddalen olaf pob llyfr nodiadau ar gyfer rhieni sydd yn grynodeb buddiol gyda gwybodaeth ychwanegol.

Dalen nodweddiadolDrwyddi draw mae iaith y cyfarwyddiadau yn gwbl dderbyniol. Mae'n tueddu at fod yn ddeheuol - ffaith nid beirniadaeth! - ond go brin mai hynny sy'n peri fod yna anghysondeb yn y defnydd o'r geiriau ffwr a blew wrth s么n am gotiau'r anifeiliaid hyn.

Er enghraifft mae'r gyfres yn s么n am "ffwr" cath er bod rhywun yn fwy tueddol o ddefnyddio "blew" mewn iaith bob dydd fel sy'n digwydd yma yn y llyfr am foch cwta.

Ai cyfieithu llythrennol o'r Saesneg sydd wedi peri hynny, fel gydag ambell i droad ymadrodd hefyd?

Ta beth, mae rhywun yn rhagweld plant yn cael budd a mwynhad o'r llyfrau hyn gan fwynhau'r lluniau yn fawr.

Hyd yn oed os na all rhywun gyfiawnhau cadw rhai anifeiliaid yn gaeth mewn cewyll mae pob cyfiawnhad dros sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau dan yr amgylchiadau hynny; a dyna nod gyfrifol y llyfrau deniadol hyn.
Glyn Evans


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy