麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cwmni Deg Dawnus gan D. Ben Rees
Adolygiad gan Glyn Evans o Cwmni Deg Dawnus gan D. Ben Rees. Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. 159 tudalen. 拢7.99. 0-901332-66-6.
Yr hyn a wnaeth D. Ben Rees i gywain y gyfrol hon o ysgrifau bywgraffyddol oedd llunio rhestr o bobl y byddai am eu gwahodd i ginio yn ei gartref.

Clawr y llyfrDewisodd ddeg:
Henry Richards yr Apostol Heddwch;
George M. Ll. Davies, heddychwr arall a 'Seraff yr efengyl seml';
Bessie Braddock, y gwleidydd o Lerpwl;
Syr Alfred Lewis Jones, dyn busnes o Gymro;
F. E. Smith, bargyfreithiwr medrus o Lerpwl a ddaeth yn Arglwydd Birkenhead a ddisgrifiwyd unwaith fel dyn "rhy glyfar o'r hanner" ac a elwir yn E. F. Smith weithiau yn y llyfr hwn!
Y Parchedig W. D. P. Davies, gweinidog anystywallt;
Dr Emyr Wyn Jones, meddyg, hanesydd ac eisteddfotwr;
John Smith, cyn arweinydd y Blaid Lafur;
W. J. Gruffydd, y cyn Archdderwydd, Elerydd, a
Paul Flynn, sy'n dal yn Aelod Seneddol Llafur.

Diddordeb ysol
Cymysgedd od ar yr olwg gyntaf ond o ddarllen yr hyn sydd gan D. Ben Rees i'w ddweud amdanyn nhw i gyd gwelir fod yna lawer sy'n gyffredin nid yn unig rhyngddyn nhw ond 芒 gwahanol ddiddordebau Mr Rees ei hun gan gynnwys crefydd a gwleidyddiaeth heb s么n am ddiddordeb ysol yn ei ddinas fabwysiedig, Lerpwl a'i fagwraeth Gymreig yng Ngheredigion.

Dywed y byddai'n trefnu dau ginio a phwy na fyddai eisiau bod yn bryf ar y wal yn y naill a fyddai'n Gymraeg ei iaith a'r un Saesneg arall lle mae'n rhagweld, "dadlau chwyrn rhwng F. E. Smith a Bessie Braddock, John Smith a Paul Flynn.

"Hynny am mai "Ceidwadwr digymrodedd" oedd Smith Mae'r syniad o sgwrs rhwng W. D. P. Davies a George M. LL. Davies, er enghraifft, yn tynnu dwr o'r dannedd hefyd.

"Byddai'r noson wedi hedfan dan gyfaredd eu hymresymu," meddai d. Ben Rees.

Un ddynes
Byddai wedi bod yn arbrawf diddorol ond anodd creu'r sgyrsiau posibl mewn cyfrol fel hon ond yr hyn a gawn yn Cwmni Deg Dawnus, yn hytrach, yw ysgrifau bywgraffyddol am bob un o'r deg a'r awdur yn rhagdybio "y bydd ambell agwedd o'r bywgraffiadau yn peri anesmwythyd i rai darllenwyr."

Dim ond un ferch sydd yna Bessie Braddock, y bydd ei chynnwys yn codi gwrychyn ambell i Gymro oherwydd ei chysylltiad 芒 boddi Tryweryn.

Ond y mae D. Ben Rees yn rhoi inni hefyd ochr arall y stormas o ddynes hon y dywedodd Churchill wrthi, wedi iddi ei gyhuddo o fod yn feddw; ei bod hithau yn hyll ond y byddai ef yn sobr yn y bore!

Ffraethineb, meddai D Ben Rees, sy'n adlewyrchu'n waeth ar Churchill nag ar y wraig a wnaeth gymaint i wella byd gwerin Lerpwl.

"Meddwl am y werin adfydus, a wn芒i Bessie Braddock bob amser. A dyna sydd yn cyfrif am yr enw da sydd iddi o hyd yn Lerpwl a'r cyffiniau."

Lladd ar Aber
Mae i'r brith bob amser ei ap锚l a chyda'r mwyaf brith o'r gweinidogion fyddai wrth y bwrdd cinio ydi W D Davies a ychwanegodd y llythyren P am Pechadur at ei enwau bedydd!

Ac yr oedd digon a fyddai'n cytuno ei fod yn llawn haeddu'r P yna.

Yn Athro yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth tynnodd drysorydd dylanwadol y sefydliad, Arglwydd Davies Llandinam, yn ei ben wedi iddo gael ei ddirwyo am fod yn feddw.

Dim rhyfedd nad anwylodd Aberystwyth ei hun i Davies o weld y trafferthion a gafodd yno:
"Yn y De yr oedd fy nghalon o hyd, er i mi wneuthur ymdrech deg i ddeall a chydfyw gyda'r Cardi. Ni thybiaf iddo erioed gymryd ataf fi, ac nid wyf innau yn dwlu arno yntau.
"Y mae Aberystwyth yn dref dlos ac yn dref iach, ond nid yw yn dref ddymunol i fyw ynddi, y mae clust ym mhob mur a thafod ar bob drws," meddai.

Ond ychwanega D Ben Rees ei fod ochr arall i Davies a'i fod "yn un o'r pregethwyr mwyaf enigmatig a welodd y pulpud Cymraeg" erioed ac hefyd yn "ddehonglydd" blaengar o'r ysgrythurau "ac yn gondemniol o ddiwinyddiaeth nad oedd yn meddu ar gydymdeimlad 芒'r natur ddynol."

Cymharu dau
Dydi D Ben Rees ddim yn brathu'i dafod wrth roi ei wahoddedigion yn y dafol.

Yn ei ysgrif am John Smith a ddaeth yn arweinydd Llafur ym Mhrydain yn dilyn y Cymro, Neil Kinnock, mae'n cael ei gydwladwr yn eisiau mewn cymhariaeth 芒'r Sgotyn:
"Ni allai'r un Llafurwr beidio 芒 chasglu fod John Smith yn llawer mwy abl fel meddyliwr na'r Cymro o Went ac yn meddu ar fwy o sgiliau y tu mewn i'r Senedd na Kinnock," meddai.

Dim rhyfedd fod y fath alaru pan ddaeth diwedd disymwth Smith o drawiad y galon.

Llafurwr arall sy'n destun edmygedd i D Ben Rees yw Paul Flynn, gwr y mae'n ei ddisgrifio'n drawiadol yn siarad "fel pwll y m么r trwy flew ei wyneb".

Nid menter newydd mo llyfr fel hwn i D. Ben Rees; gollyngodd o'i law gyfrolau bywgraffyddol defnyddiol eraill fel, Pymtheg o Wyr Ll锚n yr Ugeinfed Ganrif, Cymry Adnabyddus 1951-72, Dyrnaid o Awduron Cyfoes, Cymry Lerpwl ac Enwogion Pedair Canrif.

Wrth gwrs, wrth sgrifennu am bobl eraill mae'n anorfod eich bod yn datgelu llawer amdanoch eich hunan hefyd ac mae D. Ben Rees yntau yn codi cwr y llen ar ei gymeriad a'i dueddiadau yntau drwy'r hyn a ddywed am ei ddeg dawnus.

Heb amheuaeth, byddai yntau hefyd yn gwmni diddan wrth y bwrdd cinio 'na ac rwy'n falch o ddweud i mi gael y pleser hwnnw.

Ymhelaethiad yw hwn o adolygiad a gyhoeddwyd ar wefan Gwales, Cyngor Llyfrau Cymru.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy