麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cyfres TAB a'r Cadabras
Adolygiad Meirion Puw Rees o Dirgelwch y Ty Gwag a Dirgelwch y Powdwr Cosi gan Sian Lewis. Cyfres TAB a'r Cadabras. Gwasg Gomer. 拢4.99 yr un.


Oed saith i naw.
Dau lyfr yng nghyfres TAB a'r Cadabras ydi Dirgelwch y Ty Gwag a Dirgelwch y Powdwr Cosi ond peidiwch 芒 disgwyl darganfod pam mai dyna yw enw'r gyfres tan ddiwedd y llyfr cyntaf!

Clawr y llyfrWrth agor Dirgelwch y Ty Gwag, y llyfr cyntaf yn y gyfres, mae yna lun llyfr efo'r teitl "FFEIL Tomos Aled Beynon i dditectifs" ac wedyn "Ces 1 - Dirgelwch y Ty Gwag" ac yn dilyn rhestr o gynnwys sydd yn mynd, "Map, Cliwiau" ac "Yr Hanes" .

Yn fy marn i mae hyn, ar yr olwg gyntaf, yn cymhlethu pethau'n ofnadwy gan fod yn rhaid darllen am sbel cyn deall perthnasedd y lluniau.

Peth arall; wrth ddarllen y llyfr mae'n ymddangos bod cyfeiriad y gwynt yn bwysig - pam felly peidio 芒 rhoi cyfeiriad y gwynt ar y llun o'r ceiliog gwynt ar y ddalen 'cliwiau'?

Mae cychwyn yr ail lyfr yn hollol wahanol efo rhyw fath o ragarweiniad.

Mi liciwn i gael cysondeb gan fod y llyfrau yn perthyn i'r un gyfres.

Pethau bach, mi wn, ond pethau sy'n tynnu oddi ar y mwynhad o'r llyfr.

Y straeon
Beth bynnag, ymlaen at y straeon eu hunain.
Yn y llyfr cyntaf, Dirgelwch y Ty Gwag, mae Tomos yn darganfod bod dau o blant y consurwyr enwog, Morgan a Marged Cadabra, wedi symud i Ty Mawr' ac wedi colli eu Nani. Fel ditectif yr ardal rhaid i Tomos ddarganfod lle mae'r Nani a beth sydd wedi digwydd iddi.

Mae'r un cymeriadau yn yr ail lyfr lle mae Morgan a Marged Cadabra wedi cael rhybudd fod rhywun am ddifetha parti maent yn y'i drefnu.
Plot bach digon diddorol i blentyn ifanc.

Gwnaeth Sian Lewis yr awdur ymdrech glir i gynnwys hiwmor yn ei llyfrau. Er engraifft mae'n siwr bod y syniad o Locsyn (ci) mewn sarong a tuxcedo' wedi ei wneud o ganiau yn ddigri.

Mae'n llwyddo i greu lluniau doniol felna drwy'r llyfrau.

O gymharu'r ddau lyfr, yr ail yw'r gorau lle mae'r stori yn llawer cryfach ac yn haws o lawer i'w dilyn.

Mae'r cliwiau wedi eu gosod allan yn well hefyd.

Ar ben hynny, mae'r cymeriadu hefyd yn well yn yr ail lyfr.

Yn y llyfr cyntaf mae Tomos, y prif gymeriad, yn ddi-emosiwn - efallai er mwyn creu'r syniad ei fod yn dditectif proffesiynol. Yn anffodus dydi hyn ddim yn gweithio ac yn yr ail lyfr mae Tomos yn dangos rhyw fath o emosiwn, yn enwedig pan fo'n meddwl am tuxcedo' wedi ei wneud o ganiau!

Cymeriadau
Mae'r awdur hefyd yn amlwg yn ceisio pwysleisio y cymeriadau drwy eu cyferbynu 芒 chymeriadau eraill. Er engraifft mae cyferbyniad amlwg rhwng Tomos a'r ddau blentyn Cadabra gyda Tomos ar y naill law yn hogyn distaw, meddylgar yn rhoi'r argraff o rywun dwfn iawn ond ar y llaw arall mae Ab a Babs yn blant eithafol, cynhyrfus yn rhoi'r argraff o rai dwl, gwirion, yn enwedig o'u cymharu 芒 Tomos.

I ryw raddau, llwyddodd yr awdur i gyferbynnu'r cymeriadau gan greu gwahaniaethau clir rhyngddyn nhw ond does ddim cydymdeimlad i gael 芒 Tomos am orfod delio 芒'r fath blant.

Ta beth, os ydych yn rhiant dyma ddau lyfr da i blant - rhai hawdd i'w deall, lliwgar a bywiog ac yn gychwyn da i gyfres newydd.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy