麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Daw Eto Haul gan Geraint Lewis
Adolygiad Grahame Davies o Daw Eto Haul gan Geraint Lewis, Gwasg Carreg Gwalch, 2003, 拢5.95, tt 332.


Gadewch inni fod yn onest, nid yw llenorion Cymraeg yn dda iawn am drafod rhyw.

Iawn, roedd gennym ganu maswedd yr oesoedd canol. Ond beth oedd hynny ond rhyw ymdrybaeddu mewn golwg fudr ar ryw fel gwrthgyferbyniad - digon dealladwy - i gaethiwed moesoldeb rhywiol crefyddol.

Doniol nid aeddfed
Ie, roedd yn ddigon hwyliog, wrth gwrs, ac fe gewch ei debyg mewn darlleniadau a stompiau led-led Cymru o hyd lle gwelir rhyw fel rhywbeth i chwerthin amdano, rhywbeth drwg i s么n amdano gan longyfarch eich hun ar eich hyfdra.
Doniol, siwr iawn, ond agwedd aeddfed? Go brin.

Clawr y llyfrEfallai fod hyn oll ond i'w ddisgwyl mewn gwlad lle y cysylltwyd y Gymraeg ers canrifoedd 芒 chrefyddoldeb ac 芒 moesoldeb o fath digon ceidwadol.

Gyda'r fath gefndir, hyd yn oed yng ngwaith llenorion Cymraeg cyfoes mae ymdriniaethau 芒'r pwnc yn aml yn cwympo i wahanol faglau: agweddau rhywiaethol cyntefig; telynegu swil a choeglyd; ymgeisiau hunan ymwybodol i roi sioc.
Symptomau gwahanol, ond yr un clefyd.

Medru trin y pwnc
Dyna pam roedd darllen Daw Eto Haul, yn gymaint o awyr iach. Nid bod agweddau'r cymeriadau at ryw bob amser yn gymeradwy ond bod yr awdur ei hun, o leiaf, i'w weld yn medru trin y pwnc heb goegni, gor-ymdrech neu embaras.

Yr hyn a geir yw hanes Bryn James, dyn sengl ar drothwy ei ddeugain oed, yn byw ar gyrion bywyd y cyfryngau yng Nghaerdydd, ac yn llusgo o un garwriaeth fethiannus i'r nesaf.

C芒i lawer o helyntion wrth geisio gwella ei fyd yn economaidd, ac wrth geisio dod o hyd i berthynas foddhaol 芒 merch.

Fel rhyw fath o gorws i'w ymdrechion mae ei griw o ffrindiau o'r cwis tafarn rheolaidd, tri dyn sydd yn ymgorffori agweddau gwrywaidd gwahanol tuag at fenywod. Ganddyn nhw y mae Bryn yn derbyn cyngor, her a thynnu coes.

Caerdydd campus
Mae'r darlunio ar fywyd Caerdydd yn gampus - nid dim ond bywyd Cymraeg Caerdydd, sydd yn darged eithaf hawdd a chyfarwydd, ond Caerdydd y ddinas fel y cyfryw.

Dyma agwedd arall ar yr aeddfedrwydd y soniais amdani. Mae'r awdur yn aml iawn i'w weld yn trigo yng Nghaerdydd fel cartref nid fel rhyw fath o barc-thema o ddyheadau cenedlaethol wedi ei boblogi gan stereodeipiau o'n hagweddau cymunedol.

Dyna un o gryfderau mawr y nofel hon, ac fe anesmwythais ar yr ychydig adegau pan oedd yr awdur wedi ildio i'r demtasiwn o roi llinyn mesur ar bwnc Cymreictod, boed yng Nghaerdydd neu yn ei dref enedigol Tregors.

Gwn fod y cloriannu diddiwedd ar ein cyflwr yn rhan o'n bywydau yn y ddinas ac yn y wlad fel ei gilydd, a gwn fod modd dadlau dros gynnwys y fath olygfeydd ar sail y ffaith mai dyna'n union y math o drafodaethau a geir ymysg cymeriadau o'r fath. Ac mae Geraint Lewis yn ymdrin 芒'r pwnc mewn modd chwareus a sylwgar.

Ond mae cymaint o awduron yn delio gyda'r pwnc hwn, gwell gen i fyddai gweld Geraint Lewis yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n unigryw iddo, sef y darlunio gonest a threiddgar ar y psyche gwrywaidd yng nghyd destun bywyd dinesig.

Brathog a doniol
Yn y maes hwnnw mae'n feistraidd. Cefais fy atgoffa o waith Nick Hornby a Tony Parsons yn Saesneg. Mae sylwadau brathog a gwirioneddol ddoniol yn britho'r tudalennau. Rwyf wedi darllen rhai nofelau Cymraeg yn ddiweddar, rhai cyhyd 芒 Daw Eto Haul, lle mae'n amlwg fod yr awdur wedi bodloni ar draethu'r naratif yn bedestraidd o un olygfa i'r llall heb deimlo'r angen i fywiogi'r hirdaith gyda'r un sylw crafog neu wreiddiol.

I be mae llenor yn dda os nad i gynnig sylwadau mwy treiddgar a chofiadwy nag a geir yn eich papur bro?

Nid felly Geraint Lewis. Mae'n afradu sylwadau bachog a thrawiadol drwy'r gyfrol, ac mae'n ddigon hyderus i gladdu ambell un fel nad yw'r clyfrwch ond yn gwawrio ar y darllenydd yn dawel bach.

Ni cheir dim o'r slapstick noson-lawenaidd sy'n cynrychioli hiwmor mewn cynifer o nofelau Cymraeg. Rhywbeth llawer mwy celfydd a geir yma, ac eto doniolwch chwerthin-yn-uchel ydyw hefyd.

Carwn ddyfynnu rhywfaint er mwyn rhoi blas, ond anodd fyddai gwneud hynny gan fod llawer o'r sylwadau mwyaf cryno yn rhai y byddai'n anodd eu harddangos ar y cyfrwng hwn.

Cyfoes, credadwy ac aeddfed
Bodlonaf ddweud imi gael mwynhad mawr gyda'r nofel hon, gan ei darllen mewn un diwrnod, er gwaetha'r ffaith mai dros 300 o dudalennau ydyw. Mae'n gyfoes, yn real, yn gredadwy, yn aeddfed ac yn llawn blas y ddinas.

Fel y dywedais, 'dyw agwedd y cymeriadau at ryw ddim bob amser yn gymeradwy, ond, yn bwysicach o lawer mewn nofel, maen nhw'n gredadwy. Yn real, yn fl锚r, ac yn ddilys.

Ai'r caswir yw y bu'n rhaid aros nes i ddylanwad crefydd Gymraeg farw o'r tir cyn bod modd i ryw gymryd ei le gyda gweddill y profiad dynol yn ein ll锚n?

Mae'n bosib. Ac mae'n biti os mai dyna oedd raid. Ond beth bynnag am y rheswm pam, yn y nofel hon, mae'r broses honno yn sicr i'w gweld wedi digwydd. A diolch byth am hynny.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy