麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tafarn Tawelwch
gan Gerwyn Wiliams

Adolygiad Grahame Davies o Tafarn Tawelwch gan Gerwyn Wiliams. Gwasg Carreg Gwalch, 2003, 拢5, tt 57.


Dyna beth prin yw tawelwch y dyddiau hyn. Mae fel petai'r byd ofn yr hyn a ddaw o beidio llenwi pob cornel 么'n hymwybyddiaeth 芒 swn.

Clawr y llyfrAmbell waith, ymysg prysurdeb cynnal gyrfa, a magu plant, a gofynion cymunedol, teimlaf mai'r rhodd yr hoffaf fwyaf fyddai potel o dawelwch, y gallwn lowcio tangnefedd di-swn ohoni pan fo angen.

Ond byddai chwaeth at ddiod o'r fath yn cael ei gweld yn beth od ar y naw mewn byd lle mae pawb fel petaent yn gweiddi am sylw.

Cymaint o donic
Dyna pam mae llais y bardd Gerwyn Wiliams yn gymaint o donic. Bardd y gair tawel, nid y waedd, yw hwn. Ond fel y gwyddys, y gair tawel yn aml iawn yw'r cryfaf o dipyn.

Yn y gerdd a rydd ei theitl i'r casgliad hwn, sef pumed casgliad y bardd, darlunnir yr awdur yn mynychu tafarn lle ni cheir sŵn electronaidd yn gefndir.

Be wnewch chi'n fanna, hogia,
heb jiwcbocs na bandit,
holai'r gyrrwr anghrediniol
ac anthemau Radio 1
yn gysur i'w glustiau
wrth ein gollwng ger tafarn tawelwch.

Ond dyna i ble'r 芒i'r bardd, i'r diriogaeth lle gadewir digon o ofod i rywun gael ei daro gan welediad.

Ceir llawer o fyfyrio ar y broses o fagu plant, a hynny'n dyner ac yn sylwgar. Hyfryd o gerdd yw Canu'r Piano lle gwelir bysedd y plentyn "yn ofni'r nodau / yn eliffanta ar ifori'r allweddellau" cyn iddynt fagu digon o hyder i ddilyn eu llwybr eu hunain.

Ceir awgrym o dreiddgarwch y dweud cynnil yn y llinellau clo
: a gwlad arall yn ymagor fan draw
ei halawon yn ddiarth, hunangynhaliol.

Ofer inni mwyach geisio'i dal.

Bod yn dad
Gwelir yr un tynerwch mewn nifer o gerddi am y profiad o fod yn dad, profiad chwerw-felys lle mae pob cyrhaeddiad newydd a groesewir yn golygu rhyw fath o ffarwel hefyd.
Mae'r gerdd Gollwng Gafael yn enghraifft dda yn ogystal.

Ar begwn arall bywyd, mwynheais yn fawr y gerdd ar Nan Bethel lle gresyna'r bardd na fu iddo recordio rhai o ddywediadau lliwgar ei Nain. Gresynais innau'r un peth pan fu farw fy nain innau yn gynharach eleni.

Ar gynfas ehangach wedyn, ceir cyfres o gerddi yn ymwneud ag ymweliad 芒 mynwentydd y Rhyfel Mawr yn Ffrainc.

Cefais fy atgoffa o lyfr campus Geoff Dyer, The Missing of the Somme wrth i Gerwyn Wiliams ddarlunio ei ymweliad 芒 chofeb Thiepval, lle cofnodir enwau'r "saith deg mil di-fedd" a fu farw yn y frwydr erchyll honno heb i'w gorffwysfan fod yn hysbys:
yr horwth hyll o gofeb
gorsaf ofod Lego o frics coch,

Ni cheir yr ymdrechu ar 么l y datganiad mawr, yn hytrach, dawn y bardd yn y gyfrol hon yw i weld arwyddoc芒d yn y cyfarwydd.

Profiad buddiol a dymunol iawn yw treulio amser yn ei gwmni cyn troi "yn 么l at y nos, yn 么l at ddiogelwch twrw."


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy