麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ymlaen 芒'r G芒n
Adolygiad gan Glyn Evans o, Ymlaen 芒'r G芒n. Stori Gwenda Owen. Gwasg Gomer. 拢7.99.


Stori am ferch ifanc 33 oed yn brwydro yn erbyn canser y fron ydi 'Stori Gwenda Owen' ac yhn cael ei dweud ganddi hi.

Gwenda OwenHeb amheuaeth yn y darn hwnnw o'r 'hunangofiant' hwn y bydd y diddordeb pennaf er, doedd Gwenda ddim yn anadnabyddus cyn hynny.

Yn gantores ac yn actio ym Mhobol y Cwm bu'n fuddugol yn rownd derfynol C芒n i Gymru yn 1995

Magu ar fferm
Mae cychwyn y stori yn ddigon cyffredin am ferch ifanc yn cael ei magu ar fferm yng nghymdeithas Gymraeg a chymdogol Cwm Gwendraeth ac yn dod i ymddiddori mewn canu 芒'r gitar.

Roedd eisteddfodau, capel, cyngherddau a rhaglenni teledu fel Yr Awr Fawr lyn gerrig milltir yn ei bywyd.

"Dw i ddim yn cofio bywyd heb ganu. Mae'r dylanwadau 'n么l yn yr achau rhywle gan fod teulu Mam a Dad yn hoff iawn o ganu, ond mae'r teulu ar ochr Mam yn gerddorol iawn," meddai.

"Mam fydde'n ein dysgu ni i ganu. Rwy'n ei gweld hi nawr yn dod mewn i'r ty ar 么l gorffen godro, yn tynnu ei welingtyns i ffwrdd ac yn sefyll o flaen y Rayburn a drws y ffwrn led y pen ar agor er mwyn iddi dwymo ar 么l bod mas yn yr oerfel."

Erbyn yr wythdegau yr oedd Gwenda yn briod a phlant yn cael eu geni.

"A dyna oedd patrwm fy mywyd, magu'r plant a chanu ar y penwythnosau," meddai.

Recordiwyd a chyhoeddwyd tapiau ac yn 1995 rhedwyd r芒s C芒n i Gymru.

"Roedd y cyfan fel breuddwyd, cael camu i'r llwyfan i ganu'r g芒n oedd wedi ennill C芒n i Gymru 1995," meddai.

Ond yr oedd cymylau hefyd.

"Y tu 么l i brysurdeb bywyd a'r llwyddiant, roedd 'na dristwch ac roedd straen fy mhriodas yn dechrau dangos. Pen draw'r cyfan oedd ysgariad," meddai.

Darganfod lwmp
Ond ar Ebrill 10, 1999, y daeth y daranfollt pan deimlodd lwmp yn ei bron a'r holl fraw sy'n gysylltiedig a darganfyddiad o'r fath.

"Doedd e ddim yn grwn fel pelen fach ond yn dwlpyn hir, fel si芒p rhyw lygoden fach."

Dyna gychwyn ar gyfnod y mwyaf ysgytwol y gallai rhywun ei ddychmygu a'r gofid yn cael ei ddwyshau wrth i'r meddyg cyntaf a'i gwelodd mewn ysbyty fynnu deirgwaith nad oedd dim i bryderu amdano gan mai casgliad o frasder diniwed oedd y lwmp.

Nid felly bu a chyda'r twlpyn wedi tyfu a chaeldu erbyn hyn bu'n rhaid ymhel a chwrs o gemotherapi ac fe wyr unrhyw un a fu'n gysylltiedig 芒 hwnnw cymaint treth ydi o ar gorff ac ysbryd claf.

Mae Gwenda Owen yn olrhain ei thriniaeth yn gymesur a theimladwy gan gyfleu yr ofn, y pryder a'r anghysur enbyd a ddeuai i'w rhan ond gyda ffydd yn y meddygon oedd yn gofalu amdani erbyn hyn gwrthododd ildio i'r salwch.

Os oes gwers i'w dysgu y wers honno yw i fod 芒 ffydd i frwydro nid yn gymaint yn erbyn yr afiechyd ei hun, gan fod hwnnw'n ddigon distaw a thyner ar ei gychwyn, ond yn erbyn meddyginiaeth sydd gyda'r ffyrnicaf y gellid meddwl amdani.

Pethau pwysig i'w dweud
Mae gan Gwenda Owen bethau pwysig i'w dweud am sawl agwedd o'r argyfwng mwy na chyffredin hwn - y pwysigrwydd o gael meddygon sy'n gynhaliaeth a phwysigrwydd ymateb cydnabod a ffrindiau er enghraifft.

Dywed hefyd iddi hi ddod drwyr profiad yn berson gwahanol.

"Mae'r cancr wedi fy newid i; rwy'n edrych ar bethau'n wahanol iawn erbyn hyn ac yn gallu gwerthfawrogi bywyd a'r pethau bach mewn bywyd yn llawer gwell," meddai.

Na, does dim amheuaeth fod ymgodymu 芒 phrofiad o'r fath yn newid gwelediad a phersbectif rhywun.

Rhywbeth arall i ddygymod ag ef hefyd yw'r sylweddoliad nad rhywbeth sy'n mynd ar 么l cael gwllh芒d ydi canser. O'i gael mae yna am byth yn y meddwl.

Clawr y llyfr"Fe glywch chi sawl un sydd wedi cael cancr yn ei ddweud, nad yw e byth yn eich gadael chi mewn gwirionedd! Mae e'n gadael ei farc; ac os daw rhyw boen sydyn neu rhyw dwcan rhywle yn eich corff, fel y byddwn ni i gyd yn ei gael o bryd i'w gilydd, fe glywch chi lais bach yng nghefn eich meddwl yn dweud, 'Falle'i fod e n么l'," meddai. "Falle bod cancr yn gadael y corff ond dyw e byth yn gadael y meddwl yn llwyr," ychwanega.

Wedi'r driniaeth mae hi'n s么n wedyn am y "Dechrau newydd" a'r ailafael mewn bywyd - gyda chymar newydd a chan ddefnyddio ei doniau fel perffornmwraig i gynorthwyo yn y frwydr yn erbyn gelyn tawel mor ddychrynllyd.

Mae'n stori ddwys ac yn un sy'n ysbrydoli gyda'i dewrder a'r modd y tynnodd teulu a chyfeillion at ei gilydd i gynnig cynhaliaeth.

Cliciwch i anfon eich sylwadau chi.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy