Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhyfel Ni
Adolygiad Grahame Davies o Rhyfel Ni gan Ioan Roberts, Gwasg Carreg Gwalch, £7. Tud. 209.



Weithiau mae breuddwydion yn gallu bod yn drech na realaeth.
Ni cheir enghraifft well o hynny na'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Dewisodd arweinwyr y fintai gyntaf a hwyliodd yno yn 1865 anwybyddu'r cyngor mai diffeithwch anobeithiol oedd y Tir Neb yma a gynigiwyd iddynt fel cartref diogel i Gymreictod.

Clawr y llyfrEr hynny, ac er newyn, llifogydd a difaterwch llywodraeth yr Ariannin, fe lwyddodd y Cymry i greu ffyniant allan o'r diffeithwch ac i gynnal eu diwylliant hyd heddiw wyth mil o filltiroedd o Gymru.

Tynnu nyth cacwn
Bu dipyn o freuddwydio hefyd ynglyn â'r elfen Gymreig yn rhyfel y Falklands yn 1982, a gychwynnodd wedi i lywodraeth filwrol yr Ariannin, mewn ymgais i dynnu sylw oddi wrth ei gormes o'i phobl ei hunan, gipio'r ynysoedd anghysbell o feddiant Prydain.

Yn groes i'r disgwyliadau, fe dynnodd nyth cacwn i'w phen gan mai Margaret Thatcher oedd prif weinidog Prydain, ac fe neidiodd hithau yn awchus ar y cyfle i roi cweir i elyn tramor a thrwy hynny i hyrwyddo'r Prydeindod ymerodraethol oedd yn gymaint rhan o'i hapêl i'r bobl a'i hetholodd.

Does dim dwywaith mai eironi o'r mwyaf, felly, oedd i Brydain gael ei hun yn mynd i ryfel gyda'r unig wlad dramor lle ceir cymunedau Cymraeg. Halen ar y briw wedyn oedd dewis anfon y Gwarchodlu Cymreig, o bawb, i'r gad yn Ne'r Iwerydd.

I'r gydwybod radical Gymreig, a welodd yn glir y ffaith fod llywodraeth Margaret Thatcher wedi achub y cyfle i ddefnyddio'r rhyfel fel stynt etholiadol, naturiol oedd i wneud yn fawr o drueni'r sefyllfa fod milwyr Cymreig yn cael eu hunain ar ddwy ochr yr anghydfod.

Y ddwy ochr
Cafwyd dipyn o straeon gwerin am bobl Gymraeg o'r ddwy ochr yn cyfarfod yn ystod y rhyfel cafodd rhai o'r straeon apelgar yma eu hailadrodd yn y wasg neu mewn caneuon neu ymdriniaethau celfyddydol eraill.

Ergyd y stori bob tro oedd bod gwaed yn dewach na dwr.

Dros ugain mlynedd wedi'r ymrafael, a gostiodd ryw 900 o fywydau ifanc rhwng y ddwy ochr, dyma'r newyddiadurwr Ioan Roberts yn mynd ati i gloriannu effaith y rhyfel ar Gymry'r Ariannin a Chymry'r henwlad fel ei gilydd, a hynny mewn llyfr sydd yn esiampl o eglurder a chytbwysedd.

Rhyfel dau ddyn moel
Yr hyn a wnâi yw cyfweld â rhyw ugain o bobl y cyffyrddwyd eu bywydau gan y rhyfel yma dros yr ynysoedd pellennig hynny, rhyfel a ddisgrifiwyd yn fachog fel dau ddyn moel yn ymladd am grib.

Cawn gwrdd â milwyr, llongwyr a sifiliaid o Gymru a effeithiwyd gan y brwydro. Cawn gwrdd hefyd â milwyr ac â theuluoedd o dras Cymreig yn yr Ariannin.

Drwy gyfrwng holi a chofnodi sensitif a chraff Ioan Roberts, fe geir darlun o fywydau a newidiwyd am byth gan y profiad: y milwr a gollodd goes; y fam o'r Andes a gollodd ei mab; y teulu o Lanberis a gollodd eu mab hwythau.

Mae'r awdur i'w ganmol yn fawr am ymwrthod â'r demtasiwn i ramanteiddio ac i ganfod bai wrth drafod y rhyfel ofer a thrasig hwn. Nid yw'n ymwthio ei hun i'r blaendir ond, yn hytrach, yn cadw yn y cefndir gan adael i'r bobl eu hunain ddweud eu storïau yn eu geiriau eu hunain, heb fawr o ogwydd golygyddol yn llywio'r cyflwyniad.

Ymchwil dygn
Mae'r cyfuniad hwn o ymataliad proffesiynol o ran y mynegiant ac o ddycnwch o ran y gwaith ymchwil yn talu ar ei ganfed - mae'n fodd i'n cyflwyno ni i holl gymhlethdod y sefyllfa ac i chwalu sawl myth.

Er enghraifft, cofiaf wrando droeon ar y gân Gymraeg boblogaidd a theimladwy a seiliwyd ar y cyfarfyddiad tybiedig rhwng nyrs Gymraeg o Gymru a milwr ifanc o'r Ariannin yn ystod y brwydro. Mae'r geiriau gen i ar fy nghof: Pam wyt ti'n wylo yn lifrai dy wlad..?

Mae'n gân effeithiol yn y modd mae'n darlunio bod gwaed yn dewach na dwr ond mae'n rhaid imi ddweud imi fod ers blynyddoedd yn newyddiadurol sgeptig ynglŷn â dilysrwydd y profiad y seiliwyd y stori arno.

Pe bai 'na filwr o'r Ariannin, a nyrs o Gymru, y ddau yn rhugl eu Cymraeg, wedi bod yn rhan o ddigwyddiad felly, does dim amheuaeth y byddai'r cyfryngau Cymraeg wedi dod o hyd iddyn nhw mewn amrantiad a'u holi nhw'n dwll droeon yn y blynyddoedd a ddilynodd.

Roedd absenoldeb y cyfweliadau hynny yn profi i mi mai rhyw goel gwerin diniwed oedd yr hanes rhyw ddameg gyfoes sy'n dweud gwirionedd am berthynas pobloedd heb fod yn ffeithiol wir o gwbl.

Rhwng dau elyn
Wel, mae Ioan Roberts wedi llwyddo i ddangos fod y gân a minnau, ill dau, yn rhannol gywir. Yn ystod y rhyfel, mi fuodd 'na gyfarfod mewn eglwys ym Mhort Stanley rhwng milwr o'r Ariannin a nyrs o Brydain, y ddau o dras Gymreig.

Does dim amheuaeth o hynny bellach, gan fod y ddau, Milton Rees a Bronwen Douse (Williams gynt) wedi rhoi cyfweliadau yn tystio i'r peth.

Ond nid wylo o ofn yn yr eglwys yn ystod cyrch awyr oedd Milton Rees, fel yn y gân, ond yn hytrach yn mynychu gwasanaeth y Sul arferol. A - gwaetha'r modd i'r rhamant - yn Saesneg yr oedd y sgwrs rhwng y ddau, gan mai di-Gymraeg oedden nhw, er gwaethaf eu cefndir.

Serch hynny, mae'r cyfarfod yma rhwng dau elyn mewn man addoliad, dan wg y gynulleidfa Brydeinllyd, yn sicr yn un hynod ac yn gwneud stori gofiadwy ynddi'i hun.

Clywed Cymraeg?
Beth am y storïau eraill o gyfarfyddiadau rhwng siaradwyr Cymraeg o'r ddwy ochr yn ystod y brwydro? Fel y dengys y llyfr hwn, prin yw'r dystiolaeth i hyn ddigwydd.

Er engrhaifft, fe dystiodd Don Bonner, chauffeur llywodraethwr yr ynysoedd, wrth y wasg Brydeinig iddo glywed milwyr Archentaidd yn siarad Cymraeg â'i gilydd wrth sefyll gard yn nhŷ y llywodraethwr.
Roedd o'n gyfarwydd â swn yr iaith, meddai.

Na, meddai Milton Rees. Sbaeneg oedd yr iaith a glywodd. Buodd ef ei hun yn nhŷ y llywodraethwr gydol y rhyfel ac ni chyfarfu ef â'r un siaradwr Cymraeg.

Neu fel y mae Ioan Roberts yn nodi'n garedig, "Mae'n ymddangos nad oedd clust 'Mr Don' yn ddigon main i wahaniaethu rhwng y Sbaeneg a'r Gymraeg."

Rhywfaint o Gymraeg
O ochr y Cymry, prin iawn hefyd yw'r dystiolaeth. Fe gawn un hanes am filwr, Howard Jones o'r Felinheli, wrth iddo warchod carcharorion ar long, yn dod ar draws Archentwr oedd â rhywfaint o Gymraeg ganddo.

"Mi oedd y coridor 'ma rhwng y cabins wedi cael i flocio yn y ddau ben, a fi a boi arall yn gardio pob pen efo machineguns. Mi oeddan ni'n siarad Cymraeg, ac mi ddath yr Argentine officer 'ma allan o'r caban a deud rwbath yn Gymraeg wrthon ni. Ar y pryd o'n i'n gorfod deud wrtho fo Dim ots gyna fi, dos yn d'ôl i'r cabin."

Go brin y byddai'r cyfarfyddiad go-iawn yna yn gwneud testun cân werin!

Gwrthrychedd aeddfed
Mae cymhlethdod y sefyllfa yn dod drwodd droeon. Mae gwrthrychedd aeddfed y llyfr yn rhywbeth i'w groesawu o'i gymharu â'r ymdriniaethau Cymraeg galarus a chwynfanus a geir ar y pwnc fel rheol.

Er enghraifft, mae'n gwbl amlwg nad oes gan y Gwladfawyr yma fawr o amheuaeth parthed hawl eu gwlad i'r "Malvinas". Mae'n amlwg hefyd nad oedd gan y Cymry yn y lluoedd arfog fawr o wrthwynebiad i'r rhyfel o'u rhan hwythau ychwaith.

Ac o ystyried canlyniadau'r anghydfod, fe wnaeth y llyfr imi gnoi cil ar rai cwestiynau digon dyrys. Er enghraifft, canlyniad colli'r rhyfel oedd i lywodraeth filwrol ormesol yr Ariannin gael ei dymchwel. Llywodraeth a laddodd 30,000 o'i dinasyddion ei hun.

Nid rhamant a geir yn y llyfr cydwybodol a thrylwyr hwn, felly, ond y ffeithiau, a'r teimladau go-iawn, mewn cyd-destun. Yn hynny o beth mae'n gofnod pwysig iawn o ddigwyddiadau hynod.

Holi mam
Fel yr awdur, bm innau hefyd unwaith yn sefyll gerbron cofeb ryfel y Malvinas yn Buenos Aires gan chwilio'r 650 o enwau am unrhyw un oedd â golwg Gymraeg arno, a methu.

Ond mae Ioan Roberts wedi tyrchu'n ddyfnach na minnau ac wedi canfod mai un o blant y Wladfa oedd Ricardo Andres Austin, a fu farw yn y frwydr yn ddim ond 18 oed.

Mae'r cyfweliad gyda'i fam yn ei phentre yn yr Andes yn brofiad dirdynnol. Felly hefyd y cyfweliad a gynhaliwyd yn Llanberis gyda rhieni John Raymond Roberts, a laddwyd ar un o longau Prydain.
Daw urddas a graslonrwydd y rheini yn amlwg er gwaetha'u colledion.

Dyna wir dristwch y rhyfel hwn, fel pob ryfel. Er bod elfen Gymreig iddo, nid rhyw lwyfan i frwydr ddirprywol dros hunaniaeth Gymreig mohono, yn y bôn.

Er cymaint yr hoffwn i'r cysylltiadau Cymreig fod yn ganolog i'r profiad, y caswir yw mai peth digon ymylol a fuont i'r bobl a gyffyrddwyd gan y rhyfel, ffaith a ddaw'n amlwg hyd yn oed mewn llyfr sydd yn cofnodi yn benodol yr agwedd honno.

Mewn gwirionedd mae na drasiedi sy'n ddwysach nag yw'r syniad arwynebol o gefndryd Cymreig yn brwydro yn erbyn ei gilydd o'u hanfodd, sef mai brwydro'n ufudd ac o argyhoeddiad yr oedd y ddwy ochr er gwaetha'r cysylltiadau Cymreig.

Weithiau mae dwr yn dewach na gwaed.
Weithiau mae realaeth yn drech na breuddwyd.



Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý