麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dyn yr Eiliad gan Owen Martell
Adolygiad Grahame Davies o Dyn yr Eiliad, gan Owen Martell, Gwasg Gomer, 2003, 拢7.99. t.t. 314.


Adfer ffydd yn y nofel Gymraeg
Nid darllenwr nofelau mohonof fel rheol - gwell o lawer gen i lyfrau ffeithiol neu farddoniaeth.

Ond yn ddiweddar, bu'n rhaid imi ddarllen nifer o nofelau Cymraeg am resymau ymchwil ac mae'r profiad wedi bod yn agoriad llygaid - a gwaetha'r modd, am y rhesymau mwyaf negyddol.

Ystrydebol, amlwg, gor-syml, anghelfydd - dyna ddim ond rhai o'r gwallau sylfaenol a andwyodd y llyfrau a ddarllenais. Nid af i fanylder, ac ni wna' i fwrw fy mol yn llwyr am y peth fan hyn, ond bodlonaf ddweud bod y profiad o'u darllen yn un siomedig tu hwnt.

Diwyg yn codi cywilydd
A'r diwyg. Os mai nod pob awdur a chyhoeddwr yw cael llyfr sy'n unputdownable, ymddengys fod rhannau o'r diwydiant cyhoeddi Cymraeg wedi llwyddo i greu llyfr sy'n unpickupable.

Mae cloriau amaturaidd rhai nofelau Cymraeg hyd yn oed rhai y mae eu cynnwys yn dda ac sydd yn rhydd o'r beiau a nodais uchod - yn embaras.

Pe bawn am eu darllen mewn man cyhoeddus, buaswn yn cael fy nhemtio i'w cuddio tu fewn i gylchgrawn.

Dyna pam roedd darllen Dyn yr Eiliad gan Owen Martell yn gymaint o ryddhad.

Edrych fel llyfr go iawn
Y diwyg yn gyntaf. Mae'n edrych fel llyfr go iawn. Mae graen i'w weld ar y gwaith hwn o'r b么n i'r brig.

Clawr y llyfr Mae'r cloriau'n chwaethus, cyfoes a deniadol. Mi fyddwn yn falch o gael fy ngweld yn darllen hyn wrth fwrdd caffi neu ar dr锚n.

Nid unrhyw gaffi chwaith, nag unrhyw dr锚n ond caffi chwaethus, a thr锚n ar ei ffordd i Baris.
Achos mae'r llyfr hwn yn cwl.

Byddwn wrth fy modd yn cael fy ngweld 芒'r llyfr hwn yn fy llaw er mwyn cyfranogi rhywfaint o'r soffistigeiddrwydd sy'n diferu o'i arddull a'i fydolwg.

Rhagorol ym mhob ffordd
Nid s么n am y clawr a'r diwyg yn unig yr wyf fi ond y cynnwys. Mae'n rhagorol. Ym mhob ffordd.

Fel y gwelwch, nid wyf yn un i ganmol rhywbeth dim ond am ei fod yn Gymraeg, felly gobeithiaf y bydd y ffaith honno'n ychwanegu at ddilysrwydd fy nghanmol ar y nofel hon.

Heb unrhyw or-ddweud, dyma nofelydd y mae modd ei gymharu gydag enwogion llenyddiaethau eraill.

Ymson wedi marwolaeth
O ran y cynnwys, yr hyn a gawn yw ymson gan y prif gymeriad, Daniel, dyn ar drothwy ei ddeg ar hugain sy'n ceisio gwneud synnwyr o'i fywyd wedi marwolaeth annhymig ei ffrind gorau, Davies.

Tyfodd y ddau i fyny yn Nowlais, ym Merthyr, tref a ddarlunir yn gynnil effeithiol yn rhyddiaith gyfoethog, gyfoes a chredadwy y nofelydd.

Fel un a dreuliodd ddegawd ym Merthyr, gallaf dystio i'r awdur ddewino peth o hanfod y lle mewn ychydig linellau:
"Ma'r hen hewl wastad yn rhoi pen tost i fi dyna beth sy'n onest amdano, y dioddef. Ac rwy'n credu bod stribed tua throedfedd o led ym mhawb rownd fan hyn, eu bod nhw'n credu mewn dioddef fel yr unig fath o onestrwydd."

Gwelwn y berthynas rhwng y prif gymeriad a chyn gariad Davies, Anna, yn newid wrth iddyn nhw ymdopi gyda'r bwlch yn eu bywydau ac wrth iddyn nhw ail asesu eu cefndir cyffredin.

Goslef llais a phwyslais gair
Mae manion bywyd, goslef llais, pwyslais gair, yn magu arwyddoc芒d neilltuol wrth i'r berthynas addasu i'r amgylchiadau newydd.O ran ei thechnegau, mae'r nofel yn rhyw lun ar lif ymwybod ar ffurf dyddiadur, ac fe'i brithir gan frawddegau cynnil a chraff. Er enghraifft:
"Rwy'n hollol sicr nad oes yna unrhyw beth y gall dyn ei gyflawni sy'n dweud mwy amdano na'r lleiaf o'i wendidau."

Mae aeddfedrwydd yr awdur yn hynod, nid yn hynod o ystyried mai mond yn ei ugeiniau y mae ef o hyd, ond yn hynod ynddo'i hun.

Mae ei ddealltwriaeth o'r natur ddynol a'i grefft wrth gyflwyno hynny yn gwneud i waith ambell i awdur Cymraeg dwywaith ei oed edrych yn anaeddfed.

Erbyn hyn, mae rhywun wedi hen syrffedu ar awduron Cymraeg yn potsian gyda dulliau 么l-fodernaidd ffasiynol nad ydyn nhw'n ychwanegu dim at gelfyddyd na dealltwriaeth na mwynhad y gwaith.
Cyfrinachedd heb gyfrinach yw peth felly.

Techneg at wasanaeth y stori
Ond yn y nofel hon, mae'r technegau at wasanaeth y stori ac yn hyrwyddo'r datgelu graddol ar gymhellion a dealltwriaeth y prif gymeriadau.

Fe greir argraff ddwys a hydreiddiol o ddieithrwch y cyffredin. Yn hynny o beth, caf fy atgoffa o waith y nofelydd Almaeneg, W.G.Sebald.

Ymgollais yn y gwaith, a'i ddarllen mewn dau eisteddiad, sy'n dweud dipyn pan ystyrir mai dros 300 o dudalennau yw ei hyd.

Ar adegau, roedd rhaid imi eistedd yn 么l ac atgoffa fy hun mai llyfr Cymraeg oedd hwn; roedd mor dda.

Yn afaelgar, yn ddwys, yn gelfydd ac yn effeithiol iawn.

Llyfr y flwyddyn
Ni ddarllenais lyfr cyntaf Owen Martell, Cadw Dy Ffydd, Brawd, yr un a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn iddo gwpl o flynyddoedd yn 么l,.

Fel y dywedais, nid darllenwr nofelau mohonof fel rheol. Ond cofiaf y canmol a fu arno, a'r beirniadu crintachlyd a fu hefyd ar ei ddefnydd o eiriau a chystrawen Saesneg.

Ceir arddull debyg yn Dyn yr Eiliad, ond mae'r cyfan yn naturiol ac yn ychwanegu at hygrededd y gwaith. I adleisio rhywfaint ar yr arddull honno gyda'r diffyg italeiddio yn fwriadol - mae'n llyfr grown-up, yn llawn nuances.

Ymddengys i Owen Martell gael ysgoloriaeth i ysgrifennu'r nofel yma. Dwn i ddim faint gostiodd hynny i Gyngor y Celfyddydau, ond roedd werth pob ceiniog.

Yn fy marn i, peidiwch trafferthu rhoi mwy o ysgoloriaethau unigol i'r nofelydd yma - rhowch bensiwn oes iddo er mwyn inni gael mwy o ddeunydd fel Dyn yr Eiliad.
Owen Martell, brawd, ti wedi adfer fy ffydd.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Owen Martell

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy