麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Marw Gweneth Lilly
Bu farw un o awduron llyfrau plant mwyaf cynhyrchiol Cymru dros y Pasg, 2004, yn 83 oed.


Enillodd Gweneth Lilly o Lanfairfechan Wobr Tir na n-Og ddwywaith yn olynol gyda'i nofelau hanes; Y Drudwy Dewr a Gaeaf y Cerrig, 1981 ac 82.

Bu'n arbennig o gynhyrchiol rhwng dechrau'r wythdegau a chanol nawdegau y ganrif ddiwethaf gan ganolbwyntio bron yn llwyr ar y nofel hanes.

Clawr un o'i llyfrauEr mai ym M么n yr oedd y gwreiddiau, yn Lerpwl y cafodd ei geni a'i magu ac ym Mhrifysgol y ddinas honno y graddiodd a chael ei phenodi wedyn yn ddarlithydd llenyddiaeth Saesneg yno.

Daeth i Gymru ym 1946 i ddysgu'r un pwnc yn hen goleg y Santes Fair ym Mangor ac yno y bu nes iddi ymddeol ym 1977.

Wedi ei hymddeoliad y dechreuodd lenydda a hynny yn y Gymraeg er gwaetha'r ffaith mai Saesneg oedd ei phwnc yn y coleg.

Enillodd ei phlwyf yn fuan iawn fel un o'n hawduron mwyaf blaenllaw ar gyfer plant a phobl ifainc.

Seiliodd ei nofel gyntaf, Y Drudwy Dewr, ar chwedl Branwen yn ail gainc y Mabinogi.

Yn ystod blwyddyn saith canmlwyddiant marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1982 hi a gomisiynwyd i sgrifennu nofel i nodi'r digwyddiad Rwy'n Cofio dy Dad.

Ysgrifennodd ddwy nofel Saesneg hefyd, Treason at Trefriw ac On a Scaffold High ym 1990 a 1993 ond ar y nofel Gymraeg y canolbwyntiodd yn bennaf gan gyhoeddi 13 o lyfrau i gyd gan gynnwys ei hunig nofel i oedolion, Orpheus a'i chefndir yng nghyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru.

Cyhoeddodd wedyn ddau gasgliad o straeon byrion, Masgiau a Dynes Mewn Du.

Yn aelod brwd a gweithgar o gymdeithas hanes ardal Llanfairfechan, sgrifennodd hefyd nifer o gyfrolau Cymraeg a Saesneg o ddiddordeb lleol a golygu rhai eraill.

Yn sgil y diddordeb hwnnw y bu'n cynorthwyo i ddod o hyd i gysylltiad Llywelyn Fawr a'i deulu 芒 Garth Celyn yn Abergwyngregyn ger Bangor.

Er mor boblogaidd ei gwaith yn yr wythdegau mae llawer, os nad y rhan fwyaf, o'i llyfrau allan o brint erbyn hyn.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy