Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr Cadarnhau lle Alan Llwyd fel un o'n beirdd pwysicaf

Darlunio camwri dyn wrth edrych ymlaen at ganrif newydd dda yn ei gyfrol ddiweddaraf

Dydd Iau, Rhagfyr 21, 2000
Adolygiad gan Aneirin Karadog:

Ffarwelio â Chanrif gan Alan Llwyd, Cyhoeddiadau Barddas. £7.95

Alan LlwydGwyddom i gyd erbyn hyn fod Alan Llwyd yn olygydd, yn awdur, yn sgriptiwr, i enwi ond rhai o’r pethau y gall droi ei law atynt.

Yr hyn a wna’r gyfrol hon yw cadarnhau’r ffaith mai bardd ydyw yn ei hanfod, a’i fod yn fardd a hanner hefyd.

Rhennir y gyfrol hudolus hon yn dair.

Y rhan gyntaf

Yn y gyntaf, ceir cerddi unigol a luniwyd gan Alan Llwyd rhwng 1996 a 2000. Yma ceir marwnadau ac englynion coffa i amryw o bobl; yn feirdd, yn ffigurau hanesyddol ac yn gyfeillion da.

Mae’n amlwg fod marwolaeth Rhydwen Williams y bardd a’r llenor, a’r bardd Arfon Williams wedi effeithio’n fawr arno.

Yn ei gadwyn o englynion i Arfon, ceir cyfeiriad at Rhydwen hefyd gan ddweud fod y ddau yn ddail a ddygwyd yn sydyn o goeden.

Nes y daeth arswyd wynt
i ddwyn y ddau ohonynt.


Serch hynny, ceir yma fwy na dwy gerdd o sylwedd yn coffáu, ynghyd ag englynion cofiadwy i eraill sy’n dangos cymaint o barch sydd gan y gwr hwn tuag atynt oll. Mae’r gerdd benrydd-gynganeddol, Y Llyn, yn hynod o afaelgar wrth i’r bardd goffáu Geraint Morris.

Ceir hefyd gerddi’n cyfarch beirdd eraill a lwyddodd i’w hudo yntau gyda’u cerddi cain; Emyr Lewis, y bardd sydd "rhwng y sêr yn rhywle.." a Ceri Wyn "… sy’n fardd o’r crud".

Gallwn hefyd uniaethu â nifer o’r cerddi yn yr adran hon; megis y gerdd Eira yn Chwefror a’r darlun trist sydd gan bob un ohonom yn y cof o’r eira’n dadmer a throi’n slwsh pyglyd.

Serch hynny, mae yna hefyd gerddi gobeithiol, fel ei gadwyn o englynion mawl i Rhiannon, merch gyntaf-anedig Iwan a Nia Llwyd.

Drwy ichi eni’r ferch hon – y ganed
i’r genedl obeithion


Yna ceir ambell i gerdd, fel Dwy gerdd ynghylch hunaniaeth sy’n ein hogi i feddwl.

Awgrymaf yn gryf y dylem ni i gyd ddarllen y ddwy gerdd yma, fel Cymry Cymraeg.

Efallai y byddai’n werth ystyried eu cyfieithu i’r Saenseg hefyd.

"Claddwn y delweddau bellach" yw llinell gyntaf yr ail gerdd, gan ddatgan bwriad y bardd o’r dechrau.

Wrth i’r bardd ganu mawl, neu dalu teyrnged, i ffigurau mawr y gorffennol yn hanes ein llên, drwy ymweld â’u beddau, disgrifir y profiad yn hynod o deimladwy yn y gerdd, Tri Bedd mewn un Diwrnod.

Yr ail ran
Symudwn ymlaen wedyn o’r canu personol a geir yn yr adran gyntaf at y Cantawd, sef yr ail adran.

Yr hyn a geir yma yw’r geiriau i gywaith a gomisiynwyd gan y cerddor ac uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, Richard Elfyn Jones.

Ond nid dim ond geiriau a geir yma, mae’r adran hon yn llawn barddoniaeth, wrth reswm, ond bod mydryddiaeth, neu fesurau’r cerddi, yn dynnach, yn naturiol, gan mai i’w canu y’u lluniwyd.

Y teitl ar y gwaith hwn yw Goroesiad Cenedl gyda chariad y bardd at ei wlad a’i iaith yn amlygu ei hunan drwy’r gyfeiriadaeth at hanes ein gwlad ac hyd yn oed yn nheitl y cywaith.

Yn bersonol, teimlaf mai Offeren Gwenllian yw’r gerdd orau yma. Yn bennaf, oherwydd ceinder syml y gerdd sy’n ymblethu’n wych â’r mesur uchelgeisiol a roddwyd iddi.

Mae Brad y Pedair Elfen hefyd yn gerdd afaelgar ac yn sicr o atgoffa nifer ohonom am drychinebau fel Aberfan a boddi Cwm Celyn a effeithiodd mor ddirfawr arnom fel cenedl.

"bro fud oedd Aberfan"

O ddarllen yr adran hon daw chwant i weld y perfformiad hwn gan yr unawdydd Janet Shell a Chôr Gwyl Gerdd Maldwyn; er mai fel rhan o ddathliadau’r Mileniwm y cyfansoddwyd y gwaith, dylid ystyried taith, pe na bai ond i gael gwrando ar y geiriau’n ymblethu â’r gerddoriaeth.

Y drydedd a phrif adran

Mae’r drydedd a phrif adran yn dwyn teitl y llyfr, Ffarwelio â Chanrif, â’r is-bennawd : Delweddau o’r ugeinfed ganrif.

Yn wir, mae’r delweddau sydd ym mhen Alan Llwyd o’r ganrif a aeth heibio yn rhai gwych ochr yn ocgr a’i ddawn i drin geiriau.

Ac er bod ganddo feddwl arallfydol ar brydiau nid meddwl ‘waci’ mohono.

Er enghraifft, mae’r ddelwedd a greir gan y prifardd o’r ferch fach yn y llun enwog hwnnw gan Kevin Carter o ryfel Vietnam, Phan Thi Kim Phuc, mor fyw â real nes ei bod yn ymlyu ar yr hunllefus a’r arswydus.

Wrth ddarllen y gerdd hon, cawn y teimlad o fod ym meddwl y bardd, yn edrych drwy ei lygaid wrth iddo astudio’r llun. Gwêl yntau’r ferch yn "rhedeg oddi ar y saithdegau" ac yn parhau i redeg am byth:

"yn rhedeg a rhedeg ymhle bynnag yr ydym,
yn rhedeg ar hyd y geiriau hyn
."

Dim ond un enghraifft yw’r dyfyniad uchod o gampwaith Alan Llwyd. Ceir yma amrywiaeth eang o fesurau’n cael eu plethu â’r gynghanedd, a hynny yn groyw, drwy gydol y deugain o gerddi sy’n croniclo agwedd ar hanes ein canrif ni.

Ein digalonni gan gamwri dyn

Mae’n bwysig pwysleisio mai agwedd ar y ganrif a geir yma hefyd.

Sonnir yn bennaf am drychinebau ac amseroedd trist y ganrif ; yn wir, o’r dechrau gobeithiol a geir yn y gerdd gyntaf, Canrif Newydd Dda!, tan y gerdd olaf ond un, Mawl y Rhai Da, fe’n digalonnir gan gamweddau dyn ar hyd y can mlynedd a fu.

Mewn cerdd sy’n coffáu Stephen Lawrence cyfeirir yn ôl at yr ail ryfel byd a gweithredoedd erchyll y Natsïaid.

Cawn ein gorfodi gan y bardd i ofyn i ni’n hunain os dysgasom unrhyw beth o gamweddau’r rhyfeloedd byd a fu.

"Mae ôl lladd ar bum llaw,
ôl lladd ar y pum llaw wen
."

Byddai’r negatifrwydd hwn yn wendid yn y gyfrol pe na byddai’r bardd wedi cynnwys y gerdd, Mawl y rhai Da - a gwnaeth hynny’n fwriadol wrth gwrs ac yn hynod effeithiol.

Pwrpas y gerdd hon yw codi’n calonnau ynghyd â dangos inni fod yna wastad obaith yn ein byd er gwaethaf ei galedi a thrais.

Daeth pobl fel y Fam Teresa ac eraill i’r byd i rannu eu haelioni a’u daioni â chymaint o anffodusion:

"Ynghanol yr holl ddrygioni, yr oedd rhai yn lledaenu daioni"

Fel y disgwylid, mae’r gynghanedd yn chwarae rhan amlwg yn y gyfrol hon, gan ymddangos ymhob un o’r cerddi, hyd yn oed yn y baledi a’r cerddi penrhydd cyfareddol.

Y gynghanedd yn llifo'n rhwydd

Yn wir, mae’r gynghanedd yn y gyfrol hon yn llifo’n rhwydd, fel pe bai’r ddawn hon yn ail natur i’r bardd

Gellir ymgolli a meddwi’n rhwydd ar eiriau’r cerddi’n unig, heb sôn am y negeseuon a’r delweddau, yn enwedig y rhai a geir yn yr adran hon o’r gyfrol.

Nid yw’r gyfrol, fodd bynnag, yn llawn o bethau y byddem yn disgwyl i Alan Llwyd eu gwneud a’u cynnwys, fel y profa pennill olaf ei gerdd sy’n cofio marwolaeth Lorca ym 1936.

A dweud y gwir, roedd y dyfyniad canlynol yn hollol annisgwyl i mi yn bersonol, gan ddangos nad yw’r bardd yn ofni sôn am bynciau sydd efallai’n dal i fod yn bynciau tabw yn ein cymdeithas ni o hyd:

"Na, na, ni laddwyd lorca dan leuad loyw,
dim ond ei saethu
yn nhwll ei ben-ôl
i wawdio ei wrywgydiaeth
."

Dylai’r llyfr hwn roi lle sicrach fyth i Alan Llwyd o hyn allan fel un o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain.

Mae’n profi hefyd nad oes angen defnyddio hiwmor bob tro er mwyn hoelio llygaid y darllenydd ar dudalen drwy gydol y llyfr.

Dylai’r gyfrol hon fod ar silffoedd pawb.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy