Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hutterites Hen werthoedd mewn gwlad newydd

Dau lyfr yn son am ymfudwyr yn ceisio diogelu hen ffordd o fyw
Gwladfa Patagonia 1865-2000 gan R. Bryn Williams gyda phennod ychwanegol gan Nan Griffiths. (Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg). Gwasg Carreg Gwalch. £4.25.

Hutterites of Montana gan Laura Wilson. Yale University Press. £27.50.

gan Glyn Evans:

Clawr y gyfrolY mae hanes y rhai hynny a orfodwyd i adael eu cynefin er mwyn osgoi annhegwch ac i geisio bywyd gwell mewn gwlad newydd yn un amrywiol a diddorol.

Gadwodd miloedd ar filoedd o Gymry am yr Unol Daleithiau, er enghraifft, ond heb amheuaeth yr ymfudiad a wir gipiodd ddychmyg y Cymry oedd yr un i sefydlu gwladfa ym Mhatagonia yn Ne America.

Mewn tair iaith

Y mae fersiwn tairieithog o’r hanes hwnnw newydd ei gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch.

Awdur Gwladfa Patagonia/La Colonia Galesa de Patagonia/The Welsh Colony in Patagonia yw y diweddar R. Bryn Williams prif hanesydd y wladfa honno.

Cyhoeddwyd y gyfrol wreiddiol yn 1965 i nodi canmlwyddiant glaniad y gwladfawyr cyntaf.

Ar gyfer y gyfrol ddiweddaraf ychwanegwyd pennod gan ferch yr awdur, Nan Griffiths, a pharatowyd y cyfieithiad Sbaeneg gan Lowri W. Williams, Bangor.

Gosodwyd dwy iaith Cymry Patagonia heddiw - y Gymraeg a’r Sbaeneg - ochr yn ochr a’i gilydd gyda’r fersiwn Saesneg yng nghefn y gyfrol.

Cyhoeddir hefyd, nifer o luniau na welsant olau dydd o’r blaen.

Yn amlwg mae’n fwriad gwerthu yng Nghymru ac ym Mhatagonia.

Diogelu hen werthoedd

Yr anhawster y mae pob ymfudwr yn ei wynebu wrth geisio bywyd newydd mewn gwlad arall yw amddiffyn y gwerthoedd hynny y maent yn eu trysori rhag arferion y wlad newydd.

Dim ond yn rhannol y llwyddwyd i wneud hynny yn achos Cymry Patagonia. Er bod elfennau o Gymreictod yn dal yn gryf yno a’r iaith i’w chlywed ar sawl gwefus, fel Archentwyr yr ystyria’r ‘Cymry’ yno eu hunain yn gyntaf erbyn hyn .

Yno, ni pherthyn unrhyw gymhlethdod i’r ddeuoliaeth o fod o waed Cymreig ac yn ddinesydd Archentaidd. Mae’n fater llawer llai sensitif ac yn llawer llai o dramgwydd nag yw'r syniad ein bod yn Gymry ac yn British i rai ohonom ni.

Gwrthsefyll llanw modern

Yn y cyd-destun hwn mae’n ddiddorol cymharu cymhathiad y Cymry yn Ariannin ag agwedd ymfudwyr eraill gwahanol iawn y cyhoeddwyd llyfr amdanynt yn ddiweddar.

Y mae’r Hutterites yn cynnal eu cymdeithas hwy ym mhellafion Montana yn yr Unol Daleithiau.

Fel yr Amish yn yr un wlad, y maen nhw yn gwneud eu gorau i wrthsefyll y llanw Americanaidd modern.

Yn byw mewn cymunedau o rhwng 35 a 100 o bobol maen nhw’n ymwrthod a theledu, radio, ceir a dawnsio ac y maen nhw yn heddychwyr i’r carn.

Laura Wilson"Nid y teledu sy’n codi ein plant ni," meddai un ohonyn nhw.

Fel arfer dydyn nhw ddim yn caniatau cymryd tynnu eu lluniau felly mae’n deyrnged i Laura Wilson, awdur Hutterites of Montana iddyn nhw ganiatau iddi hi wneud hynny - er ei chyfyngu i luniau du a gwyn.

Cymerodd amser iddi ennill eu hymddiriedaeth a bu’n ymweld â hwy yn gyson dros bedair blynedd ar ddeg gan gychwyn yn 1985.

Byw a gwisgo'n wahanol

Y canlyniad yw cyfrol arbennig o hardd gyda darluniau gwych o gymdeithas o bobl sydd nid yn unig yn byw yn wahanol ond yn gwisgo’n wahanol er mwyn diogelu eu hunigolyddiaeth.

Y dynion yn eu du gan gynnwys eu hetiau cowboi sy'n eu gwneud i edrych nid yn annhebvyg i Yul Brynner yn yffilm The Magnifenct Seven!

Gwisg y merchedMae’r merched yn ymwrthod a phob addurn gan gynnwys modrwyau priodas.

Cychwyn y daith i’r Hutterites oedd y Tyrol ym 1528 pan roddodd ffoaduriaid eu holl eiddo yn eu clogau a daenwyd ar y llawr..

Fe’u henwyd ar ôl Jakob Hutter, arweinydd cynnar a gododd wrychyn yr eglwys sefydledig trwy bregethu bedydd oedolion, heddychiaeth a rhannu eiddo.

Llosgwyd Hutter yn fyw ym 1536 a chafodd ei ddilynwyr eu herlid o Awstria gan y Brenin Ferdinand I.

Cymaint yr erlid dihangodd rhai i Rwsia yn 1770 ac o fethu â chael cysur yno i’r Unol Daleithiau rhwng 1874 ac 1877 gan ymsefydlu yn unigeddau Dakota lle dofwyd y tir anodd ganddynt drwy chwys a llafur.

Gwawd a sen yng ngharchar

Ar sail eu heddychiaeth ddiwyro daethant yn hynod amhoblogaidd yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf gyda sawl un yn dioddef gwawd a sen am wrthod gwisgo lifrai yng Ngharchar.

Erbyn heddiw y mae rhai cannoedd o gymunedau.

"Mae ganddyn nhw hyder tawel sy’n dod o oroesi. Y mae ganddyn nhw deimlad cryf o berthyn i Dduw ac i’w gilydd. Nid yw eu hymroddiad i fywyd cymunedol wedi ei siglo o gwbl," meddai Wilson.

Gofalu am ei gilydd

Eu hegwyddor ganolog yw fod pob un yn gweithio yn ôl ei allu ac yn derbyn yn ôl ei angen. Does neb yn cael cyflog. Y teuluoedd sy’n gofalu am yr hen.

Arweinydd - a pherson pwysicaf - y gymuned yw’r gweinidog gyda phawb yn troi ato am arweiniad a chymorth.

Mae ganddyn nhw eu ffordd eu hunain o drin troseddwyr o fewn y gymuned.

Os yw’n drosedd ddifrifol fel dwyn neu odineb - ac mae’r ffaith fod godinebu yn cael ei ystyried yn ddifrifol yn dweud cyfrolau amdanynt y dyddiau hyn - disgwylir i’r troseddwr gyffesu i’r gweinidog a gofyn maddeuant ganddo.

Wedyn, mae’n esgymun am wythnos yn gorfod osgoi cwmni pawb gan fyw ar ei ben ei hun.

Ond wedi saith niwrnod, waeth pa mor ddifrifol y drosedd, daw maddeuant a’r troseddwr yn ysgwyd llaw a phawb sydd wedi ei fedyddio wrth i’r rheini ei groesawu yn ôl i’w plith.

Mae’r llyfr yn astudiaeth ddifyr a dadlennol o gymuned sy’n llwyddo i ddiogelu ac i amddiffyn y gwerthoedd hynny y mae’n eu hystyried yn orau mewn gwlad lle mae cymaint o ddylanwadau eraill gwahanol a niweidiol.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy