|
|
Cerddi
difyr - ond gweld eisiau
ambell i nodyn!
Cerddi
Bois y Frenni yn peri i atgofion lifo
Dydd Iau, Tachwedd 30, 2000 |
Cerddi Bois y Frenni gan W. R. Evans. Cyflwyniad gan Dic Jones.
Gomer £4.95.
Llifodd yr atgofion yn donnau - y doniol a’r dagreuol bob yn ail.
Cyfrol felny yw Cerddi Bois Y Frenni gan y diweddar W. R. Evans.
W. R. Bwlchygroes, W. R. Y Barri wedi hynny.
Ond W. R. Bwlchygroes - neu Bwlchygrwês, fel maen nhw ddweud ffor’ny
- yw W. R. y gyfrol hon.
Cynulleidfa yn ei dyblau
Fe fedra i glywed Bois Y Frenni nawr yn Neuadd Goffa Tregaron
yn morio Y Ddau Blisman i dôn y ddau Gendarme a’r actio
dros-ben-llestri a’r gynulleidfa yn eu dyblau:
Pan fyddo rhywun yn lladd mochyn,
A heb gael permit at y gwaith,
Fe roddwn bapur glas i’r adyn,
Ac fe awn ati ar un waith.
Ond os cawn ganddo ddarn o’r balfes,
Neu ham neu ffrei neu asen dda,
Ni’n cau ein pen, awn adref heb ddweud bw na ba.
Eich tynnu chi i ganu mae’r gyfrol yma.
Does dim cerddoriaeth
Ond faint sy’n gwybod yr hen donau erbyn hyn? Dyna wendid y gyfrol.
Petae ni ond wedi cael enwau’r tonau yr ysgrifenwyd y geiriau ar eu
cyfer - buase hynny’n rhywbeth.
Gwell fuasai bod wedi cynnwys y gerddoriaeth.
Wn i ddim a ellir gwerthfawrogi crefft fawr W. R. heb fod y dôn yn
chwyrlïo yn y pen - geiriau fel Y Lecsiwn neu Trâth y Mwnt
a’r odlau’n clecian i Solomon Levi? Ddim yn llwyr, goelia
i.
Yn wir os gwnewch ymgais i roddi eich pleidlais i Fi ac i Fi ac i
Fi, (triawd oedd hon)
Dywedaf yn fwynedd na chewch am bum mlynedd eich poeni o gwbwl
gen i,
Rwyn addo o galon na fydd un ymryson i ddwyn arnoch amharch a sen,
Ond lan yn Westminster ar garped Axminster eisteddaf heb agor fy mhen.
Ddweda i ddim mwy am hyn’na.
Ond symud at feirniadaeth arall.
Angen egluro'r cefndir
Faint o bobol, tybed, sy’n deall heddiw wir arwyddocâd cân fel Cwtsh
Dan Stâr a’r cyfeiriadau at y bomio.
Adeg y rhyfel fe sylwodd pobol mai y stâr - neu y grisiau - oedd yr
unig le fyddai’n sefyll pe digwyddai bom ddisgyn yn agos i dy.
Felly pan ai y seiren byddai llawer yn mynd i’r cwtsh dan star.
Faint, hefyd, erbyn hyn, fydd yn deall y dychan yn Dwybunt Yr Erw?
Adeg y rhyfel, eto, pan oedd y ffermwyr yn cael eu hannog i aredig
y tir ymylol - dyma'r swm a dalai'r Llywodraeth iddynt am wneud hynny.
Buasai'r nodyn hwn o eglurhad wedi bod yn dderbyniol iawn.
Meddwl am eraill ydw i - yn enwedig pan sylweddolais fod yma rai yn
yr un swyddfa a mi nad ydynt yn gwybod y dôn Solomon Levi,
er enghraifft, heb son am fanylion mwy perthnasol fel Yr ATS
²Ô±ð³Ü’r Blac Owt, hyd yn oed Yr Ifaciwî.
Nid ’mod i’n beirniadu neb nad ydynt yn gwybod y pethau hyn. Dweud
ydw i y buasai gair neu ddau o eglurhad fan hyn a fan draw wedi bod
o help mawr.
Bara te yn erchyll!
Oes rhywrai, ysgwn i, yn cael Basned o Fara Tê i frecwast neu
swper y dyddiau hyn? Stwff erchyll. Rwy'n cofio trïo’i yfed rywdro.
Roedd Mam wedi bod at y deintydd a hwnnw wedi tynnu’r rhan fwya o’i
dannedd ar un cynnig.
Llond basn o fara, tê wedi ei arllwys trosto a llwyaid o fenyn a weithiau
tamaid o gaws gydag e. Shincyn oedd yr enw arno yn ein hardal
ni.
Mwynhau yn aruthrol
Rhyfedd a adolygiad yw hwn. Er bod mwy o feirniadu nag o ganmol fe
wnes fwynhau’r gyfrol yn aruthrol. Ac fe wna eraill o’r un oed â mi.
Ond buasai llawer mwy wedi cael yr un mwyniant o’r cerddi o ddeall
y mymryn lleia o gefndir rhai ohonynt.
Mae darn o hanes cymdeithasol cyfnod, pwysig a diddorol, yn y gyfrol
hon.
Hoffwn wybod fy hunan ar ba dôn y gellir canu y ddwy garol Etifedd
Bach Joseff a Mair ac Eiliad Fach o Weddi.
Mae’r atgofion am Bois y Frenni, W.R. ei hunan, ac am y cyfnod hwnnw
yn union wedi’r rhyfel - roeddwn i jyst ddigon hen i’w gofio - yn
llifo.
Ysgol wedi cau
Ac ambell ddigwyddiad arall heb fod yn ddi-gyswllt. Er gwaetha brwydr
y bobl leol mae hen Ysgol Gynradd Bwlchygroes newydd ei chau. Rwy'n
cofio galw yn yr ysgol ddechrau’r chwe-degau a’r prifathro bryd hynny
- Mr Beynon - yn dangos Tarian Aelwydydd yr Urdd i mi.
Roedd Aelwyd Bwlchygroes wedi ei hennill gynifer o weithiau nes i’r
Urdd benderfynu y dylsen nhw ei chadw.
Pharhaodd Aelwyd Bwlchygroes ddim yn hir ar ôl dyddiau W.R. - ond
fe ddaliodd Bois Y Frenni i fynd.
Mae’n wir ddrwg gen i fod mor feirniadol - nid ar W.R. mae’r bai.
Bydd prynu mawr ar y gyfrol yn yr ardal yna o gwmpas Y Frenni, ymhlith
y bobol lengar yn y pentrefi diwylliedig o gwmpas Crymych.
Gair haeddiannol iawn o ganmoliaeth i ddarlun Llyr John sy’n gwneud
clawr ardderchog i’r gyfrol ac i Dic Jones a sgrifennodd y Rhagair
a’r Cyflwyniad (rwyn credu).
|
|
|