Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Cofio
naturiaethwr hynaws

Lluniau gwych a straeon difyr mewn llyfr am
Ted Breeze Jones

Dydd Iau, Tachwedd 23, 2000
TED Dyn yr Adar - Cyfrol Goffa Ted Breeze Jones. Golygyddion: Anwen Breeze Jones a Twm Elias. Gwasg Gomer. £19.95.

Y mae teitl cyfrol goffa Ted Breeze Jones yn dweud y stori i gyd - a dim ond yn dweud hanner y stori hefyd.

Mae’r cynnwys ei hun yn llenwi’r bylchau gydag amryw o gyfeillion yr adarwr brwd yn sôn am Ted Breeze Jones y dyn hefyd.

Cwmniwr hynaws a difyr

Mae’r hyn a ddywedant yn cadarnhau yr argraff yr oedd rhywun yn ei gael - o gwmniwr hynaws, difyr a gwybodus yn ei faes - o wrnado arno yn darlledu, ei wylio ar y teledu ac o ddarllen ei lyfrau.

Dyma wr a chanddo bob amser ddigon o amser i drafod yn ddifyr faes yr oedd wedi ymddiddori gymaint ynddo, casglu cymaint o wybodaeth amdano a chyfrannu cymaint tuag ato.

Fel sy’n weddus, gwaith Ted Breeze Jones ei hun yw asgwrn cefn y gyfrol hon a drefnwyd gan ei weddw , Anwen, mewn cydweithrediad a naturiaethwr arall, Twm Elias.

Dewis gwych o luniau

Un o'r lluniauMae’n cynnwys detholiad ardderchog o luniau Ted Breeze Jones yn amrywio o adar, yn bennaf, i famaliaid, pobol a golygfeydd.

Mae rhai o’r lluniau yn mynd a gwynt rhywun; fel rhai o Lwyd y Gwrych yn bwydo cyw Cog anferth, Tylluan yn llyncu llygoden, Twrch daear yn torri i’r wyneb drwy’r pridd a’r adar yn ymgasglu i glwydo adeg machlud yn y gaeaf .

Nodiadau'r naturiaethwr ei hun sydd gyda’r lluniau gan gynnig gwybodaeth ddifyr gan wr a chanddo lygaid am yr anarferol a’r digri:

Adar wedi meddwi yn yr ardd!

"Adar yn meddwi? Mae amryw o lwyni Berberis darwini yn ein gardd ac yn sioe o flodau’n flynyddol cyn datblygu’n aeron du-las hardd.

"Bydd yr adar, y Mwyeilch yn arbennig, yn eu llowcio. Ond bydd yr holl aeron maent yn eu llyncu yn eplesu yn eu stumogau a byddant yn rowlio o gwmpas llwybrau’r ardd!

"Mae yna berygl mawr yn hyn, nid ydynt yn ddiogel i hedfan ac mae tuedd iddynt daro yn erbyn ei gilydd neu fynd i wrthdrawiad â ffenestri," meddai.

Dadl gref dros ddirwest, siwr o fod!

Iar yn gori ar gi

Bwyd mewn trapYmhlith y lluniau sy’n goglais y mae’r un o iar yn gori ar gi ac un o dylluan wedi ei dal gyda llygoden a oedd eisoes wedi ei dal mewn trap!

"Pan oedd pla o lygod yn fy ngardd, ac yn achosi tipyn o ddifrod, gosodais hanner dwsin o drapiau i’w dal. Roedd y trapiau wedi diflannu’r diwrnod canlynol.

"Gosodais ychwaneg o drapiau a bum yn ffodus o ddal y lleidr liw dydd golau. ‘Annwyl’, cyw Tylluan Frech amddifad a fagwyd gan Joan Addyman, cymdoges annwyl iawn, oedd wedi gweld ei gyfle i gael bwyd yn ddiymdrech."

Y rhai sy'n ei gofio

Y mae 17 yn cyfrannu eu hatgofion am Ted Breeze Jones gan gyffwrdd yn gyntaf â’i fywyd o’i ddyddiau cynnar ym Mlaenau Ffestiniog - ardal yr arhosodd ynddi gydol ei oes.

Yn eu plith y mae Dei Tomos y darlledwr, Gwyn Thomas y bardd, Peter Hope Jones a Duncan Brown y naturiaethwyr.
Hefyd: Ken Daniels, Dilwyn Jones, John Lawton Roberts, Gareth Parry, Robin Williams, Wil Evans, Emyr Roberts, Kelvin Jones, John Eric Williams, David Trevor Davies a Gareth Lloyd.

Mae Gwyn Thomas yn cofio am berthynas Ted a chathod - "Go brin y byddai neb yn cael ei demtio i ddisgrifio Ted fel ‘dyn cathod’," meddai!

Dyn hynaws ac amyneddgar

Heb eithriad, mae pawb yn tynnu llun o wr hynaws, amyneddgar parod i rannu ei wybodaeth. Yn sicr yr oedd ei ddylanwad yn eang.

"Roedd yn amlwg yn ddyn goddefgar a mawr ei ofal, oherwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar yna mae’n siwr fy mod wedi ei yrru’n wirion gyda’m holi diddiwedd ac yn wastad o dan ei draed.

"Trwy gydol fy nyddiau ysgol teimlwn ei fod yna i mi, rhywun y gallwn ddibynnu arno, rhywun y gallwn agor fy nghalon iddo ac fe wrandawai," meddai David Trevor Davies.

Nid adar yn unig

Mae Gwyn Thomas yn ein hatgoffa: "Nid adar yn unig a âi a bryd Ted; yr oedd yn naturiaethwr eang ei ddiddordebau. O bryd i’w gilydd byddai ganddo, mewn cas gwydr yn y ty, nadredd - y sglyfa’th pethau anffansiol hynny.

"Ond nid dyna oeddan nhw i Ted - er iddo gael ei bigo fel y dwedwn i, ei frathu fel y dwedai o, gan wiber ar ben ei fys o leiaf unwaith."

Gwiber a Neidr Wair

Y mae llun gwibr yn y gyfrol gyda’r nodyn hwn gan Ted:

"Roedd yna hen chwedl fod y wiber yn llyncu ei chywion pan fyddai perygl gerllaw. Rwy’n cofio gwylio Gwiber yn llyncu madfall, ac araf iawn y diflannai i lawr safn y neidr, felly dydw i ddim yn credu y gallai nifer o wiberod bach ddiflannu i lawr gwddf eu mam."

Disgrifia ymateb y Neidr Wair pan fo mewn peryg: "Bydd yn troi ar wastad ei chefn, a’i chorff yn hollol lipa, ei cheg agored yn gam a’i thafod yn hongian. Ystryw yw hwn i argyhoeddi gelyn ei bod yn hollol farw a gall aros yn yr ystum hwn am amser maith."

Difyr ym mhob ffordd

O bob safbwynt y mae hon yn gyfrol ddifyr a gwerth chweil: o safbwynt y lluniau gwych, o safbwynt dod i adnabod naturiaethwr hynaws ac o safbwynt y dyfyniadau difyr o ddyddiaduron a chyhoeddiadau Ted Breeze Jones ei hun.

O ran rhywmiad a dyluniad clawr gallai rhywun gael ei demtio i feddwl mai cyfrol i blant yw hon ond y mae ynddi, mewn gwirionedd, berlau inni i gyd.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy