Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gruffudd Parry:
Cyhoeddi ei gofiant yng Nghyfres y Cewri



Hefyd :

• Rhestr o'r llyfrau newydd sydd yn y siopau

Dydd Iau, Tachwedd 23, 2000

I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:

Neu darllenwch am lyfr Gruffudd Oarry gyntaf. . .

Cofio’n ôl gan Gruffudd Parry. Cyfres y Cewri 21. Gwasg Gwynedd.

Mewn noson i ddathlu cyhoeddi cofiant Gruffudd Parry yn Ysgol Uwchradd Botwnnog ym Mhen Llyn, lle bu’n brifathro, darllenwyd hanes ei eni gan ei ferch, Enid Evans.

"Tua chwech o’r gloch y bore daeth Jane Catrin i lawr i’r gegin ffrynt â’r swpyn bach yn ei breichiau a dweud ‘Hogyn bach sy ’ma ylwch … ’igon o ’feddod … hogan oedd hi eisio ’nte … ond mae hi wedi gwirioni efo hwn yn do nghaliad i’ … a’i roi i’w dad i’w ddal.

‘Beth fydd ei enw fo?’ gofynnodd y doctor pan oedd y ddau yn cael cwpaned o de cyn iddo gychwyn adre.

"Yr oedd fflach o hiraeth yn gymysg â’r llawenydd yn llygad Richard Parry pan ddeudodd o, ‘Yr un enw a ’mrawd ’dw i’n meddwl - Griffith."

Bywyd mewn hen luniau

Yn dilyn y bennod ar ‘Cyn Cof’ daw ‘Y Pictiwrs’ - lluniau a gafodd ei dad a’i fam yn bresant priodas - gyda'r awdur yn rhoi bywyd yn y cymeriadau oedd mewn fframiau gilt.

Ond bu i’r darlleniad am chwarae saethu pregethwrs gyda bwledi papur roi cryn ddiddanwch i’r gynulleidfa ym Motwnnog yn edmygu camp crefftwr o hoelio sylw ar yr hen hoelion wyth.

Mae yr un manylder yn y bennod nesaf ar y ‘Capeli’, lle mae’r awdur yn y cyfnod cyn cyrraedd 12 oed yn ysgrifennydd yr Ysgol Sul.

Mynd efo Mam i'r capel

Mae’n debyg mai eithriadau yn nhwll gaea oedd nosweithiau’r darllen a chael clywed am ‘Tomi’ yn ei ‘Hunangofiant’ a ‘Theulu Bach Nantoer’ a’r ‘Diddanion’ yn Nhrysorfa’r Plant.

Y drefn arferol oedd mynd efo Mam i’r Capel, Band of Hôp, Seiat, Cyfarfod Gweddi. Doedd dim gobaith cael amau na chwestiynu’r drefn.

Wedi troeon yr yrfa yn y cynefin - gwybodaeth werthfawr am achos cynnar Methodistiaid Ty Mawr, ar benrhyn Llyn.

"Capel bychan, un o’r llefydd hynny y byddai Cynan yn gwirioni arnyn nhw ym mhellafoedd hen wlad Llyn ydy Ty Mawr. Y pulpud rhwng dwy ffenestr y mur yn ei led, yn lle bod ar fur ei dalcen fel yr oedd capel Carmel a chapeli eraill drudfawr, gwastraffus, dechrau’r ugeinfed ganrif.

"Er bod yr achos wedi ei sefydlu mor gynnar â 1748, a bod yno gapel â tho gwellt arno ar y safle o’r cychwyn, yn 1799 y codwyd y capel presennol."

Sgrifennu cyfresi radio

Newid cywair yn y bennod nesaf - ugain dalen ar y testun ‘Drama’, a hynny yn hwylio o ddyddiau yr ‘Action Song’ heibio i’r perfformiadau tair act fel ‘Dick Whittington’ a ‘Pelenni Pitar’ yn Neuadd Penygroes, hyd at ddyddiau enwogion fel John Gwilym Jones.

Yna at y datblygiadau ym Motwnnog a Llyn, a chyfnod newydd cyfresi radio fel ‘Teulu’r Mans’ a ‘Teulu’r Siop’ pan oedd yr awdur gydag Idwal Jones ac Islwyn Ffowc Elis, yn gyfrifol am y sgriptio.

Fel y gellid disgwyl mae’r tair pennod nesaf yr un mor ddisglaer a dadlennol - ‘Sgolion’, ‘Cytia’ a ‘Llyfra’. Rhoddodd y darlleniad olaf gip ar y llyfr pensiwn:

"Bob tro mae’r llyfr yn darfod mae’r ddynes y tu ôl i’r cownter yn gwyro o’r golwg ac yn estyn un arall glân a newydd sbon yr un fath yn union ac yn cadw’r hen un. Ond ‘there you go then’ mae hi’n ddeud wrth lithro’r llyfr dan y weiran ddiogelwch o flaen y cowntar.

"Wn i ddim sawl tro y bydd hi’n gwneud hynny eto chwaith."

Clasur ymhlith cewri!

Dyma’r frawddeg olaf o’r broliant … "Heb os mae’r llyfr hwn yn un o glasuron Cyfres y Cewri.

Ymysg y gwahoddedigion oedd yn talu teyrnged roedd y darlledwr John Roberts Williams.

Fore trannoeth ar ‘Dros Fy Sbectol’ ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru clywsom: "Gruffydd Parry, a minnau yn hen ffrindiau coleg. Y fo wedi treulio oes yn athro gwylaidd yn ysgol hynafol Botwnnog yng nghalon Llyn, hen fro ei fam.

"Ac nid fel perthynas i’r tri cefnder ysgolheigaidd ac awenyddol na bu eu tebyg - Thomas Parry, Thomas Parry-Williams, Robert Williams Parry, y mae ystyried Gruff, ond fel rhan o’r mawredd.

"Stori sydd yma am fywyd mab i chwarelwr, math o dyddynnwr ar fryniau Arfon, yn un o’r cartrefi olaf mae’n siwr gen i lle bu yno gi yn corddi. Ac ar wahan i geinder yr ysgrifennu, yr hiwmor a’r cof mwyaf aruthrol o fanylion digwyddiadau, a’r geiriau a lefarwyd ddeng mlynedd a thrigain yn ôl, gogoniant y gyfrol ydy’r darlun manwl sydd ynddi o holl rychwant bywyd pentre chwarel.

"Erbyn hyn mae’r gymdeithas dlawd, gyfoethog, honno wedi mynd gan adael dim ond yr hen enwau Beiblaidd - Carmel, Cesarea a Nebo.

"Ond rhwng cloriau’r gyfrol fe erys yr hen gymdeithas yn fyw am byth.

"Ac am y gymdeithas honno yng Ngharmel ac wedyn yn Llyn y llwyr ganolbwyntia’r awdur heb ganu un nodyn ar ei utgorn ei hun, sy’n utgorn sylweddol iawn."



Dyma restr yr wythnos hon o
lyfrau sydd newydd gyrraedd
y siopau:


Cymraeg a dwyieithog

CERDDI BOIS Y FRENNI: W.R. Evans 1859028993 Gwasg Gomer £4.95 Casgliad o gerddi W.R. Evans, a gyfansoddwyd ar gyfer nosweithiau Bois y Frenni.

CIP AR Y CEWRI: Gol. Non ap Emlyn 0860741702 Gwasg Gwynedd £5.95 Cyfrol o ddetholion o Gyfres y Cewri wedi eu haddasu ar gyfer dysgwyr.

CYFRES Y CEWRI: 22. Y STORI TU ÔL I'R GÂN: Arwel Jones 0860741699 Gwasg Gwynedd £7.95 Hunangofiant un o Hogia'r Wyddfa.

DIAL DAU / REVENGE FOR TWO: Ivor Owen 070740343X Gwasg Gee £5.25 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

FOUR STORIES FOR WELSH LEARNERS / PEDAIR STORI I DDYSGWYR CYMRAEG: Ivor Owen 0707403405 Gwasg Gee £4.95 Storïau ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

GEIRIADUR PRIFYSGOL CYMRU 55: Goln. Gareth A. Bevan, M.A., Patrick J. Donovan, M.A. 0000870943 Gwasg Prifysgol Cymru £8.00 Cyfrol ddiweddaraf y Geiriadur, yn cynnwys y geiriau Tachmoniad - Teithi.

'YR IAS YNG NGRUDDIAU'R RHOSYN': Gwyn Llewelyn 0863816541 Gwasg Carreg Gwalch £6.00 Y nofel a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.

IFOR BACH: Ivor Owen 0707403448 Gwasg Gee £4.95 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

LLEIDR PEN-FFORDD / HIGHWAYMAN: Ivor Owen 0707403421 Gwasg Gee £5.65 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

Y MEDDWL A'R DYCHYMYG CYMREIG: SOFFESTRI'R SAESON: Jerry Hunter 070831659X Gwasg Prifysgol Cymru £12.99 Cyfrol sy'n trafod hunaniaeth y Cymry yn oes y Tuduriaid.

MIS O WYLIAU: Ivor Owen 0707403456 Gwasg Gee £4.95 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

O'R CANOL I LAWR: Emyr Huws Jones 0862435234 Y Lolfa £6.95 Nofel gyfoes am lyfrgellydd sydd wedi diflasu ar y sefydliad.

OMEGA: Geraint V. Jones 0863816592 Gwasg Carreg Gwalch £7.00 Nofel dditectif yn ddilyniant i Semtecs ac Asasin.

RHESTR TESTUNAU GWYL GENEDLAETHOL CYMDEITHAS CERDD DANT CYMRU BRO MYRDDIN 2001: 0000870935 Cymdeithas Cerdd Dant Cymru £1.00 Rhestr o destunau Gwyl Cerdd Dant 2001.

SEIMON PRYS DITECTIF: Ivor Owen 0707403413 Gwasg Gee £5.25 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

SIOP GWALIA: Ivor Owen 0707403391 Gwasg Gee £5.95 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

STRAEON BOLWYN: BOLWYN A'R DYN EIRA CAS: Gwyneth Glyn Darl. Carys Owen 0863816568 Gwasg Carreg Gwalch £2.95 Stori yn llawn hiwmor am Bolwyn y dyn eira; ar gyfer plant 7-9 oed.

STRAEON BOLWYN: BOLWYN YN Y SIOE NADOLIG: Gwyneth Glyn Darl. Carys Owen 086381655X Gwasg Carreg Gwalch £2.95 Stori yn llawn hiwmor am Bolwyn y dyn eira; ar gyfer plant 7-9 oed.

TALWRN Y BEIRDD 10 - PIGION Y TALWRN: Gol. Gerallt Lloyd Owen 0860741680 Gwasg Gwynedd £6.95 Detholiad o gynnyrch y gyfres radio, 1998-2000.

TEACH YOURSELF WELSH: Julie Brake, Christine Jones 0340779713 Hodder & Stoughton £13.00 Tâp sain i gyd-fynd â’r cwrs Cymraeg.

Llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru

ARTHUR AND THE LOST KINGDOMS: Alistair Moffat 0753810743 The Phoenix Press £8.99 Llyfr yn honni mai tywysog un o lwythau Cymraeg de’r Alban oedd Arthur.

CARDIFF DAY BY DAY - THE DIARY OF A CAPITAL CITY: John May 1871354056 Castle Publications £7.99 Llyfr yn nodi digwyddiadau yn hanes Caerdydd ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn.

CONTEMPORARY GERMAN WRITERS SERIES: HERMANN PETER PIWITT: Gol. David Basker 0708316662 Gwasg Prifysgol Cymru £15.00 Ysgrifau ar fywyd a gyrfa'r llenor, ynghyd â chyfweliad gydag ef.

ENTERTAINMENT: Richard John Evans 1854112872 Seren £6.95 Nofel am ddau lanc yn Nhreorci, un ohonynt yn anabl ac mewn cadair olwyn.

THE HIDING PLACE: Trezza Azzopardi 0330390759 Picador £14.99 Nofel o restr fer gwobr Booker 2000, am Gaerdydd y 1960au.

IN AND OUT THE WINDOWS - MY LIFE AS A PSYCHIC: Dilys Gater 1898670048 Anecdotes Publishing £9.95 Sut y daeth yr awdures i fod yn seicig, a sut y mae hynny wedi effeithio ar ei bywyd.

QUIZ RHONDDA: John May 1871354064 Castle Publications £2.99 300 o gwestiynau ar bob agwedd o hanes y Rhondda o'r oesoedd canol hyd heddiw.

RIDING THE STORM: Susan Holliday 1859028705 Pont Books £4.95 Daw Alun i delerau â'r ffaith fod ei rieni'n gwahanu.

SIR SILAS SORROCKS - THE WONDROUS ADVENTURES OF A MEDIEVAL SHREW: Alan Raymond 0953914704 Alan Raymond Publications Ltd. £5.99 Stori mewn odl am lygoden o farchog.

SPOILS OF WAR: Catrin Collier 0099414538 Arrow Books £5.99 Nofel wedi ei gosod ym Mhontypridd yn 1946.

WALES OFF MESSAGE - FROM CLAPHAM COMMON TO CARDIFF BAY: Patrick Hannan 1854112937 Seren £8.95 Golwg ar brif gymeriadau blynyddoedd cyntaf y Cynulliad.

WELSH ARTISTS TALKING - TO TONY CURTIS: Tony Curtis 1854112864 Seren £19.95 Golwg ar waith deg o artistiaid o Gymru.



Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy