Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr llyfr Gwynfor Evans Gwynfor Evans:
Tynnu sylw at wyrth
bod yma o hyd!

Hefyd :

• Rhestr o'r llyfrau newydd yn y siopau

Dydd Iau, Tachwedd 16, 2000

I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:


Sylwadau
Gwyn Griffiths am y llyfr: The Fight for Welsh Freedom gan Gwynfor Evans:

Ar adeg pan fo’r Saeson yn ymbalfalu yn nryswch unaniaeth, a’r Cymry a’r Albanwyr yn dangos mwy o hyder yn ddyddiol mae cyfrol newydd Gwynfor Evans, The Fight for Welsh Freedom, yn amserol a phwysig.

Hyder Celtaidd ac ansicrwydd Seisnig

Bu cwyno am gyfres Simon Schama, A History of Britain, ar Â鶹ԼÅÄ2, mai hanes Lloegr yw hi mewn gwirionedd ac na ddangosodd fawr o grebwyll na diddordeb yn yr hyn ddigwyddodd cyn dyfodiad y Sacsoniaid.

Honnodd academwyr Seisnig yn ddiweddar na fu erioed y fath bobl a’r Celtiaid - mai ffrwyth dychymyg Edward Llwyd oedd y cwbl. Dyna faint ansicrwydd y Saeson wrth i’r ymherodraeth "Brydeinig" ymddatod.

Cafwyd nifer o lyfrau sylweddol - eu maint - yn ceisio dadansoddi’r meddylfryd Seisnig.

Hanes yn bwysig

Mae i’r tueddiadau hyn berygl i’r Cymry - cael ein boddi mewn anwybodaeth. Mae hanes ac ymwybydiaeth ohono yn sylfaenol i barhad cenedl. Ewch a’i hiaith a’i hanes a dyna ddileu’r genedl.

Drwy gydol oes o ymgyrchu mae Gwynfor Evans wedi pregethu pwysigrwydd hanes. Dydy hanes ddim yn garedig wrth leiafrifoedd. Lladmeryddion y cenhedloedd mawr - neu eu cynffonwyr - sy’n sgrifennu hanes. A’u sgrifennu o’u safbwynt nhw eu hunain.

Ystyriwch ddatganiad Neil Kinnock "na fu gan Gymru hanes o fath yn y byd rhwng canol yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif - ac mai hanes lladron penffordd wedi’u gweddnewid yn dywysogion oedd hanes cyn hynny."

Dydy hanes Cymru ddim yn rhan o hanes "Prydain". Fe’i hanwybyddir a’i anghofio - yn fwriadol felly.

Sgrifennu cyfrolau poblogaidd

Ond nid pregethu pwysigrwydd hanes wnaeth Gwynfor Evans ond ymroi i ysgrifennu nifer o gyfrolau poblogaidd i addysgu’r Cymry.

Hon yw’r ddiweddaraf. Cyfrol fach yw o 176 o dudalennau yn cyflwyno hanes Cymru mewn pytiau tameidiog, difyr, cyffrous, llawn angerdd.

Di-duedd neu beidio, rhaid wrth ochr arall y geiniog. Dydy’r hyn a gawn gan yr haneswyr Prydeinig ddim yn ddi-duedd, beth bynnag. Nac yn gywir, ran fynychaf, yn eu hymwneud â Chymru.

Cymaint o wyrth

Mae’r gyfrol yn gwneud inni sylweddoli gymaint gwyrth yw ein bod ni yma o hyd. Yn dal i ystyried ein hunain yn bobl wahanol a bod cynifer ohonom yn parhau i siarad ein hiaith.

Difyr cael ein hatgoffa eto o farn Gerallt Gymro - oedd yn dri-chwarter Norman - o’r Saeson. "Y bobl mwya diwerth dan haul" meddai. Yr oedd y Normaniaid yn sarhaus o’r Saeson - ac yn parchu’r Cymry.

Cymrodd ddwy ganrif i’r Normaniaid gael y trechaf o’r Cymry. Wythnosau gymron nhw i drechu’r Saeson.

Mae yma lwyth o ffeithiau diddoro
l - neu o leiaf na wyddwn i ddim amdanyn nhw.

Wyddwn i ddim mai gwr o Galego Geltaidd oedd Macsen Wledig.

Diddorol darllen fod cynifer o lwythau Almaenig yn rhan o gyrchoedd y Rhufeiniaid - hyd yn oed y cyrchoedd cynnar, a’u bod wedi aros ac ymsefydlu yn nyffryn Tafwys.

Doeddwn i erioed wedi sylweddoli mai gwr y dras y Norsmyn oedd Harold, Brenin Lloegr a laddwyd ym mrwydr Hastings, a Hereward the Wake, yr enwocaf o’r rheini wrth-safodd Gwilym Goncwerwr.

Pan ddaeth Edward 1 - uniaith Ffrangeg - yn frenin "Lloegr" ei fwriad oedd dileu’r Cymry drwy eu gwneud yn Saeson, "who were despised by the Normans". Aeth ati i osod trefedigaethau Seisnig trefol ar hyd a lled Cymru.

O ystyried hyn a darllen am y brwydro cyson ar draws y canrifoedd, gwrthryfel ar ôl gwrthryfel, yn erbyn grymoedd enfawr nid yw’n ddim llai na gwyrth fod yna Gymry wedi gor-oesi o gwbl!

Ein cyfnod ni

Mae'r Dr Evans yn ein tywys drwy gyfnod Owain Glyndwr, y Tuduriaid i’n cyfnod ni. Sefydliad a datblygiad Plaid Cymru, y brwydrau am radio a theledu yn yr iaith Gymraeg, y ddau refferendwm.

Prin yw’r Cymry ddaw dan ei lach - Neil Kinnock a George Thomas yn bennaf. Dywed na fuasai Kinnock wedi dod arweinydd y Blaid Lafur pe na bai wedi arwain yr ymgyrch yn erbyn datganoli ym 1979.

Cyfeiria at Dafydd Elis Thomas fel "AS y glowyr" adeg streic 1984 "yn wahanol i Neil Kinnock nas gwelwyd am un mis ar ddeg."

Drwy ei holl hanes mae Cymru a’r Cymry wedi brwydro am eu heinioes a'u cefnau at y mur. Mae’n stori gwerth ei dweud.

Cyhoeddir The Fight for Welsh Freedom gan Y Lolfa, pris £6.95.

Dyma restr yr wythnos hon o
lyfrau sydd newydd gyrraedd
y siopau:


Cymraeg a dwyieithog

CYFRES HANES CYMDEITHASOL YR IAITH GYMRAEG: 'EU HIAITH A GADWANT'? - Y GYMRAEG YN YR UGEINFED GANRIF: Golygyddion. Geraint H. Jenkins, Mari A. Williams 0708316573 Gwasg Prifysgol Cymru £25. Cyfrol sy'n edrych ar y berthynas rhwng iaith a chymuned yn yr ugeinfed ganrif.

CYFRES Y CEWRI: 21. COFIO'N ÔL:
Gruffudd Parry 0860741656 Gwasg Gwynedd £8.50 Hunangofiant y llenor Gruffudd Parry.

CHWAETH Y CHWIORYDD - GWEITHIAU AR BAPUR O GASGLIAD DAVIES: Bethany McIntyre 0720004918 Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru £13.99 Catalog o’r gweithiau yn Arddangosfa'r Chwiorydd Davies. 12 llun lliw.

JAM COCH MEWN PWDIN REIS:
Myrddin ap Dafydd Darl. Sarah Berry, Peter Fry, Catrin Meirion Jones 0852843046 Hughes £3.99 Casgliad o gerddi newydd gan Fardd Plant Cymru.

O BEDWAR BAN EWROP - STRAEON GWERIN O EWROP:
Wolfgang Greller Addas. Siân Lewis Darl. Margaret Jones 1856445224 Canolfan Astudiaethau Addysg £5.95 Straeon gwerin o Ffrisia, Cymru, Lusatia, Roma, Gwlad y Basg, Gwlad y Sami a Ladinia.

PAC O STRAEON RYGBI:
Gol. Alun Wyn Bevan 1859029175 Gwasg Gomer £3.95 Deg o straeon am rygbi; i blant 8-12 oed.

SYNIAD DA IAWN!: Sioned Wyn Huws, Myrddin ap Dafydd, Haf Llywelyn, Martin Morgan, Eleri Llewelyn Morris Gol. Myrddin ap Dafydd Darl. Catrin Meirion, Dylan Williams, Siôn Morris 086381641X Gwasg Carreg Gwalch £9.00 Casgliad o straeon a cherddi i blant, gyda nifer o luniau lliwgar.

TWM BWNI:
Martin Waddell Addas. Elin Meek Darl. Barbara Firth 1859028802 Gwasg Gomer £5.50 Caiff Twm Bwni'r tegan gwmni cwningod go-iawn pan gaiff ei adael yn yr ardd.

LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU

DYLAN THOMAS: THE COLLECTED LETTERS:
Gol. Paul Ferris 0460879995 J.M. Dent £50.00 Casgliad o lythyrau a ysgrifennwyd rhwng dyddiau ysgol y bardd a'i farwolaeth.

FROM THE FOUR CORNERS OF EUROPE - TALES AND FOLK LEGENDS:
Wolfgang Greller Darl. Margaret Jones 1856445178 Canolfan Astudiaethau Addysg £5.95 Straeon gwerin o Ffrisia, Cymru, Lusatia, Roma, Gwlad y Basg, Gwlad y Sami a Ladinia.

IMAGES OF THE VALLEYS:
Goln. Lyca Phillips, Gwenda Williams 0953530310 In Books £15.99 Ffotograffau lliw sydd yn dangos ardal o dde Cymru mewn goleuni newydd.

NATIONAL WINNER:
Emyr Humphreys 0708316514 Gwasg Prifysgol Cymru £7.99 Y chweched nofel yn y gyfres The Land of the Living.

THE NIGHT GARDEN:
Jenny Marlowe 187020641X Honno £4.99 Stori am PJ yn dod i delerau â beichiogrwydd ei mam drwy ymweld â gardd leol.

SISTERS SELECT - WORKS ON PAPER FROM THE DAVIES COLLECTION: Bethany McIntyre 072000490X Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru £13.99 Catalog o’r gweithiau yn Arddangosfa'r Chwiorydd Davies. 12 llun lliw.

SOCIAL HISTORY OF THE WELSH LANGUAGE, A: 'LET'S DO OUR BEST FOR THE ANCIENT TONGUE' - THE WELSH LANGUAGE IN THE TWENTIETH CENTURY:
Goln. Geraint H. Jenkins, Mari A. Williams 0708316581 Gwasg Prifysgol Cymru £25.00 Cyfrol sy'n edrych ar y berthynas rhwng iaith a chymuned yn yr ugeinfed ganrif.

'SOMETHING MUST BE DONE' - SOUTH WALES V WHITEHALL 1921-1951:
Ted Rowlands M.P. 0953937615 TTC Books (Ted Rowlands) £14.99 Astudiaeth o ddeg ar hugain o’r blynyddoedd mwyaf cythryblus yn hanes Cymru.

Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy