Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


A fu
crogi
ar gam?


Dal i holi pwy oedd llofrudd milain Tiger Bay yn y pumdegau

Dydd Iau, Tachwedd 9, 2000
Olrhain hanes achos Mahmood Hussein Mattan, y dyn olaf i’w grogi yng ngharchar Caerdydd, mae’r gyfrol Crogi Ar Gam? gan y cyn Uwch Arolygydd Roy Davies.

Fe’i cafwyd yn euog o lofruddio Lily Volpert, Iddewes 41 oed, oedd yn cadw siop gwerthu popeth yn Stryd Bute, Tiger Bay, Caerdydd, yn 1952.

Yr oedd yn llofruddiaeth erchyll - torrwyd ei gwddf o’r tu blaen, drwy y ddwy brif wythïen a’r asgwrn cefn.

Cael nifer yn euog ar gam

Mewn cyfnod pan welwyd nifer o achosion o bobl â gafwyd yn euog o lofruddiaeth - yn enwedig yn Ne Cymru - yn cael eu rhyddhau ar apêl, mae llyfr Roy Davies yn ddiddorol.

Fel mae’r marc cwestiwn yn nheitl y gyfrol - Crogi Ar Gam? - yn awgrymu mae’r darllenydd yn cael y teimlad fod meddwl yr awdur yn agored iawn â fu anghyfiawnder neu beidio.

Plismon yw’r awdur ac y mae’n cyflwyno’r stori yn fanwl, fanwl. Ceir hyd yn oed gynllun o siop Lily Volpert ac o Stryd Bute a’r strydoedd cyfagos.

Nid oedd unrhyw dystiolaeth uniongyrchol i brofi mai y Somaliad, Mahmood Mattan, oedd y llofrudd
ond roedd ei dystiolaeth ynglyn â ble roedd e noson y llofruddiaeth, beth a wnaeth, pam y gwelwyd ef gyda llond waled o arian trannoeth, yn rhidyll o gelwyddau.

Cael pardwn - yn rhy hwyr

Euog neu beidio, fe gyfrannodd Mattan yn helaeth tuag at ei dynged ei hun gyda’i atebion carbwl a’i gelwyddau amlwg. Ac eto - fe gafodd bardwn yn dilyn sefydlu y Criminal Cases Review Commission ym 1997 a’r achos yn cael ei gyflwyno i’r Llys Apêl.

Pardwn llawer yn rhy hwyr gan iddo gael ei grogi bron hanner canrif cyn hynny. Hwn oedd yr achos cyntaf i’w ystyried gan y comisiwn newydd.

Yr oedd Mattan yn ddyn gwyllt, parod a’i ddyrnau a pharod i dynnu cyllell o’i boced ar yr esgus lleia. Fe’i cafwyd yn euog o ddwyn arian o’r blwch casglu yn y Mosque.

Yr oedd yn bendant yn lleidr a chelwyddgi.

Ond ai ef oedd llofrudd Lily Volpert?

Yr achos yn erbyn dau ddyn arall

Mae llyfr Roy Davies yn gwyntyllu’r achos yn erbyn dau ddyn arall.

Harold Cover, gwr o India’r Gorllewin, a gafwyd yn euog o geisio llofruddio ei ferch ym 1969 ac a oedd yn sicr a’i fys rywle yn y briwes.

Er bod ymosodiad echrydus Cover ar ei ferch ei hun yn debyg iawn i’r un ar arweiniodd at ladd Lily Volpert, ni chafwyd enghraifft o Cover yn ymosod ar rywun mewn gwaed oer. Nodwedd bwysig o lofruddiaeth Lily - lladd er mwyn dwyn.

Hefyd dan amheuaeth yr oedd Somaliad arall - Tahir Gass - gwr a ddioddefai gyfnodau o wallgofrwydd.

Ddwy flynedd wedi llofruddiaeth Lily Volpert cafwyd Gass yn euog o ladd gwr o’r enw Granville Jenkins o Sir Fynwy. Ni chrogwyd ef am y tybiwyd ei fod yn wallgof pan laddodd Jenkins.

Ond awgrym Roy Davies yw fod gwahaniaeth mawr rhwng y llabyddio oedd yn nodweddu anfadwaith Gass a’r weithred y cafwyd Mattan yn euog ohoni.

Fel stori Conan Doyle

Mae manylion y stori yn syfrdanol. Mae yn darllen fel un o straeon Arthur Conan Doyle, ac yn perthyn rywsut i gyfnod pan oedd pob manylyn yn cael ei gynnwys yn adroddiadau’r papur newydd.

Dywedifr fod gennym heddiw fwy o obsesiwn gyda llofruddiaethau nag erioed. Mae holl naws y stori hon yn gwneud ichi feddwl fod yr obsesiwn hyd yn oed yn fwy yn y gorffennol.

Mae hon yn stori sy’n gafael. Ac fe ellid disgwyl stori’n cael ei hadrodd yn dda ac yn ofalus gan awdur profiadol cyfrolau fel Llaw Dialedd, Y Gwr Drwg a’i Obeithion a Dirgelwch y Cwm Du

Enillodd y gwaith wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Môn
- er na ddywedir hynny yn y broliant.

Mae Crogi Ar Gam? Hanes llofruddiaeth Lily Volpert wedi ei gyhoeddi gan Wasg Gomer, pris £4.95.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy