Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Byd
rhyfeddol
merched
Cymru

Son am gyfnod pan oedd merched yn cael eu dwyn

Dydd Iau, Tachwedd 9, 2000
Women and Gender in Early Modern Wales. Golygyddion: Michael Roberts a Simone Clarke.
Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99 neu £35 clawr caled.


Tan yn gymharol ddiweddar gellid yn hawdd iawn faddau i rywun am dybio mai rhywbeth yn ymwneud â dynion yw Hanes. Eithriadau prin oedd y merched a enillai eu lle yn ein llyfrau hanes.

Y mae hyn yn cael ei danlinellu gan yr hyn a ddywed yr hanesydd Michael Roberts mewn cyflwyniad i lyfr y mae wedi ei olygu gyda Simone Clarke.

Mae’n sôn am yr hyn a ddigwydd toc wed'rr Ail Ryfel Byd pan gomisiynodd yr hen Gyngor Sir Ddinbych lyfr hanes i’w ddefnyddio mewn ysgolion.

Pan ymddangosodd, ei deitl oedd, "Eminent Men of Denbighshire."

Nid y byddai hynny wedi ymddangos yn od i neb ar y pryd.

Ochr arall y geiniog

Fel y mae ei deitl, Women and Gender in Early Modern Wales, bwriad llyfr Michael Roberts a Simone Clark yw rhoi inni ochr arall y geiniog .

Ar gyfer y lleygwr nad yw’n hanesydd bydd angen diffinio’r gair modern yna. Yng nghyd-destun hanes, fel y dywed Michael Roberts, mae Early Modern yn cyfeirio at gyfnod y Ddeddf Uno, y Rhyfel Cartref a’r ysgolion cylchynnol - cyfnod pan oedd ymagweddau gwrywaidd yn amlwg iawn.

Da felly, cael cyfrol fel hon gyda chyfraniadau gan naw o haneswyr eraill hefyd yn trafod gwahanol agweddau o hanes mewn perthynas a merched.

Y cyfranwyr eraill yw:
Richard Allen, arbenigwr o Goleg y Drindod ar y Crynwyr;
Lesley Davison sy’n llunio astudiaeth o ferched sengl;
Ruth Geuter arbenigrwiag ar wniadwaith yr ail ganrif ar bymtehg;
Nia Powell o Brifysgol Bangor;
Llinos Beverley Smith - arbenigwraig ar hanes economaidd a chymdeithasol Cymru’r canol oesoedd;
Richard Suggett sydd â’i arbenigedd mewn pensaeniaeth ac anthropoleg;
Garthine Walker o Brifysgol Caerdydd;
Eryn M. White, darlithydd yn Aberystwyth sydd wedi canolbwyntio ar hanes crefyddol y cyfnod dan sylw.

Y mae Michael Roberts hefyd yn ddarlithydd yn Aberystwyth a Simone Clarke yn gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Wolverhampton.

Mae ei chyfraniad hi yn ymwneud â hanes cymdeithasol ym Meirionnydd ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

O safbwynt Cymreig

Yn ei ragair mae Michael Roberts yn tanlinellu’r ffaith mai llyfr o safbwynt Cymreig wedi ei lunio yn arbennig gyda Chymru mewn golwg yw hwn yn hytrach na chyfrol sy’n cymhwyso damcaniaethau eraill i gyd-destun Cymreig.

Ychwanega fod cyfoeth o dystiolaeth a ffynhonellau Cymreig i hwyluso gwaith haneswyr yn y maes.

Yn sicr y mae digon i gnoi cil arno.

Llinos Beverley Smith, er enghraifft, yn dangos fod y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif yn gyfnod pan sicrhaodd merched Cymru "important advancements". Yr oedd yn gyfnod hefyd pan oedd mwy a mwy o ferched yn derbyn tâl am eu llafur.

Dwyn merched a'u treisio

Pennod eithriadol o ddiddorol yw un Garthine Walker, "Strange Kind of Stealing: Abduction in Early Moder Wales" sydd yn rhoi gwedd ddiddorol ac ysgytwol ar y ffordd yr oedd rhai merched yn cael eu ‘meddiannu’ gan ddynion.

Yr hyn sy’n ddiddorol yw: er bod hon yn cael ei hystyried yn drosedd nid oedd gymaint yn drosedd yn erbyn y fenyw fel merch ond yn drosedd yn ei herbyn fel eiddo i ddyn bydded hwnnw yn dad neu yn wr iddi.

Ystyr abduction yma yw fod merch yn cael ei chymryd yn erbyn ei hewyllys a’i gorfodi i briodi neu’n cael ei threisio.

Ond fel y dywedodd un sylwebydd o’r cyfnod, pe byddai’r ferch yn digwydd bod yn etifedd y gwir drosedd oedd mai tir mewn gwirionedd oedd yn cael ei ddwyn. Wrth ddwyn y ferch dwyn y tir y byddai’n ei etifeddu yr oedd y troseddwr.
Dyna oedd yn ei wneud yn "strange kind of stealing."

Cawn hanes brawychus o ferch, Ellen Lewis, yn cael ei churo a’i cholbio a’i rhoi mewn cadwynau er mwyn ei gorfodi i briodi.

Pynciau eraill sy’n cael eu trafod yw gwrachyddiaeth; merched a mudiad y Crynwyr; barddoniaeth gaeth gan ferched; gwniadwaith; bywyd merched dibriod.

Y bennod sy’n cloi’r gyfrol yw gan Michael Roberts yn ymwneud â’r agwedd tuag at ddynion y cyfnod gyda’r pennawd pryfoclyd: "more prone to be idle and riotous than the English."

Digon, yn wir, i gnoi cil arno.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy