Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llun gan Jac Jones Arlunydd yn erbyn bwlis - lluniau a geiriau gan Jac Jones

Hefyd

y rhestr ddiweddaraf o lyfrau sydd ar werth

Dydd Iau, Hydref 26, 2000

I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:


Awdur ar daith yn erbyn bwlis

gan Barry Thomas
Anaml y gwelwch chi artist yn teithio o gwmpas Cymru yn trafod ei waith. Anamlach fyth y mae awdur yn pedlo beic o Langefni i Gaerdydd er mwyn cael ysbrydoliaeth.

Ond dyna’n union a wnaeth Jac Jones ar gyfer ei lyfr diweddaraf, Betsan a’r Bwlis.

Er bod yr arlunydd o Fôn wedi gwneud lluniau ar gyfer 380 o lyfrau i gyd gan gynnwys llyfrau plant fel Jac y Jwc, Gwion a’r Wrach a Y Cwilt, Cath Ty Popty, y llyfr Betsan a’r Bwlis yw’r cyntaf lle mae wedi ysgrifennu’r stori yn ogystal â chreu’r lluniau.

Yn awr mae’n ymweld ag ysgolion i drafod y llyfr gyda’r disgyblion.

Yn Ysgol Gynradd Rhiwlas yn ddiweddar bu’n trafod ac esbonio cynnwys Betsan a’r Bwlis, a dangos i blant bod modd trechu bwlis.

Hefyd, dangosodd, trwy ei luniau ef ei hun, fod gofyn i arlunydd fedru tynnu pob math o luniau er mwyn ennill ei damaid.

Bu’r ymateb yn rhagorol. Meddai Lowri Elen Owen, naw oed: "Dwi’n hoffi’r lluniau yn Betsan a’r Bwlis. Mae nhw’n fawr ac yn lliwgar hefyd, ac yn edrych yn 3D. Roedd Jac Jones yn ddiddorol. Ei luniau doniol o oedd y gorau gin i."

Am y llyfr

Mae Betsan a’r Bwlis ar gyfer plant chwech i wyth oed a’i fwriad yw cael plant sy’n cael eu bwlio i sgwrsio am y peth.

Ceir haenau o wybodaeth ar gyfer plant ac oedolion yn y lluniau. Yn ogystal â dangos i blant fod bwlio’n ddrwg, mae’r llyfr yn dangos pa mor hawdd yw hi i oedolion fethu’r arwyddion.

Mae ynddo neges i bawb o bob oed.


Dyma restr yr wythnos hon o
lyfrau newydd:

LLYFRAU CYMRAEG A DWYIEITHOG CATRIN JONES YN UNIG: Meleri Wyn James 1859029078 Gwasg Gomer £6.95 Nofel gyfoes ar ffurf dyddiadur merch yn ei hugeiniau.

CYFRES NOFELAU I'R ARDDEGAU: BOZ A SLEIMI: Mari Williams 185902825X Gwasg Gomer £3.95 Nofel wreiddiol ar thema bwlio, i rai yn eu harddegau.

CYFRES STRAEON PLANT BACH: EIRA WEN: Addas. Myrddin ap Dafydd 0863816487 Gwasg Carreg Gwalch £2.50 Llyfr bwrdd yn cyflwyno stori werin draddodiadol.

CYFRES STRAEON PLANT BACH: TRI MOCHYN BACH, Y: Addas. Myrddin ap Dafydd 0863816460 Gwasg Carreg Gwalch £2.50 Llyfr bwrdd yn cyflwyno stori werin draddodiadol.

FFEILOFFAITH 2001: 0862435390 Y Lolfa £4.95 Fersiwn ffeiloffaith o ddyddiadur poced y Lolfa. Tudalennau rhydd a sbeiral.

LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU

CELTIC RITUALS - AN AUTHENTIC GUIDE TO ANCIENT CELTIC SPIRITUALITY: Alexei Kondratiev 1902012186 New Celtic Publishing £5.00 Astudiaeth o ddefodau'r chwe chenedl Geltaidd.

CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU / NATIONAL ASSEMBLY FOR WALES, THE - THE ESSENTIAL GUIDE 2000: 1902724232 UWIC £7.50 Cyfeirlyfr yn cynnwys gwybodaeth am y Cynulliad a'i aelodau.

DETECTIVE'S STORY, A: David Marsh-Smith 1903314054 David Marsh-Smith £4.95 Hanes profiadau plismon Prydeinig yn India ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

DYLAN THOMAS - COLLECTED POEMS 1934-1953: Dylan Thomas Goln. Walford Davies, Ralph Maud 0753810662 The Phoenix Press £5.99 Casgliad o gerddi un o feirdd gorau'r ugeinfed ganrif.

HIDDEN INNS OF WALES, THE: Gol. Barbara Vesey 1902007530 Travel Publishing Ltd. £5.99 10 o benodau yn rhoi sylw i holl ardaloedd Cymru.

MULTIVERSE: Don Rodgers 1854112821 Seren £6.95 Casgliad newydd o gerddi.

OWEN AND THE MOUNTAIN: Malachy Doyle Darl. Giles Greenfield 074754770X Bloomsbury Publishing Ltd £9.99 Stori i blant am y berthynas rhwng bachgen a'i daid.

RELIGION, CULTURE AND SOCIETY: NOVEL, SPIRITUALITY AND MODERN CULTURE, THE: Gol. Paul S. Fiddes 0708315992 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Ysgrifau gan wyth o nofelwyr.

WELSH BOOK OF THE DEAD, THE: Douglas Houston 1854112783 Seren £6.95 Casgliad o gerddi.


Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy