Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Meic Stephens a'r Cyng Jack Reagan Cofio Jack Jones

Dadorchuddio cofeb i nofelydd y cymoedd

Dydd Iau, Hydref 26, 2000
Yr oedd Jack Jones yn un o batriarchiaid y traddodiad llenyddol Eingl Gymreig - awdur cyfrolau fel Out of Eden, Off To Philadelphia in the Morning (stori’r cerddor Joseph Parry, fwy neu lai) a Rhondda Roundabout.

I gyd, ysywaeth allan o brint, erbyn hyn.

Yn ddyn cadarn gyda’i farf wen, ysblennydd, yr oedd yn un o’r cymeriadau roddodd liw i gymdeithas Rhiwbeina - un o faestrefi Caerdydd a gadwodd lawer o’i hysbryd bentrefol.

Yn Rhiwbeina, ddydd Llun, ymgasglodd nifer o’r teulu a chriw bach o garedigion llên i wylio’r Cynghorydd Jim Reagan yn dadorchuddio llechen i’w goffadwriaeth yn y Llyfrgell leol.

Teulu Jack Jones"Gwnaeth Jack Jones gymaint i hyrwyddo Caerdydd a De Cymru," meddai’r Cynghorydd Reagan.

Yr oedd yn fore o hel atgofion - pawb a’i stori.

Ar gefn motobeic

"Rwyn cofio pan bigodd picwnen e yn ei dafod yn y Butchers Arms," meddai un wraig ddaeth mewn i fenthyg llyfr ond a arhosodd i fwynhau’r seremoni.

"Buodd raid i ryw ddyn ifanc fynd ag e ar gefn motobeic i’r Infirmary. Roedd ei dafod e’n chwyddo a roedd e bron tagu."

Gan Meic Stephens, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, a gynt o Gyngor Celfyddydau Cymru y cafwyd un o’r straeon gorau.

Wedi marwolaeth Jack cafodd MeicStephens wahoddiad gan ei weddw i ddewis unrhyw lyfrau a ddymunai o gasgliad ei gwr.

Ond yr oedd yn gasgliad prin iawn o lyfrau mewn gwirionedd.

"Fe ddewisais rhyw lyfr neu’i gilydd - ychydig iawn o lyfrau oedd ganddo fe a dweud y gwir - rhywbeth o barch i gofio am Jack yn fwy na dim," meddai Meic.

Ystyrrid Jack yn ddarllennwr mawr ond prynwr sâl! Hwyrach am fod ei ail wraig yn gweithio yn Llyfrgell Rhiwbeina.

"Rai wythnosau wedyn ro’n i yn Y Gelli yn siop Richard Booth. Roedd Richard i hunan yno, ac ar ei uchelfannau wedi prynu 'llyfrgell' Jack."

Ac ymhlith y llyfrau yr oedd un gwerth mwy nag a dalodd am y cyfan oll.

"Dangosodd e’r llyfr i fi - rhyw deitl fel History of the Tennessee Valley Authority - ac ar y ddalen tu fewn wedi ei ysgrifennu oedd ‘To my friend Jack Jones, T. S. Eliot’.

"Gwers i fi i edrych ar wyneb ddalen llyfrau pobol adnabyddus," meddai Meic.

Mwynhau ei beint

Jack JonesMae hi'n gred na phrynodd Jack Jones erioed beint iddo’i hunan nac i neb arall mewn deng mlynedd o ymweld yn rheolaidd â thafarn y Deri.

Mae stori, fel y cynllwyniodd y ffyddloniaid, un noson, i beidio â phrynu iddo ei beint arferol.

Pan gyrhaeddodd aeth Jack o un i'r llall ond neb yn cynnig prynu dim ond ei gyfarch, "Shwmae Jack?" a pharhau gyda’u sgwrs.

Yn y diwedd safodd Jack yng nghanol y stafell a dweud mewn llais uchel, "So who the hell is going to buy me a pint tonight?"

A rhuthrodd hanner dwsin at y bar mewn cywilydd i ddi-sychedu’r hen batriarch.

Clirio'i lwnc

Mae stori arall amdano'n derbyn gwahoddiad cymdeithas lenyddol Gymraeg Sir Drefaldwyn i roi darlith Saesneg iddynt un gaeaf - roedd grant o ryw fath i’w gael am drefnu’r fath achlysur.

Yng Ngregynog y cynhelid y cyfarfodydd hyn, gan amlaf.

Wedi bod wrthi’n traethu am rhyw ugain munud stopiodd Jack gan ddweud yn Gymraeg fod ei lwnc yn sych.

"Fe â i nôl gwydriaid o ddwr i chi," meddai’r warden, Glyn Tegai Hughes.

"Meddwl o’n i falle bod diferyn o gwrw ’da chi," atebodd Jack.

Ac, yn wir, dychwelwyd gyda photelaid o gwrw a gwydr iddo.

Wedi rhyw ddeg munud arall o draethu dyma dorri ar draws y traethu Saesneg gyda "O’s racor o hwn ’dach chi?"

Felly y bu gydol y ddarlith.

Darlledwr poblogaidd

Rywbryd rhwng canol oed a henaint daeth Jack i arddel mwy a mwy o’i Gymraeg a bu’n ddarlledwr poblogaidd yn yr iaith a siaradai pan oedd yn blentyn ac yn wr ifanc ym Merthyr.

"Byddai bob amser yn siarad Cymraeg yn barchus gyda Ruth, fy ngwraig," meddai Meic Stephens. "Ond yn Saesneg y byddai’n siarad â fi."

Bu’n gweithio yn y Gwaith Haearn ym Merthyr, a bu wedi hynny yn asiant y glowyr. Cafodd yrfa liwgar ac yn ei dro bu'n aelod o bob plaid wleidyddol.

Ond fel ysgrifennwr a gofnododd fywyd cymoedd y de pan oedd hwnnw yn ei anterth y cofir amdano.

"Gwerinwr oedd e yng nghanol cymdeithas drefol, ddiwydiannol," meddai Meic Stephens.

Ymddiriedolaeth Rhys Davies fu’n gyfrifol am drefnu’r llechen i goffáu Jack Jones ac fe’i lluniwyd gan Ieuan Rhys.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy