Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr Dod i adnabod Llydaw yn well

Llyfr newydd am ein cefndryd Celtaidd

Dydd Iau, Hydref 19, 2000

Adolygiad gan: Helen Price

Llydaw : ei Llên a’i Llwybrau gan Gwyn Griffiths. Gomer, 2000 1859028225 £13.95


Bydd Llydawgarwyr Cymru yn ymfalchio gyda chyhoeddi y llyfr newydd hwn gan awdur Crwydro Llydaw (1978), Y Sionis Olaf (1981), a Goodbye Johnny Onions (1988) – yr un cyntaf, allan o brint ers blynyddoedd.

Yn llyfr tywys aeth Crwydro Llydaw gyda llawer o Gymry Cymraeg ar deithiau i Lydaw.

Hanes safonol y gwerthwyr nionod o Lydaw a oedd mor gyfarwydd ar un adeg yw’r lleill.

Cyrraedd y manion bethau

Adnabyddir Gwyn Griffiths hefyd fel newyddiadurwr sydd wedi cyhoeddi llawer o erthyglau yn y wasg Gymreig a Llydewig am sawl agwedd o ddiwylliant Llydaw.

Ni fydd y darllenwyr yn cael eu siomi gan ei lyfr diweddaraf.

Nid arweinlyfr confensiynol mo hwn, serch hynny, ond adroddiad personol am y wlad. Ymgais i gyrraedd y manion bethau.

Y mae Gwyn Griffiths yn adnabod Llydaw yn dda ac er wedi ymweld â hi ac ysgrifennu amdani ers blynyddoedd mae’n dal i’w gweld â llygaid ffres.

Y mae fframwaith y llyfr wedi seilio ar ei daith ef a’i wraig o gwmpas Llydaw yn y nawdegau hwyr.

Y mae pob pennod yn cymryd un ardal ac, yn ogystal â phrofiad personol yr awdur, fe geir - lle mae’n briodol - ddarnau am hanes, economi, daearyddiaeth a llenorion y fro - naws y lle, y bwyd, amaethyddiaeth, cymeriadau lliwgar.

Cyfoeth o straeon wedi eu hadrodd yn ddifyr a darllenadwy - weithiau’n ddoniol, weithiau’n ddwfn.

Chwarddais yn uchel gyda’r disgrifiad aflednais o wy wedi’i sgramblo mewn gwesty otomatig ger Quimper. Mynheuais y feirniadaeth lem (fel arfer, wedi ei hanelu atom ni yng Nghymru).

Perthynas dlawd? Go brin

Mae tuedd yng Nghymru i weld Llydaw fel perthynas dlawd y byd "Celtaidd". Yn bennaf oherwydd cyflwr sigledig y Llydaweg. Fodd bynnag, ni fydd y syniad o wendid yn parhau wedi darllen y llyfr hwn.

Nid yw’r awdur yn osgoi trafod problemau Llydaw, o’r gorffennol na’r presennol.

Y mae erchyllterau’r rhyfel a’i adladd yn codi sawl gwaith:
• diwedd trist bywydau Saint-Pol-Roux a Max Jacob, er enghraifft);
• trafodir sut y defnyddir hyd heddiw y goel am "gydweithredwyr" (yn wir am rai nid yn unig yn Llydaw ond yng ngweddill Ffrainc) i frifo’r mudiad Llydewig, a’r iaith.

Colled ddiwylliannol

Y mae’r radd o hunanladdiad yn gymharol uchel yn Llydaw, ac y mae yma argraff o golled ddiwylliannol, yn enwedig ynghylch yr iaith frodorol.

Ond diddorol yw gweld, ugain mlynedd ar ôl Crwydro Llydaw, fod yr awdur yn obeithiol ynglyn â’r rhagolygon yn Llydaw.
Gwêl newidiadau er gwell:
• llwyddiant economaidd,
• delwedd fwy gweladwy a sicrach.

"Mae popeth yn Llydaw fel pe bai i’r gwrthwyneb i Gymru," meddai.

Datganiad syfrdanol ond yn un sy'n cael ei gyfiawnhau fesul pwynt.

Mae’n syndod gweld fod y Llydawyr fel pe byddent yn fwy annibynnol na’r Cymry: er enghraifft, gyda llwyddiant mentrau cydweithio fel Brittany Ferries a SICA, a sefydlwyd gan ffermwyr Llydaw i sicrhau eu ffyniant.

Cymharu â Chymru

Y mae’r awdur yn feirniadol iawn am agweddau o fywyd yng Nghymru, yn enwedig lle mae cyrff wedi’u hariannu yn gyhoeddus yn y cwestiwn.

Syndod darllen fod cylchrediad cylchgronau fel Ar men yn Llydaw yn y degau o filoedd tra bo cylchrediad y New Welsh Review ond yn 750.

Cyfeiria at ddiwydiant cyhoeddi ffyniannus yn Llydaw er nad oes cymhorthdaliadau sylweddol fel ag yng Nghymru.. Golyga hyn fod llai o arian ond mwy o annibyniaeth ymhlith cyhoeddwyr Llydaw.

Bydd sylwadau’r awdur am ein hamgueddfeydd a CADW yn anesmwytho y sawl sy’n gweithio ym maes y "busnes treftadaeth".

Mae i’r llyfr glawr hyfryd a chynnwys luniau du a gwyn deniadol.

Er nad yw wedi ei fwriadu fel llyfr tywys, byddai map wedi bod o gymorth
ond cwyn fechan yw hon.

Os nad ydych yn gyfarwydd a Llydaw mae hwn yn gyflwyniad hyfryd – ac os yr ydych yn gyfarwydd mae’n llyfr angenrheidiol ac yn un sy’n codi awydd i ymweld â’r wlad hudolus y mae Gwyn Griffiths wedi ymserchu a hi.

Y mae Gwyn Griffiths yn un o ohebwyr Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy