Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Stamp  Glyndwr Dathlu
gwrthryfel
Glyndwr


Llyfrau a stamps
am arwr cenedlaethol

Dydd Iau, Hydref 5, 2000

Owain Glyndwr, Tywysog Cymru gan Rhiannon Ifans a Margaret Jones. Lolfa. £5.95

Owain Glyn Dwr 1400-2000 gan Iwan Llwyd, Gillian Clarke a Margaret Jones Llyfrgell Genedlaethol Cymru. (Ni nodir y pris)

Llyfr Lliwio Owain Glyndwr gan Elwyn Ioan a Lefi Gruffudd. Y Lolfa. £1.95.

Stamp Owain Glyndwr gan Margaret Jones. Lolfa. £2 am ddau ddwsin.

Mae’r stori’n cychwyn gyda Sion a Gethin Wyn yn paratoi helm milwr i Owen ap Gruffudd Fychan - ymladdwr o Gymro sydd yn ymladd mewn twrnameint cyn cychwyn i frwydro dros frenin Lloegr yn yr Alban.

Clawr y gyfrol"Fe hoffai Owain Glyndwr ymladd, ac yn well fyth, fe hoffai ymladd yn yr haf. Nid oedd arlliw o ofn dim ar ei galon ef. Hoffai garlamu drwy Ogledd Cymru, drwy Loegr, ar draws gwlad i’r dwyrain, ac i fyny eto i’r Ferwig yn yr Alban …," meddai Rgiannon Ifans yn ei llyfr a gyhoeddwyd i gydfynd a dathliadau chwe chan mlynedd gwrthryfel y mwyaf o’r arwyr Cymreig, Owain Glyndwr.

Fel y gwelwn, gorfodwyd Owain i droi yn ddraenen yn ystlys Brenin Lloegr yn hytrach nag yn un o’i wyr arfog ac arwain gwrthryfel Cymreig yn ei erbyn.

Ar ffurf stori gyffrous y mae Rhiannon Ifans yn trosglwyddo i genhedlaeth newydd o Gymry ifainc hanes yr arwr cenedlaethiol.

Mae’r hanes yn gorffen gyda chwedl y sgwrs â’r abad ar lechweddau Llangollen gyda chyfle i bwyso a mesur gyfraniad parhaol Owain Glyndwr er gweaethaf methiant ei ymgyrch filwrol.

"Hebddot ti fyddai neb wedi breuddwydio am Eglwys Cymru. Hebddot ti fyddai neb wedi breuddwydio am Brifysgol Cymru. Hebddot ti fyddai neb wedi dyheu unwaith eto am gael gweld Tywysog Cymru. Dyma’r ffordd ymlaen. Mae pawb yn gwybod hynny rwan, diolch i ti," meddai’r Abad wrth Owain.

Rhiannon IfansCafodd pob un o ddisgyblion ysgolion cynradd Sir Gwynedd gopi o’r llyfr yn anrheg sy’n gam diddorol ymlaen o fwg coroni a gafodd fy nghenhedlaeth i ym mhumdeg tri.

Mae Rhiannon Ifans wedi pwytho’n gelfydd fanylion hanesyddol blasus i’w gwaith a hynny’n lliwio’r cyfnod yn ddiarwybod bron i’r darllenydd.

Trueni, fodd bynnag, fod naws fymryn yn ffurfiol i’r storîo ei hun ar adegau.

Ochr yn ochr a geiriau Rhiannon Ifans y mae lluniau triawiadol gan Margaret Jones.

Ac y mae ei gwaith hi i’w gweld mewn cyfrol berthnasol arall, Owain Glyn Dwr 1400-2000 (sy’n ei wneud yn ddyn hen iawn!) a gyhoeddir gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Un o luniau Margaret JonesCyfuniad o waith yr arlunydd a dau fardd yw y gyfrol arbennig hon gyda cherddi yn y Gymraeg gan Iwan Llwyd a’r Saesneg gan Gillian Clarke yn ymwneud â gwahanol gyfnodau ym mywyd Owain Glyndwr.

Y mae llun ar gyfer pob pâr o gerddi ac er bod y cerddi bob tro yn berthnasol i’r olygfa a ddarlunir dydi’r naill gerdd ddim yn gyfieithiad o’r llall. Mae hynny yn ychwanegu at y pleser a gaiff y darllenydd dwyieithog o’r gyfrol wrth i’r ddau fardd ddadlenu eu gweledigaeth a’u dehongliad hwy o frwydr yr arwr cenedlaethol..

Trydydd llyfr sydd ar gael yw Llyfr Lliwio Owain Glyndwr gyda lluniau i’w lliwio gan Elwyn Ioan a hanes y frwydr fawr gan Lefi Gruffuddd. Dyma’r bumed gyfrol yng Nghyfres Arwyr Cymru gan y Lolfa a chafodd ei gyhoeddi yr un diwrnod a llyfr Rhiannon Ifans.

Cyhoeddodd y Lolfa hefyd Stamp Owain Glyndwr wedi ei ddylunio gan Margaret Jones - yn wyneb methiant cywilyddus y Swyddfa Bost i gynhyrchu stamp swyddogol ar gyfer yr achlysur hwn .

Stamp Glyndwr"Mae’r Swyddfa Bost yn defnyddio lluniau o deulu brenhinol a mawrion hanes Lloegr er au stampiau yn barhaus ac yn ddiweddar cynhyrchwyd stamp ganddynt i nodi brwydr yn yr Alban ond unwaith eto mae wedi methu â chynhyrchu stamp i gofnodi digwyddiad o bwys yn hanes Cymru, " meddai Garmon Gruffudd o’r Lolfa.
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy