Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Trim Mochyn Bach Hunllef o drychinebau

Gwyn Griffiths gydag adolygiad o Tri Mochyn Bach
Dyddiadur Taith - dyna destun Cystadleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch. Nofel, ar ffurf dyddiadur taith, yw Tri Mochyn Bach gan Eirug Wyn, y gyfrol fuddugol.

Mae sgerbwd y stori’n digwydd o fewn cwmpas pythefnos, ond drwy gyfrwng atgofion - neu flashbacks, i ddefnyddio term teledu - mae’n cwmpasu cyfnod llawer ehangach. Ac y mae yma ddau ddyddiadur, yr un y mae Mair yn ei sgrifennu, a’r meddyliau go-iawn sy’n ei phen.

Y dyddiadur du a’r dyddiadur coch, fel bo’r darllenydd yn gwybod pwy sy’n siarad, fel petae.

Mae breuddwydion, ac astudiaeth o freuddwydion, yn ganolog i’r stori. Ai hunlle yw’r cyfan? Mae’r awdur fel pe’n awgrymu hynny. Ceir awgrym pellach o hynny yng nglawr ardderchog y gyfrol - gwaith John Meirion Jones. Mae yma gyffuriau sy’n creu drychiolaethau, ymddygiad treisgar a thrychinebau. Ac y mae yma ladd. A derbyn y stori ar yr wyneb y mae yn ysgytwol afaelgar.

Mae Mair, sy’n ddarlithydd Prifysgol, yn cael ei gwahodd gan bennaeth llwyth yn Affrica i ymchwilio i freuddwydion. Ond mae’n canfod bod gan y Pennaeth broblem - dirgelwch marwolaeth ei fab. Ai hunan-laddiad oedd e?

Mae’r pythefnos yn cychwyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol - mae disgwyl i ddarlithydd yn y Gymraeg ei lordio hi o gwmpas y Maes. Wedyn mae’r daith i Affrica yn cychwyn ac oddi yno i Catalunya. Ochr yn ochr â dyddiadur y daith mae Mair yn datgelu hen drychinebau ac y mae’r sgerbydau’n cloncian yn y cypyrddau. Neu mae hi’n eu hunllefu nhw. Ond mae trychineb mwy i ddod.

Darllenais y nofel ar fy ngwyliau - ynghyd â phedair neu bump o nofelau eraill, Cymraeg a Saesneg. Dyma’r orau o bell fordd, doedd dim modd ei rhoi o’r neilltu. Wedi dweud hynny, y mae’n nofel a’m bwriodd i iselder - mae’n affwysol drist a phesimistaidd.

Ond am grefft a sgrifennu mentrus, dyfnder a gafael sicr ar grefft fedra i ddim cofio pryd y darllenais i ddim byd cystal yn y Gymraeg.

Cyhoeddir Tri Mochyn Bach gan Y Lolfa, pris £5.95.


Detholiad o lyfrau Cymraeg a dwyieithog diweddar

APÊL YR HÂG AM HEDDWCH A CHYFIAWNDER YN YR UNFED GANRIF AR HUGAIN / THE HAGUE DECLARATION ON PEACE AND JUSTICE IN THE TWENTY FIRST CENTURY: Gol. D. Ben Rees. Addas. John Owen.
0000870757 Cyhoeddiadau Modern Cymreig, £1.
Agenda yn cynnwys 50 obwyntiau ar gyfer sicrhau heddwch a chyfiawnder.

Y BRENIN TRACHWANTUS: Dennis Reader. Addas. Ann Jones.
0704913461 Fabula, £5.
Stori yn cynnwys neges foesol; ar gyfer plant oed cynradd.

OWAIN GLYNDWR - TYWYSOG CYMRU: Rhiannon Evans. Darluniau, Margaret Jones.
0862435358 Y Lolfa, £5.95.
Straeon wedi eu seilio ar fywyd Owain Glyndwr.

LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU

THE CHANGING FACE OF LEARNING TECHNOLOGY: Goln. David Squires, Grainne Conole, Gabriel Jacobs.
0708316816 Gwasg Prifysgol Cymru, £14.99.
Detholiad o ysgrifau o’r cylchgrawn ALT-J

THE OFFICIAL FOOTBALL ASSOCIATION OF WALES YEARBOOK AND SUPPORTERS’ GUIDE 2000 - 2001: Gol. John Robinson.
186223048X Soccer Book Publishing Limited, £5.99
Arweinlyfr lliwgar yn cynnwys lluniau, dyddiadau pwysig a ffeithiau diddorol.

LIFE AT NUMBER 10: NEIL JENKINS - AN AUTOBIOGRAPHY WITH PAUL REES: Neil Jenkins gyda Paul Rees.
1840183829 Mainstream Publishing, £7.99
Argraffiad clawr meddal o gofiant y chwaraewr rygbi, wedi ei ddiweddaru yn dilyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2000.

OWAIN GLYNDWR: PRINCE OF WALES: Rhiannon Evans, Darluniau Margaret Jones
0862435447 Y Lolfa, £5.95
Straeon wedi eu seilio ar fywyd Owain Glyndwr.

PRIVATE FACES - THE AUTOBIOGRAPHY: Sian Phillips
0340712562 Hodder & Stoughton, £7.99
Hunangofiant Siân Phillips, un o actoresau enwocaf Cymru.
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy