|
|
Rhamant
telynorion
Llyfr
am delynorion rhyfeddol Môn
Dydd Iau, Medi 14, 2000 |
Ychwanegiad hir ddisgwyliedig i Wlad y Medrau yw Telynorion
Llannerch-y-medd/The Harpers of Llannerch-y-medd gan Huw
Roberts a Llio Rhydderch, cyhoeddiad graenus gan Adran
Hamdden a Threftadaeth Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae’r gyfrol ddwyieithog yn canolbwyntio’n arbennig ar deulu’r Britannia,
tafarn a fu’n gartre i’r delyn yn Llannerch-y-medd.
Yno roedd canu penillion a chanu cylch mewn bri a dylanwad y teulu
yn bell-gyrhaeddol.
Mae’r awduron, drwy eu hymchwil trylwyr, yn cyflwyno gwythien bwysig
a chyfoethog yn hanes cerddoriaeth y genedl. Fel y gellid disgwyl
gan ddau gerddor, mae’r gair a’r gân yn priodi’n hapus drwy’r gyfrol.
Ceir sawl enghraifft o wireddu’r cwpled
Diau oedd fod dydd a fu,
Telyn gan bob pen teulu.
O’r pump ar hugain o delynorion oedd ym Môn yn y ddeunawfed ganrif,
roedd saith yn cystadlu ar y delyn deires mewn Eisteddfod ym Miwmares
dros 150 mlynedd yn ôl.
Ymddengys fod hon yn un o’r rhai arbennig, pryd yr oedd y Dywysoges
Victoria yn arwisgo John Williams, mab clochydd Llangadwaladr am
ei berfformiad o Syr Harri Ddu gydag amrywiadau.
Parhaodd y deires mewn bri i’r ganrif nesaf, pryd y cafwyd 11 yn
cystadlu yn Eisteddfod Aberffraw 1849.
Dilyn y traddodiad ymlaen y mae’r awduron a rhoi peth o hanes y
delyn deires, nes dod at John Jones, Telynor Môn, ar ei aelwyd yn
Nhafarn y Britannia, lle y mabwysiadwyd dull y gogledd o ganu penillion
a lle’r oedd y diwylliant Cymreig ar ei orau.
Hyn oll yn blaguro’n y plant, a’r etifeddiaeth deuluol yn cerdded
ymlaen nes cysylltu â’r Eisteddfod Genedlaethol a chymeriadau cenedlaethol
fel Arglwyddes Llanofer.
Yn perthyn i’r un teulu - yn ferch i Dafarn y Marchog, Caergybi
- yr oedd Ellen Jane Jones, Telynores Cybi, a fu farw mor ddiweddar
â 1932.
Ceir y difri a’r digri mewn cyhoeddiad sy’n ffrwyth ymchwil manwl
y ffidler Huw Jones a’r delynores Llio Rhydderch. Mae dros gant
o luniau i hybu cefndir traddodiadol sydd o gymaint consyrn i’r
ddau awdur.
At
y diwedd, wedi pori drwy gant o dudalennau, ceir golwg ar yr awduron
gydag Idwal Owen - y tri gyferbyn â thabl achau yr hen delynorion.
Yn fonws i’r cyfan, yng nghesail y ddalen olaf mae cryno ddisg ac
arni ddetholion o’r hen alawon, sgyrsiau amserol ac atgofion.
Mae’r gwaith i gyd yn gymwynas amhrisiadwy a cherddoriaeth Ynys
Môn a Chymru.
Telynorion Llannerch-y-Medd. Teulu’r
Britannia ac eraill/ The Harpers of Llannerch-y-Medd gan Huw Roberts
a Llio Rhydderch. Cyngor Sir Ynys Môn. £14.99 gan gynnwys CD.
|
|
|