Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr: "Islwyn Ffowc Elis" Dirgelwch
yr awdur
a sychodd

Pwyso a mesur cyfraniad aruthrol Islwyn Ffowc Elis


Dydd Iau, Medi 7, 2000

Y mae’r dirgelwch pam y rhoddodd nofelydd pwysicaf y cyfnod diweddar yng Nghymru y gorau i sgrifennu yn parhau.

Y diweddaraf i geisio taflu goleuni ar y mater yw y beirniad llenyddol, T Robin Chapman yn ei astudiaeth o Islwyn Ffowc Elis yn y gyfres Writers of Wales.

Anodd gor-bwysleisio dylanwad Islwyn Ffowc Elis ar y nofel Gymraeg.

Nid yn ôl nifer y nofelau a gyhoeddodd - naw, fel mae’n digwydd - y mae mesur ei gyfraniad ond ar sail ei ddylanwad nid yn unig ar ddarllenwyr ond ar sgrifenwyr eraill.

Beth ddigwyddodd i'r nofel fawr?

Fodd bynnag, cyfyngwyd ei brysurdeb mawr i’r blynyddoedd rhwng 1953 a 1961 ac y mae dirgelwch y ‘writer’s block’ a lethodd wedi hynny nofelydd mor flaengar â llwyddiannus yn un sy’n dal yn destun trafod.

Y mae rhai o’r farn i Islwyn Ffowc Elis ‘sychu’ cyn cyflawni ei wir addewid ac i Gymru golli noffel o bwys.

Yn y saithdegau yr oedd yn gweithio ar ei un nofel fawr. Ond ni welodd honno olau dydd, byth, gan beri i rai ohonom dybio; er cymaint ei gyfraniad, na chafodd Cymru y gorau allan ohono - beth bynnag y rheswm am hynny.

Y mae Robin Chapman yn datgelu iddo roi heibio’r bwriad o orffen ei nofel am Gruffydd ap Llywelyn wedi i’r Western Mail gyhoeddi, wrth son am y gwaith, enw’r prif gymeriad yn anghywir - a hynny er bod 30,000 o eiriau wedi eu sgrifennu yn barod.

Ond does bosib fod rhyw eglurhad arall hefyd?

Dywedodd Islwyn Ffowc Elis ei hun wrthyf pan oedd yn paratoi i gychwyn ar y gwaith ei fod yn anelu at i'r nofel hon am Gruffudd ap Llywelyn fod yn binacl ei yrfa lenyddol.

Anodd meddwl y byddai’n troi cefn ar y cyfan am reswm sy'n ymddangos mor ddibwys.

Hawdd ei frifo

Efallai fod awgrym arall yn nes at y gwir - ei fod yn un mor hawdd ei frifo gan feirniadaeth iddo encilio i ddiogelu ei hun rhag dod yn amhoblogaidd a than lach beirniaid.

Nid yw’n gyfrinach yr ofnai yr hyn a welai fel tuedd Gymreig i ddyrchafu pobl dim ond er mwyn eu tanseilio a’u darostwng wedyn.Tybed a welai arwyddion fod hynny ar fin digwydd iddo ef.

Mae Robin Chapman yn cyfeirio at yr hyn a ddigwyddodd fel "a case-study in writer’s block" lle mae ansicrwydd ynglyn â pha gyfeiriad i fynd yn cyfuno gyda hunan-feirniadaeth i barlysu awdur.

Bydded hynny fel y bo. Beth bynnag yr ydym wedi ei golli; nid oes gwadu arwyddocâd yr hyn a gyflawnwyd cyn y dyddiau blin. Am hynny y mae T. Robin Chapman yn talu teyrnged iddo wrth drafod mor llwyddiannus ei hyd a’i led llenyddol.

Y nofel yn well o'i herwydd

Mae’n taro’r hoelen ar ei phen pan ddywed mai y cwestiwn allweddol i’w ofyn ynglyn a gwaith Islwyn Ffowc Elis yw: A yw’r nofel Gymraeg mewn cyflwr gwell oherwydd ei ymwneud ef a hi?

Ei ddyfarniad yw i Islwyn Ffowc Elis roi anadl einioes i gyfrwng blinedig a llesg a rhoi statws i’r nofel fel rhywbeth gwir Gymraeg.

"Ar ben hynny creodd ddarllenwyr i’w waith," meddai.

"Go brin y byddai’n ormodiaeth dweud iddo ddysgu cenhedlaeth o ddarllenwyr i ddarllen yn yr iaith ffuglen ymestynedig ac, yr un mor bwysig, i feddwl am y Gymraeg fel cyfrwng addas ar gyfer menter o’r fath."

Mae’n dyfynnu R. Gerallt Jones yn dweud i Islwyn Ffowc Elis greu arddull ar gyfer y nofel a dorrodd yn rhydd o rythmau wedi eu sylfaenu ar anghydffurfiaeth Feiblaidd.

Mae Mr Chapman ei hun yn ei ddisgrifio fel "genre-bender" a enillodd enw da na welwyd ei debyg ers dyddiau Daniel Owen fel ffigur llenyddol o bwys y gellid darllen ei waith o ran pleser.

"Ni ellir dirnad tirwedd lenyddol diwedd yr ugeinfed ganrif hebddo ef," meddai.

Poblogaidd a sylweddol

Profodd, nid yn unig y gellid cyfuno poblogrwydd a sylwedd ond fe’u gwnaeth yn llawforynion.

Ym 1959 dywedodd Islwyn Ffowc Elis ei hun mai gwir gyfraniad nofelydd yw rhoi bywyd, mynegiant ac arwyddocâd i brofiadau cyffredin fel geni, priodi, marw, gwaeledd, syrthio mewn cariad a mynd i goleg.

Llwyddodd i wneud hynny ei hun. Llwyddodd hefyd i gyrraedd darllenwyr cyffredin Cymru a gwneud nofel yn rhywbeth yr oedd disgwyl mawr at weld ei chyhoeddi.

Nid molawd anfeirniadol yw traethawd Mr Chapman gan ei fod yn trafod hefyd wendidau (y byddai Islwyn Ffowc Elis yn cytuno â hwy) nofelau fel Wythnos yng Nghymru Fydd.

Wrth olrhain ei yrfa mae’n tynnu sylw hefyd at amrywiaeth y meistr hwn ar arddull s';n storiwr byr, ysgrifwr, sgriptiwr a beirniad.

Yr oedd ei nofelau yn gerrig milltir. Ac er, efallai, yn gerrig milltir ar y ffordd i rywbeth tebyg i anialwch nofelaidd yn ei achos ei hun, yn gerrig milltir a ddangosodd i eraill y ffordd i dir ffrwythlon.

Ni allwn ddiolch digon iddo am hynny.

Islwyn Ffowc Elis gan T. Robin Chapman. Writers of Wales. Golygyddion: Meic Stephens ac R. Brinley Jones. Gwasg Prifysgol Cymru. £5.99.
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy