Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cofio Saunders Lewis

Bu farw 15 mlynedd yn ôl

Dydd Iau, Awst 31, 2000
Bymtheng mlynedd i heddiw (Awst 31) bu farw Saunders Lewis, flwyddyn ar ôl marw ei briod Margaret.

"Ffarwel i’r Brenin" oedd ar y telegram o gydymdeimlad ddanfonodd Lewis Valentine ar ddydd ei gladdu ym mynwent Babyddol Penarth.

Ganed Saunders Lewis yn Wallasey. Fe’i haddysgwyd mewn ysgol breifat cyn mynd yn fyfyriwr i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl. Bu’n filwr yn Ffrainc a Groeg yn y Rhyfel Mawr cyn ail-afael yn ei efrydiau.

Fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ac yn 1926 cafodd ei ethol yn Llywydd Plaid Genedlaethol Cymru.

Llosgi'r ysgol fomio

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach fe’i carcharwyd am naw mis am ei ran yn llosgi’r Ysgol Fomio ar benrhyn Llyn. Collodd ei swydd yn Abertawe. Methodd llys yng Nghaernarfon a dod i benderfyniad a gwrandawyd yr achos yn Llundain.

Wedi ei ryddhau bu’n byw yn Aberystwyth am bron 15 mlynedd cyn ei benodi yn ddarlithydd yng Ngoleg y Brifysgol yno.

Ym 1962 traddododd ei Ddarlith Radio "Tynged yr Iaith" a roes gymaint o ysgytwad i’r genedl ac ysgogi cychwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

O bosib i'r ddarlith hon fod yn fwy o gyfraniad i barhad yr iaith Gymraeg na'i holl weithgarwch mawr fel bardd, dramodydd a beirniad llenyddol.

Neges y ddarlith

Yn y ddarlith honno yr oedd ei neges yn gignoeth o glir:

"Eler ati o ddifri a heb anwadalu i'w gwneud hi'n amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg," meddai.

"Hawlier fod papur y dreth yn Gymraeg neu yn Gymraeg a Saesneg. Rhoi rhybudd i'r Postfeistr Cyffredinol na thelir trwyddedau blynyddol oddieithr eu cael yn Gymraeg. Mynnu fod pob gwys i lys yn Gymraeg.

" Nid polisi i unigolion, un yma, un acw ar siawns mo hyn. Byddai gofyn ei drefnu a symud o gam i gam gan roi rhybudd a rhoi amser i gyfnewidiadau.

"Polisi i fudiad yw ef a'r mudiad hwnnw yn yr ardaloedd y mae'r Gymraeg yn iaith lafar feunyddiol ynddynt. Hawlio fod pob papur etholiad a phob ffurflen swyddogol yn ymwneud ag etholiadau lleol neu seneddol yn Gymraeg. Codi'r Gymraeg yn brif fater gweinyddol y dosbarth a'r sir.

"Efallai y dywedwch chi na ellid hynny fyth, na cheid fyth ddigon o Gymry i gytuno ac i drefnu'r peth yn ymgyrch o bwys a grym. 'Hwyrach eich bod yn iawn. Y cwbl a ddaliaf i yw mai dyna'r unig fater politicaidd y mae'n i Gymro ymboeni ag ef heddiw. Mi wn yr anawsterau.

Rhagweld stormydd o bob cyfeiriad

"Byddai'n stormydd o bob cyfeiriad. Fe daerid fod y cyfryw ymgyrch yn lladd ein siawns i ddenu ffatrïoedd Seisnig i'r ardaloedd gwledig Cymraeg; a diau mai felly y byddai.

" Hawdd addo y byddai gwawd a dirmyg y sothach newyddiadurwyr Saesneg yn llaes feunyddiol. Byddai dig swyddogion yr awdurdodau lleol a llawer cyngor sir yn ail i'r bytheirio a fu yn Nosbarth Gwledig Llanelli.

"Byddai'r dirwyon yn y llysoedd yn drwm, ac o wrthod eu talu byddai'r canlyniadau'n gostus, er nad yn fwy costus nag ymladd etholiadau seneddol diamcan.

"Nid wyf yn gwadu na byddai cyfnod o gas ac erlid a chynnen yn hytrach na'r cariad heddychol sydd mor amlwg ym mywyd politicaidd Cymru heddiw. Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru.

'Iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth'

"Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Efallai y dygai'r iaith hunan-lywodraeth yn ei sgil: 'wn i ddim. Mae'r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth.

"Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr."

Y mudiad a ymffurfiodd yn sgîl y geiriau hyn oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gwelwyd blynyddoedd o ymgyrchu blin a charcharu wedyn.

Anrhydeddwyd Saunders Lewis gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chan y Pab Pawl VI ond methiant a fu ymgais i ddyfarnu iddo Wobr Nobel am lenyddiaeth.

Gadawodd yn waddol ddau ddwsin o weithiau, o "Gwaed yr Uchelwyr" ym 1922 hyd at "Dramau’r Parlwr" ym 1975.

Llun: Yr enwocaf o'r lluniau o Saunders Lewis - ar y dde - gyda D. J. Williams a Lewis Valentine yn dilyn llosgi'r Ysgol Fomio.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy