麻豆约拍


Explore the 麻豆约拍

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆约拍 麻豆约拍page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Estyn yr haul Cyfoeth o Benfro

Adolygiad o
Estyn yr Haul


Hefyd: Rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau
Dydd Iau, Medi 7, 2000

I fynd yn syth i'r rhestr o lyfrau newydd cliciwch yma


Adolygiad o Estyn yr Haul
Golygydd: Eirwyn George


Y mae Sir Benfro yn sir gyfoethog ei ll锚n.

Magodd nifer dda o feirdd sy鈥檔 enwau cyfarwydd. O gofio mai mewn llai na hanner y sir y siaredir Cymraeg mae ei chyfraniad i farddoniaeth Gymraeg yn sylweddol. Er hynny nid bob amser y cofir am gyfraniad sgrifenwyr rhyddiaith y sir hardd ac amrywiol hon.

Casgliad o ryddiaith gan blant y sir - a rhai fu yno鈥檔 byw yno am gyfnodau - yw鈥檙 gyfrol Estyn yr Haul a olygwyd gan y prifardd Eirwyn George.

Cyfraniad gwybodus a gwerthfawr

Mae ei ragymadrodd ef yn gyfraniad gwybodus sy鈥檔 bwrw golwg gwerthfawr dros draddodiad llenyddol y sir - y cysylltiadau 芒鈥檙 Mabinogi, Bucheddau鈥檙 Saint, Gerallt Gymro - sy鈥檔 codi awydd am wybod a darllen mwy.

Mae鈥檔 sir gyfoethog ym maes ll锚n gwerin, hefyd.

Syndod canfod i Edgar Phillips (罢谤别蹿卯苍) ddarlledu, o bryd i鈥檞 gilydd, 50 o sgyrsiau radio am gannwyll corff. Trueni na fu modd cynnwys cyfraniad gan 罢谤别蹿卯苍 yn y gyfrol.

Tafodiaith swynol

Mae hefyd yn sir ag iddi dafodiaith swynol ac eithafol, er i Eirwyn George yn osgoi unrhyw demtasiwn i gynnwys yr un stori na鈥檙 un ysgrif dafodieithol yn y gyfrol.

Dyma sir fawr y straeon celwydd golau ac y mae enwau fel Shemi W芒d a Daniel y Pant yn dal yn fyw ar gof yr hen a鈥檙 ifanc - er na cheir yr un enghraifft o鈥檙 math yna o stori yn y gyfrol 鈥檆hwaith.

Daw teitl y gyfrol o un o gerddi nodedig Waldo Williams, "Preseli" lle mae鈥檔 s么n am dyddynwyr bro ei febyd yn "estyn yr haul i鈥檙 plant" ym mhob tywydd.

Ie, y Preseli - "darn o wlad iawn at dyfu gwerinwr" fel y dywed T. E. Nicholas yn y darn o鈥檌 atgofion am Pentregalar.

Niclas (1878 - 1971) yw鈥檙 "hynaf" o鈥檙 cyfranwyr. Ceir ganddo atgofion am oes pan anfonid Saeson i "addysgu" yn ysgolion cynradd gwlad oedd yn uniaith Gymraeg.

Ddysgodd Niclas ddim yn yr ysgol nes ei fod yn 12 oed, meddai - ond cafodd addysg a diwylliant ar aelwyd Y Llety.

Yno y cafodd y pleser o glywed ei dad yn darllen pregethau, barddoniaeth Mynyddog a Baner ac Amserau Cymru i deulu astud.

Dau Ddyn Dwad

Dyn dwad oedd Dewi Emrys - fe鈥檌 ganed yng Nghei Newydd - ond 芒 Sir Benfro a Phencaer y cysylltir ei enw. Yno, uwchben Pwllderi, y saif ei gofeb.

Mewn cyfrol ddarllenadwy o Ysgrifau a gyhoeddwyd yn 1937 yr ymddangosodd cyfraniad Dewi i Estyn yr Haul. Ysgrif, sydd hefyd yn dipyn o stori, yw "Jac".

Doniol, annwyl am y ci aeth i bob math o drafferthion i fynd i oedfa fore Sul.

Dyn dwad oedd D. J. Williams hefyd, ond D.J. Abergweun oedd e i bawb o鈥檌 gydnabod. Yr oedd yn feistr ar y stori fer a chynhwysir un o鈥檌 gampweithiau yn y gyfrol.

Mae i鈥檙 gyfrol sawl cyfraniad sy鈥檔 cysylltu 芒鈥檌 gilydd.

Mae atgofion Dillwyn Miles o D.J. fel athro Saesneg ysbrydoledig a charedig ond parod i estyn bonclust i ddisgybl anystywallt yn ddadlennol a diddorol.

Ceir portread o hen ffarier o Geredigion gan Emrys Rees, un arall a ymsefydlodd yn Abergwaun er yn enedigol o Sir Aberteifi.

Portread cyhyrog a hwyliog.

Mae yma stori gan Waldo Williams, er bydd sawl un yn cael ei arwain i gredu ei fod llawer gwell bardd nag o awdur storiau.


Ac yn awr dyma restr Cyngor Llyfrau Cymru o'r cyfrolau diweddaraf i gyrraedd y siopau.



LLYFRAU CYMRAEG A DWYIEITHOG

A 'BOOK OF MAD CELTS': Marion L枚ffler 1859028969 Gwasg Gomer 拢7.95 Llyfr dwyieithog yn adrodd hanes John Wickens a Chyngres Geltaidd Caernarfon 1904.

BYGI-BYTIS: FY LLIWIAU:
1855964449 Dref Wen 拢2.99 Llyfr gair-a-llun i blant dan 5 oed i'w gysylltu wrth fygi.

BYGI-BYTIS: FY RHIFAU:
1855964430 Dref Wen 拢2.99 Llyfr gair-a-llun i blant dan 5 oed i'w gysylltu wrth fygi.

CERDDI CWRS Y BYD:
Wynne Ellis 1900437406 Cyhoeddiadau Barddas 拢7.95 Cyfrol o gerddi dychanol am fyd y beirdd.

CERDDI'R TROAD - BARDDONIAETH NEWYDD I'R MILENIWM: Gol. Dafydd Rowlands 1859028179 Gwasg Gomer 拢7.95 Cerddi gwreiddiol gan feirdd cyfoes wedi eu hysgrifennu i ddathlu'r mileniwm.

CEWRI CAMPAU CYMRU: Gol. Alun Wyn Bevan 1859028217 Gwasg Gomer 拢8.95 Llyfr yn llawn lluniau a hanesion am enwogion byd chwaraeon yng Nghymru.

COFIO HANNER CANRIF - HANES MUDIAD EFENGYLAIDD CYMRU 1948-98: Noel Gibbard 1850491739 Gwasg Bryntirion Press 拢9.95 Cyfrol yn dathlu hanner can mlynedd o'r Mudiad Efengylaidd yng Nghymru.

CUR Y NOS:
Geraint V. Jones 0863816495 Gwasg Carreg Gwalch 拢7.00 Nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000.

CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU LLANELLI 2000: 0953855406 Llys yr Eisteddfod (De) 拢4.50 Cynnyrch llenyddol buddugol a beirniadaethau'r Eisteddfod.

CYFRES BARA'R BYWYD: 36. EFENGYL IOAN: Edmund Owen 1850491720 Gwasg Bryntirion 拢1.95 Esboniad byr, syml ar gyfer pob dydd o'r mis.

CYFRES CELF CYMRU 2000: ANEURIN: Gol. Emyr Llywelyn 086243534X Y Lolfa 拢19.95 Llyfr o waith Aneurin Jones.

CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: ANTHEM GENEDLAETHOL, YR / THE NATIONAL ANTHEM:
Aeres Twigg 1859028853 Gwasg Gomer 拢1.95 Hanes yr Anthem Genedlaethol, gyda nifer o luniau lliw. Llyfr dwyieithog.

CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: DDRAIG GOCH, Y / THE RED DRAGON: Aeres Twigg 1859028861 Gwasg Gomer 拢1.95 Hanes cefndir mabwysiadu'r ddraig goch yn symbol cenedlaethol. Llyfr dwyieithog.

CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: SOSBAN FACH:
Aeres Twigg 185902887X Gwasg Gomer 拢1.95 Hanes y g芒n rygbi enwog. Llyfr dwyieithog.

CYFRES LLYFFANTOD: VIVA CYMRO!:
Meinir Pierce Jones Darl. Elwyn Ioan 185902713X Gwasg Gomer 拢4.95 Stori wedi'i gosod yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ferch ifanc o Batagonia.

CYFRES Y CYMOEDD: CWM GWENDRAETH: Gol. Hywel Teifi Edwards 1859028918 Gwasg Gomer 拢13.95 Cyfrol yn olrhain hanes y cwm lle cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2000.

ELFED - CAWR AR GOESAU BYR: Ioan Roberts 0862435277 Y Lolfa 拢5.95 Cyfrol goffa i Elfed Lewis y baledwr.

FFRINDIAU: Rob Lewis Addas. Helen Emanuel Davies 1859028578 Gwasg Gomer 拢5.50 Llyfr lliw-llawn yn adrodd stori am ffrindiau; ar gyfer plant dan 7 oed.

GYDA'R GODRE: Tecwyn Ellis 0000870684 Tecwyn Ellis 拢7.50 Atgofion yr awdur, sydd yn hanu o鈥檙 Bala.

IESU'R IDDEW A CHYMRU 2000: Pryderi Llwyd Jones 0862435439 Y Lolfa 拢6.95 Cyfrol gan weinidog adnabyddus, yn cyflwyno Iesu i ni heddiw.

Y LLAFN GOLAU:
Vernon Jones 185902873X Gwasg Gomer 拢4.95 Cyfrol o gerddi newydd, teimladwy gan y bardd o ardal Aberystwyth.

LLYFRAU LLAFAR GWLAD:46. 'FYL'NA WEDEN I鈥: Huw Evans, Marian Davies 0863816304 Gwasg Carreg Gwalch 拢4.25 Blas ar dafodiaith canolbarth Ceredigion.

NEWID AELWYD - LLYFR 5 O HELYNTION TOMOS A MARGED:
W.J. Gruffydd Darl. Tegwyn Jones 1859028276 Gwasg Gomer 拢4.95 Straeon am y cymeriadau poblogaidd oddi ar y gyfres ar Radio Cymru.

NOFELAU NAWR: CADWYN O FLODAU: Sonia Edwards 1859028632 Gwasg Gomer 拢3.50 Nofel i ddysgwyr am Lia, sydd wedi ei chaethiwo mewn priodas anhapus.

O HENDREFIGILLT I LIVORNO: T. Gwynfor Griffith 1859028195 Gwasg Gomer 拢9.95 Hanes Llewelyn Lloyd, un o artistiaid pwysicaf Cymru a'r Eidal.

OWAIN A'R ROBOT: Ian Whybrow Addas. Emily Huws Darl. Adrian Reynolds 1859028594 Gwasg Gomer 拢4.50 Stori ddifyr i blant dan 7 oed.

PAWB GYDA'I GILYDD: Rob Lewis Addas. Helen Emanuel Davies 1859028586 Gwasg Gomer 拢5.50 Llyfr lliw-llawn yn adrodd stori; ar gyfer plant dan 7 oed.

RHUBAN GLAS, Y - GWOBR GOFFA DAVID ELLIS 1943-2000: R. Alun Evans 1859028942 Llys yr Eisteddfod (De) 拢4.95 Hanes y Rhuban Glas, a nodiadau ar bob un a鈥檌 enillodd rhwng 1943 a 2000.

RHUBANAU DUR / RIBBONS OF STEEL: Jon Dressel, T. James Jones 1859028896 Gwasg Gomer 拢5.00 Cerdd wedi'i hysgrifennu ar y cyd gan y ddau fardd i ddathlu Eisteddfod Llanelli.

STOR脧AU'R TROAD - RHYDDIAITH NEWYDD I'R MILENIWM: Gol. Manon Rhys 1859028039 Gwasg Gomer 拢9.95 Deunaw o stor茂au byrion gan awduron cyfoes yn trafod dathlu'r mileniwm.

SWS I SEREN: Phyllis Root Addas. Meinir Pierce Jones Darl. Will Hillenbrand 1859028810 Gwasg Gomer 拢5.50 Rhaid i Cadi Mai roi sws i Seren y fuwch hud i ddiolch am ei llaeth melys.

TRI MOCHYN BACH: Eirug Wyn 0862435536 Y Lolfa 拢5.95 Cyfrol y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000.

LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU

THE ADVENTURES OF A ROMANTIC:
Bernard Jay 1873827504 Logaston Press 拢9.95 Stori am y gwrthgyferbyniad rhwng henoed ac ieuenctid, ffantasi a realiti.

CELTIC POETS, THE - SONGS AND TALES FROM EARLY IRELAND AND WALES:
Trans. Patrick K. Ford 0926689053 Ford & Bailie, Publishers 拢15.00 Casgliad o gerddi o'r Canol Oesoedd, gyda chyfieithiadau.

CELTIC TRAIL, THE - WEST - SWANSEA TO FISHGUARD / L脭N GELTAIDD - GORLLEWIN - ABERTAWE I ABERGWAUN: 1901389138 Automobile Association 拢5.99 Map ac arweinlyfr i'r l么n feiciau o Abertawe i Abergwaun.

LITTLE BLUE GROWS UP - A STORY FROM DRAGON KINGDOM:
Sandra Alich Storr Ill. Oliver Mundy 0953878503 Preserves and Books 拢4.95 Stori am deulu o ddreigiau sydd yn byw ar fwyd dreigiau hudol iachus iawn!

GRACE, GRIT AND GUMPTION - SPIRITUAL REVIVAL IN SOUTH WALES: Geraint Fielder 1857925009 Gwasg Bryntirion Press 拢6.99 Hanes John Pugh, Seth Joshua a Frank Joshua.

HOPPERS SERIES: LOOKING FOR CYMRO: Meinir Pierce Jones Trans. Ann Saer Ill. Elwyn Ioan 1859027628 Pont Books 拢4.95 Stori wedi'i gosod yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ferch ifanc o Batagonia.

THE LABOUR PARTY IN WALES 1900-2000: Eds. Duncan Tanner, Chris Williams, Deian Hopkin 0708315860 Gwasg Prifysgol Cymru 拢35.00 Cyfrol ar hanes y Blaid Lafur yng Nghymru, ar achlysur ei chanmlwyddiant.

MORE WALKS ON THE CLWYDIAN HILLS:
David Berry 1902302109 Kittiwake 拢3.95 Pymtheg o deithiau cerdded yn ardal Bryniau Clwyd.

REJOICE IN YOUR OWN WORKS:
Ange S. Vlachos Trans. John Fitzgerald Ill. Paul S. Vlachos 1898685312 Philomel Productions Limited 拢9.99 Cyfrol o fyfyrdodau mewn pump o ieithoedd gwahanol.

REMINISCENCES OF WALES 1924-1942:
Nathan Hughes 0970315406 Welsh Dragon Publishing 拢15.00 Atgofion yr awdur, sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau.

WELSH CASTLES - A GUIDE BY COUNTIES:
Adrian Pettifer 0851157785 Boydell and Brewer 拢25.00 Arweinlyfr i gestyll Cymru fesul sir, gyda hanes byr pob un.

THE WELSH SALE:
0000873012 Sotheby's 拢2.00 Manylion yr eitemau a werthwyd mewn ocsiwn ym Mharc Margam, 19 Hydref 1999.

WILD BRITAIN - A TRAVELLER'S GUIDE:
Douglas Botting 1873329318 Sheldrake Press 拢12.50 Arweinlyfr yn cynnwys lluniau lliw-llawn, diagramau a mapiau.

WOMEN AND GENDER IN EARLY MODERN WALES:
Eds. Michael Roberts, Simone Clarke 070831550X Gwasg Prifysgol Cymru 拢14.99 Cyfrol yn trafod profiadau cymdeithasol a diwylliannol merched yng Nghymru.

Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy