|
|
Gawn
ni'n llyfr yn ôl
Parhau'r
ymgyrch am Lyfr Teilo
Dydd Iau, Awst 31, 2000 |
Cylchgrawn
yr Wythnos
Yr ymdrech ganmoladwy i gael Llyfr Teilo yn ôl i Gymru sydd
yn cael y prif sylw yn y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn Cambria.
Mae hon yn ymgyrch sy’n haeddu’n cefnogaeth.
Efallai i’r ymateb fod braidd yn llugoer hyd yn hyn oherwydd nad yw’r
rhan fwyafl wedi sylweddoli gwir arwyddocâd y trysor gwych a rhyfeddol
hwn.
Nid yn unig y mae yn arbennig o gain ond y mae ynddo yr enghraifft
gynharaf o’r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio ar bapur.
Mae’r cyhoeddiad hanesyddol. Fodd bynnag, nid yn niogelwch Cymru ond
yn Litchfield yn Lloegr a dyna pam mai wrth yr enw The Litchfield
(neu Chad) Gospels y’i hadnabyddir yn gyffredinol.
Er mai Lladin yw’r geiriau y mae cytundeb ymhlith ysgolheigion mai
llaw Gymraeg a’u sgrifennodd. Arddull Gymreig sydd iddyn nhw.
Yn bwysicach na'r testun ei hun, y mae nodyn cyfreithiol ymyl-y-ddalen
lle gwelir y Gymraeg yn cael ei defnyddio.
Cartref y gwaith cyn iddo gael ei gludo i Litchfield oedd eglwys
Llandeilo Fawr
Hyn oll yn peri i ysgolheigion ddadlau mai enw cywirach na’r Litchfield
Gospels fyddai The Teilo Gospels.
A daw hynny a ni at yr ymdrechion presennol i berswadio’r awdurdodau
yng Nghadeirlan Litchfield i ddychwelyd Llyfr Teilo i Landeilo, ei
gartref go iawn.
Yno yr oedd o yn y flwyddyn 1000AD gyda’r nodyn-ymyl-y-ddalen a ddyddiai
o’r nawfed ganrif yn dystiolaeth gynnar iawn o drafodaeth gyfreithiol
Gymraeg.
Prawf, meddir, fod yr iaith Gymraeg yn un oedd yn cael ei harfer ar
bapur gryn dipyn cyn hyn.
Y mae’n drysor felly mor arwyddocaol i’r Cymry a Maen Scone i’r
Albanwyr.
"Nawr ein bod yn gwybod mai ni biau’r Efengylau fe hoffem eu cael
yn ôl," meddai Rhodri Pugh yn Cambria - lle yr atgynhyrchir
mewn lliw ddalennau sy’n dangos hen gelfyddyd sydd heb ei hail mewn
ceinder a chymhlethdod artistig.
Camp y gerddi
Camp fodern yr un mor gain yn ei ffordd ei hun yw’r Gerddi Botanegol
Cenedlaethol yn Llanarthne sydd ond megis tafliad carreg o eglwys
Llandeilo.
Mae Cambria yn holi Dan Clayton-Jones, cadeirydd ymddiriedolwyr y
fenter ryfeddol hon a agorwyd yn gynharach eleni.
Napoli Cymru
Wn i ddim faint o Eidalwyr sy’n disgrifio Napoli fel Dinbych
y Pysgod yr Eidal ond y mae Richard Keen yn fodlon disgrifio "Tenby"
fel "The Naples of Wales".
Daw’r geiriau o hysbyseb yn 1921.
Ond y mae’n ychwanegu: "Fodd bynnag, nid yw Dinbych y Pysgod angen
cymhariaethau, y mae iddo ei fri ei hun."
Cylchgrawn yw Cambria sy’n tynnu sy’n tynnu sylw at bob agwedd o fywyd
Cymru ochr yn ochr a lluniau - postcardaidd eu natur - fel rhai John
Keates a dynnwyd ar lannau afonydd Tâf a Thywi.
Dydi hi ddim yn hawdd dweud at bwy y mae'n cael ei anelu. Cyfuniad
o ymwelwyr a dosbarth canol sy'n ymddiddori mewn hanesyddiaeth. Mae
tinc o'r cylchgronnau hynny a roddir am ddim ar awyrennau neu a gynhyrchir
gan gyrff fel awdurdodau datblygu gydag adroddiadau am gynnyrch a
phethau Cymreig.
Mae tuedd i'r newyddiaduraeth - onibai am eithriadau nodedig fel Guto
Harri - wisgo gwisg 'adroddiadau' swyddogol.
Cambria - Cylchgrawn Dros Gymru. Cyfrol 3. Rhif 5. Canol haf 2000,
£2.95
|
|
|