|
|
Rhwng
cariad
a'r gwn
Brwydr
y canrifoedd rhwng heddwch a heddychiaeth
Dydd Iau, Gorffennaf 27, 2000
|
Bu
gwybod sut i ymateb i ryfel yn broblem i’r eglwys ers ei dyddiau cynnar.
Daeth yn fwy o broblem gyda threigl y canrifoedd.
Gellid maddau i rywun sy’n edrych o’r cyrion am feddwl nad felly y
dylai hi fod.
Bydd y gyfrol Llais Tros Ddyfodol Byd - Seiliau Diwinyddol Heddychiaeth
o gymorth mawr, felly, i grisialu pethau.
Mae’r awdur, E.R. Lloyd-Jones, yn edrych gyda manylder ar heddychiaeth
o safbwynt y Cristion gan olrhain y gwahanol safbwyntiau a amlygodd
eu hunain dros y canrifoedd.
Nid yn unig y mae’n edrych ar heddychiaeth o safbwynt dysgeidiaeth
Crist ond hefyd yn edrych ar ddylanwad dysgeidiaeth yr Hen Destament.
Y mae’n olrhain ddehongliad diwinyddol gwahanol Gristnogion o ddyddiau’r
Eglwys Gynnar hyd y dydd heddiw.
Y Rhyfel Mawr - Cristnogion yn anghydweld
Darlunia’r anhawster sy’n wynebu’r Cristion trwy sôn am y ddau safbwynt
gwahanol oedd yna ymhlith Cristnogion tuag at y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yr un fu’r problemau gyda rhyfeloedd eraill.
Y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, yn annog bechgyn ifainc
i ymuno â’r fyddin er mwyn trechu gormes yr Almaen ond Thomas Rees,
Bangor, yn dadlau na ddylai fod gan yr eglwys unrhyw ran o gwbl
mewn ymladd a thrais beth bynnag yr achos.
Safbwynt John Williams, fel un sawl Cristion ar ei ôl, oedd: mai
eiddo Duw yw grym a bod gan ddyn felly yr hawl i’w ddefnyddio er mwyn
amddiffyn cyfiawnder.
"Nid yw cenhedlaeth gyfan yn ormod o bris i’w dalu am gyfiawnder,"
meddai wrth amddiffyn ei safbwynt.
Dadleuai Thomas Rees, ar y llaw aral: fod rhyfel "yn groes i’r
union beth y mae’n honni ei ddiogelu" ac o’r herwydd yn anghyfiawn.
Unwaith eto, gellid maddau i’r sawl sydd ar gyrion Cristnogaeth am
feddwl fod safbwynt Thomas Rees mor syml â chlir ei resymeg na ddylai
fod anhawster o gwbwl ei goleddu.
Sut, yn enw popeth, y gellid cyfiawnhau defnyddio anghyfiawnder
i ddiogelu cyfiawnder.
O na byddai hi felly.
Y syniad o Ryfel Cyfiawn
Yn cymhlethu’r ddadl hon ym meddwl sawl un y mae’r syniad o Ryfel
Cyfiawn. Yn syml, y ddadl yw fod yna rai pethau sydd mor ofnadwy o
ddrwg y gellir cyfiawnhau defnyddio grym milwrol a lladd i’w hatal.
Yr oedd Hitler yn un y gellid cyfiawnhau mynd i ryfel i’w rwystro.
Yn fwy diweddar deyrn gel Gadaffi a Saddam.
Mae E. R. Lloyd-Jones yn mynd i’r afael a’r holl ddadleuon hyn gan
nodi fod safbwynt yr eglwys gynnar "yn heddychlon-ddiamod."
Dim ond wedyn y llwyddodd dyn i dymheru ei safbwynt hwnnw i gydfynd
a’i amgylchiadau ei hun.
Daeth y Cristion i gyflwr y gallai gyfiawnhau rhyfel trwy "haeru ei
bod yn rhesymol disgwyl iddo (h.y. rhyfel) adael mwy o dda nag o ddrwg
ar ei ôl."
Dim ond pan yw dyn yn defnyddio mwy o rym nag sydd ei angen i’w amddiffyn
ei hyn y mae’r trais yn anghyfiawn a phan fo ei filwrio yn ymosodol
yn hytrach nag yn amddiffynnol.
Pan ddaeth arfau niwclear
Dengys E. R. Lloyd-Jones sut y cymhlethwyd y ddadl gyfleus a diddig
hon fwyfwy gyda dyfodiad arfau niwclear a chanddynt y gallu i ddinistrio
dyn a’i fyd.
O ddarllen y gyfrol mae rhywun yn sylweddoli’n fuan nad yw’r holl
dindroi ac ystumio ymenyddol yn tanseilio mewn unrhyw ffordd ddamcaniaeth
yr heddychwr pur.
"Dadl yr heddychwr yw fod rhyfel yn defnyddio moddion sy’n groes i’r
diben. Pan ddywedir bod rhyfel yn rhywbeth y mae cariad yn gofyn amdano,
rydym yn dweud fod cariad yn gofyn am rywbeth sy’n groes i’w hanfod
ei hunan," eglura E. R. Lloyd-Jones.
I aralleirio T. H. Parry-Williams does dim dianc rhag hyn ac y mae’n
dda inni gael ein hatgoffa gan E. R. Lloyd Jones o’r hyn a ddywedodd
Gandhi; nad methiant heddychiaeth a welsom dros y canrifoedd o
ryfel ond methiant trais "am na roesom gyfle i heddwch."
Da hefyd inni gael ein hatgoffa fod sawl gwahanol math o ryfel yn
amrywio o rai arfog i rai economaidd a’u bod i gyd yn fygythiad i
gyfiawnder.
Dim ond cariad all fod yn drech na hyn. Sut mae argyhoeddi pobl
i'w ddefnyddio yw’r cwestiwn nad ydym wedi cael ateb iddo hyd yn hyn.
Llais Tros Ddyfodol Byd - Seiliau Diwinyddol Heddychiaeth gan
E. R. Lloyd-Jones. Gwasg Pantycelyn. £4.95.
Cliciwch yma
er mwyn mynd yn syth i'n rhestr o lyfrau sydd newydd eu cyhoeddi.
|
|
|