Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Pysgotwraig o fri ar glawr The Field Mae'r wlad
mewn rhyfel!

Cylchgrawn am waed
Tony Blair a'i Lywodraeth

Dydd Iau, Gorffennaf 27, 2000
Cylchgrawn yr wythnos: The Field

Mae’n rhyfel.


"Yr oeddem ni i gyd yn gwybod ein bod yn ymladd yr anfad a’r ysgeler ac yr oedd hynny’n sbardun."

Er mai "Ychydig" y Battle of Britain ²â·É’r ni yn y dyfyniad hwn; y mae’r geiriau’n berthnasol i’r hyn y mae The Field yn ei weld yng nghefn gwlad gwledydd Prydain heddiw.

Ac i’r Field ²¹â€™i Ychydig o ddarllenwyr, Tony Blair ²¹â€™i Lywodraeth ²â·É’r Hitler a’r Drydedd Reich newydd.

"Pe byddwn i’n cyfarfod Blair byddwn yn dweud wrtho; ‘Dos ac edrych yn iawn ar dy hun, was. Iti gael gweld beth wyt ti’n ei wneud.’

"Dydw i ddim yn recno fod Blair yn Brydeiniwr a phe byddwn yn ei weld byddwn yn gofyn iddo pa waed arall sydd ganddo achos mae o’n gwerthu popeth. Pe gallai, byddai’n gwerthu hyd yn oed yr awyr yr ydym yn ei hanadlu i’r blydi fforinars’, meddai Robert Staley sy’n ffermio Bannau Brycheiniog ger y Gelli Gandryll.

Bygwth torri'r gyfraith

Yn y gwraidd, yr hyn sydd wedi gwylltio Mr Staley ac eraill yng nghefn gwlad yw agwedd Mr Blair ²¹â€™i Lywodraeth tuag at hela.

Mae’r gwladwyr hyn mor gacwn maent yn bygwth torri’r gyfraith mewn protest ac yn cymharu eu hunain a’r hen syffrajets.

"Os caf i fy arestio am farchogaeth o gwmpas yn dilyn haid o gwn yna rwy’n credu fod hynny’n wiriondeb llwyr. I be ydan ni’n dod," meddai gwrthwynebydd arall gan adlewyrchu barn y Field yn gyffredinol.

Fel mae ei enw’n awgrymu, cylchgrawn i drigolion cefn gwlad yw The Field.

Ond nid yr hen yd y wlad y cefais i fy magu yn eu plith oedd yn anelu'r ganan at ambell i gwningen neu ffesant ac yn meddwl fod poeri sug baco dros freichiau noeth yr hogia yn hen hwyl iawn ond yr yd heibrid hwnnw sy’n byw mewn palasau y mae eu lluniau yn atgoffa rhywun o bostcards gwyliau yn hysbysebion yr amryfal werthwyr ystadau sy’n cefnogi’r cylchgrawn.

Disgwyl miliwn o brotestwyr

Ac mae nhw yn gandryll wrth weld eu ffordd o fyw yn newid.

"Will Prisons be filled with Country Folk?" holir ym mhennawd un erthygl.

"We are ready to mobilise," meddai pennawd llith y golygydd, Jonathan Young, sy’n gobeithio y bydd y 300,000 a fynychodd orymdaith ddiwethaf y Countryside Alliance trwy Lundain wedi tyfu’n filiwn erbyn y tro nesaf.

"Y tro hwn rhaid iddo fod yn filiwn a rhaid iddynt gael eu cyfrif gan dri arolygwr annibynnol fel na all y Â鶹ԼÅÄ chwarae’r nifer i lawr," meddai.

Dywed ef nad oes gan y Llywodraeth barch o gwbl tuag at y lleiafrif gwledig sydd eisiau hela’r llwynog a mwynhau yr hyn sy’n cael eu galw’n chwaraeon cefn gwlad.

A rhag bod unrhyw gamargraff nid gwneud campiau efo genethod del yng nghlydwch peraroglus teisi gwair ar eu hanner yw chwaraeon cefn gwlad i’r rhain ond hela gyda meirch, cwn a gynnau cain unrhyw beth o lwynog i eog o ffesant i garw.

Sbas a vegans

Eu gelynion, ar wahân i Mr Blair, yw giwed trefol y cyfeirir atynt fel Sabs (saboteurs) a "bunch of vegans" sy’n dangos mwy o barch at anifeiliaid nag at feistri tir a'u ffordd o fyw a hela.

Dim rhyfedd eu bod yn chwilio am ysbrydoliaeth ymhlith Bechgyn Brylcream llu awyr yr ail Ryfel Byd a’r rhai hynny sy’n dal i ymladd brwydrau y cavaliers a’r pengryniaid gan ailfyw'r gorffennol yn nillad yr ail ganriar bymtheg.

Yr Hen Gant

Yn sbardun hefyd y mae’r Hen Gant ei hun, y Fam Frenhines gydag erthygl arbennig yn dartgleu pysgotwraig mor ddeheuig oedd hi yng nglesni'i dyddiau a llun ohoni gyda slaff o eog ar fachyn.

"HM The Queen Mother, a true Country Lady," meddan nhw.

Ei "leg problem" a phall ar ei golwg, meddai'r Field, a'i gorfododd i hongian ei wedars a rhoi’r gorau iddi.

Yr ofn yw y bydd yr hen goes arall, Tony Blair, yn eu gorfodi i gyd i wneud felly yr un modd. . .

The Field. Awst 2000. £3.10.

Cliciwch yma
er mwyn mynd yn syth i'n rhestr o lyfrau sydd newydd eu cyhoeddi.
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy