Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Trysorau
ar goll
yng
ngholofnau'r
wasg

Dydd Iau, Gorffennaf 20, 2000
Dadwneud cam a wnaed â’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru y mae’r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres Saesneg ragorol, A Guide to Welsh Literature.

Rhoddir chwip din iawn gan Hywel Teifi Edwards i’r rhai hynny a fu’n swcro’r syniad fod y ganrif honno yn un sy’n sarnu ac yn anharddu’r traddodiad llenyddol Cymraeg.

Fel golygydd, A Guide to Welsh Literature c.1800-1900 Volune V dywed Hywel Teifi Edwards i "gorff arwyddocaol o lenyddiaeth a sgrifennwyd yn wyneb amgylchiadau torcalonnus iawn" gael ei esgeuluso gan feirniaid llenyddol oherwydd y meddylfryd hwn.

Yn ei ragarweiniad i’r gyfrol y mae o’n disgrifio sgrifenwyr Cymraeg y cyfnod yn gwarchod eu Rorke’s Drift llenyddol yn wyneb ymosodiadau beirniaid blaenllaw y dydd y naill ochr a'r llall i Glawdd Offa.

Dywed fod y gyfrol hon yn cyflwyno cyfres o safbwyntiau ynglyn â pha gyfrif ohonynt eu hunain a roddodd rhai sgrifenwyr, ynghyd â sefydliadau arwyddocaol fel y wasg a’r Eisteddfod, yn y frwydr.

Bydd rhai yn synnu gweld "y wasg" yn cael ei chynnwys yn y rhestr hon ond y mae hynny yn cael mwy na’i gyfiawnhau mewn erthygl ddadlennol a diddorol gan Aled Jones sy’n bennaeth yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Y mae o’n ei chael yn hawdd iawn cyfiawnhau cynnwys y wasg - Saesneg a Chymraeg - mewn unrhyw drafodaeth ar gyflwr llenyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

"Cyfrannodd rhai o sgrifenwyr gorau a mwyaf dylanwadol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru . . . yn sylweddol i’r wasg rad wythnosol, a dyddiol,"(yn y Gymraeg a’r Saesneg)," meddai.

Ychwanega fod llawer o’r gweithgarwch llenyddol rhyfeddol hwn yn parhau ar goll i ni heddiw yn y pum cant o bapurau newydd a gyhoeddwyd yn ystod y ganrif.

"Y mae ynddynt, lenyddiaeth y bobl wedi ei gladdu," meddai.

Camgymeriad, meddai fyddai peidio ag ystyried y cyfraniadau hyn i bapurau newydd yn llenyddiaeth.

"Yr oedd papurau newydd Cymraeg, felly, yn cael eu gwerthfawrogi’n feirniadol gan eu cyfoeswyr fel ffurf ar lenyddiaeth ac yr oeddent yn destun trafodaeth yn ogystal â bod yn bethau i’w darllen," meddai.

Un peth diddorol iawn am y cyfraniadau hyn yw mai prin iawn yw’r wybodaeth am eu hawduron.

Hynny, i raddau helaeth, oherwydd tuedd y cyfnod i sgrifennu dan ffugenw.

Y mae Aled Jones yn awgrymu sawl math o ymchwil buddiol:

Pwyso a mesur ‘nofelau’ oedd yn cael yn cael eu cyhoeddi bob yn bennod wythnosol
Pwyso a mesur colofnau barddol
Archwiliad o sgrifennu tafodieithol
Arolwg o deyrngedau marwolaeth
Arolwg o lythyrau darllenwyr
Arolwg o ddeunydd oedd yn cael ei godi o’r wasg Lundeinaidd a’r wasg Americanaidd.

Mor ddiddorol ac mor werthfawr fyddai cyflawni hyn mae rhywun yn teimlo fel gweiddi hei ati wrth fyfyrwyr ymchwil sy’n gwastraffu eu hamser ar bethau llawer mwy diwerth.

Cyfranwyr y gyfrol

Gan gynnwys Aled Jones a golygydd y gyfres, Hywel Teifi Edwards, y mae naw i gyd yn cyfrannu:

Yn eu plith y mae’r diweddar R. Gerallt Jones.

Cyhoeddir ei gyfraniad olaf ef cyn ei farwolaeth, astudiaeth o Emrys ap Iwan - dyn meddai a oedd gymaint o flaen ei oes nad yw rhai o’i gysyniadau yn ddealladwy i bawb hyd yn oed heddiw.

Ond "yr oedd," meddai, "yn feddyliwr treiddgar, herfeiddiol, digyfaddawd a gonest yn hytrach nag yn un cymhleth."

Er cymaint o ddyrchafu fu yna ar Emrys ap Iwan ymhlith cenedlaetholwyr diweddar y mae R. Gerallt Jones wrth gau pen y mwdwl yn arwyddocaol:

" …safai ar ei ben ei hun yn ystod ei gyfnod ac ni all rhywun ond synio tybed a fyddai’n teimlo rywfaint yn llai unig pe byddai byw yn awr."

Y cyfraniadau eraill yn y gyfrol dreiddgar a diddorol hon yw:
Y Bardd Steddfodol gan Hywel teifi Edwards
Gwilym Hiraethog gan Ioan Williams
Islwyn ac Y Storm - Glyn Tegai Hughes
Y Telynegwyr - Huw Meirion Edwards
Daniel Owen - Robert Rhys.
Beriah Gwynfe Evans: dramodydd a chynhyrchydd - E. G. Millward
Llyfrau taith a chyfnodolion cynnar O. M. Edwards - Hazel Davies
Arolwg Fictoraidd - Hywel Teifi Edwards.

A Guide to Welsh Literature c.1800-1900 Volune V. Golygydd Hywel Teifi Edwards. Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99.

Y mae Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd yn cyhoeddi bob wythnos restr gan Gyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau diweddaraf i'w cyhoeddi. Cliciwch yma

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy