Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


J17 Byd o
fabis,
sêr a
Friends. . .

Pori drwy J-17, cylchgrawn yr wythnos

Dydd Iau, Gorffennaf 20, 2000
Y mae’r ysgolion ar gau neu wedi cau.

Mae’n bryd holi beth mae rhywun yn ei ddisgwyl o’i wyliau haf.

Os yr ydych o gwmpas eich dwy ar bymtheg oed ymhlith y dau ar bymtheg o dips gwyliau y mae y cylchgrawn J-17 yn eu hawgrymu y mae:

Cael deg rhif newydd ar eich ffôn symudol, pob un yn perthyn i tanned boy-babes.
Bwyta rhywbeth na allwch ei ynganu
Nofio’n noeth efo’ch ffrindiau
Anfon neges destun at fachgen yr ydych wedi mopio efo fo.
Snogio bachgen o wlad nad ydych erioed wedi ymweld â hi.
Sgrifennu ei enw mewn llythrennau mawr ar draeth tywodlyd.

Pryderon genethod ifanc

Yr ydw i’n ddigon hen i gofio J-17 pan oedd o’n cael ei alw yn Just 17 a rhieni, mwyaf sydyn, yn gwaradwyddo o ddarganfod pa mor fanwl oedd o’n trafod materion rhywiol.

Dechreuodd rhai alw’r hyn oedden nhw wedi arfer meddwl amdano fel comic i’r arddegau o’i weld yn gorwedd mor ddiniwed ar eu soffas yn porn gan sicrhau fod mwy fyth o enethod ifanc yn troi ato.

Yr un, mae’n ymddangos, yw pryderon genethod ifainc heddiw a rhai yr adeg honno ond bod y pryderon hynny’n cychwyn hyd yn oed yn gynt.

Mae rhai o ddarllenwyr J-17 yn poeni eu bod yn dal heb brofiad rhywiol llawn a hwythau’n bymtheg oed.

Yn llythyr y mis mae merch 16 oed yn son am drafferthion magu ei babi ac adolygu ar gyfer ei arholiadau TGAU ar yr un pryd.

"Meddyliwch am y pwyntiau drwg cyn rhuthro i rywbeth sy’n mynd i newid gymaint ar eich bywyd. Mi ddysgais i’r ffordd anodd ond does dim raid i chi. . .," medda hi.

Naw TGAU a rhyw

Ac meddai merch ifanc mewn erthygl arbennig, The Last Virgin in Town : "By the time I hit 15, I knew that chastity was not for me . . . My two aims in life was to get nine GCSE’s and have sex."

Bu Ellen, 13 oed o Wales yn mynd allan efo John, 15 oed, ers dwy flynedd. Y penwythnos diwethaf gwrthododd ei gais am gyfathrach rywiol . . . ond mae’n holi nawr a wnaeth hi’r peth iawn.

Hyd yn oed mewn dyddiau pan yw perthynas rywiol i’w gweld yn beth mor rhwydd â hyn i lithro iddi bu "J17 writer Nic" yn arbrofi sut orau i 'dynnu' bechgyn mewn parc. Aeth yno gyda sgwtar, pêl-droed a chi bach yn abwyd.

Mae’r bêl-droed yn gwneud yn well na’r sgwtar a'r ci bach yn well na’r ddau. "Looks like they’re barking mad about each other" meddai J17 wrth ddod i’r casgliad mai efo ci ar dennyn y mae dal bechgyn mewn parc.

Bechgyn eu breuddwydion

Wrth gwrs, mae yna rai bechgyn na all y ferch gyffredin ond breuddwydio amdanyn nhw - a synfyfyrio’n llesmeiriol dros eu lluniau mewn cylchgrawn fel hwn.

Yn eu plith y mae:
Kerr Smith
o Final Destination a "second resident heart-throb" Dawson’s Creek;
Yr Hot talent Don Philip sy’n dweud i’w gariad ddygymod yn dda iawn a’i lwyddiant personol - nes iddyn nhw wahanu!
Dywed Dec - o Ant a Dec ("The most loved Geordie boys, like, ever) - mai’r hyn a fyddai ef yn ei wneud pe gallai fod yn eneth am ddiwrnod yw: "go shopping and play with my boobs."

Eilunod eraill

Ymhlith eilunod eraill y jyst dwyarbymthegion y mae Slipknot y band a fydd yn gwneud i’ch nain wylo, Friends - cyfres deledu’r mis - sydd wedi eu dysgu, ymhlith pethau eraill, sut i wneud aros i mewn yn y ty yn beth cwl a sut i regi mewn ffordd nad yw’n anweddus.

Ffilm y mis iddyn nhw ydi High Fidelity, gyda Sleepy Hollow yn fideo’r mis ac If Only, Geri Halliwell yn llyfr y mis.

Cofiwch am sbectol: Beth bynnag arall ddywedwn ni am enethod yn eu harddegau y maen nhw’n graff iawn. Dyna’r unig ffordd i egluro y defnydd o gymaint o brint mân, mân, ar gefndir anodd ei ddarllen.

Ynteu ai cynllwyn yw hwn i’w cadw yn y ty cyn hired â phosib - o leiaf, nes y byddan nhw’n ddigon hen i gael babis?

Chwiliwch am eiriau:
mae'n ffasiwn torri geiriau'n fyr. 'Enders am Eastenders; 'iIsh am issue a 'rents am parents.

J-17. The World's Coolest Mag... Definitely. Awst, 2000. £1.90.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy