|
|
Cylchgrawn
yr Wythnos
'Angen help ar ddynion
sy'n taro
merched'
Dydd
Iau, Gorffennaf 13, 2000 |
Nid
mewn cylchgrawn merched y byddai rhywun yn disgwyl darllen y geiriau,
"Does dim rhaid ichi adael dyn, dim ond oherwydd ei fod yn ei taro."
Ond dyna farn un o gyfranwyr Aura, "a new magazine
for grown up women."
Anne Atkins ydi’r ferch sy’n dweud nad yw cael swaden gan y gwr y
peth gwaethaf a all ddigwydd i ferch.
Yn wir, yn ôl Anne, "y mae llawer o wyr treisgar yn caru eu gwragedd,
yn casáu colli rheolaeth ac eisiau rhoi’r gorau iddi."
Hyd yn oed yn ddyn yr ydw i’n ei chael yn anodd llyncu’r agwedd hon
ond mae hi’n mynnu nad anghenfilod ac ysgymun bethau yw dynion gwyllt
(violent) ond pobol gyffredin sydd, fel rheol, yn caru eu partneriaid.
Mae’n anodd peidio ag ychwanegu fod gan y partneriaid hynny gleisiau
cyffredin i brofi’n wahanol ond yn ôl Anne ein cydymdeimlad nid ein
beirniadaeth mae’r dynion hyn ei angen.
Rhywbeth arall sy’n bygwth merched yw disgyrchiant - gravity.
Mae ei effaith mor andwyol ar fronnau merched y mae Aura yn
rhoi dalen o’r neilltu i drafod "Keeping the oomph im your bosom".
Y dewis olaf er mwyn atal cwymp bronnau tua’r deheudir yw mynd dan
y gyllell ond gall ymarfer gyda phwysau sicrhau fod gwell siâp ar
ferch trwy gryfhau’r cyhyrau pectoral.
Cyn bwysiced i fab a merch yw cyflwr y meddwl ac i’r perwyl hwnnw
y mae Aura, gynghorion fel:
Rhaid
ymarfer yn rheolaidd i gadw dementia
draw
osgoi stres gan fod pryderon yn arafu
llif y gwaed i’r ymennydd
cadw’r meddwl i fynd gyda gemau a physls
gweddio neu synfyfyrio
byw, bwyta ac yfed yn dda a rhoi’r gorau
i smocio.
Un sydd wedi bod drwy’r felin iechyd ydi Vanessa Feltz sydd ddim hanner
y ddynes oedd hi’n arfer bod.
"Five stone that was once me floats somewhere in the ether, hovering
above a town near you," meddai’r feinwen newydd mewn erthygl yn sôn
amdani yn dewis dillad nofio.
Mae’n ddigon gwir, ei bod yn amhosib cael gwared a rhai pobol.
Cylchgrawn ar gyfer y merched syber hynny yn ein plith ydi Aura
o gymharu â’r menywod beiddgar hynny sy’n darllen am organics ac orgasmau
mewn pethau fel Company a Cosmo.
At rywun o’r enw Paula sy’n rhyw led-orweddian yn ei dillad i gyd
ar draws gwely go gysurus mewn llofft go grand y maen nhw’n sgwennu
am gyngor ynglyn â’u byw bob dydd.
Gwraig o Lanelli yn cwyno mai’r cyfan a wnaeth ei gwr pan oedd hi’n
ail harddu’r ty oedd gorwedd ar y soffa gyda chopi o’r Spectator
dros ei hwyneb.
Yn awr, medda hi, mae o eisiau gosod y bidet lle mae hi wedi rhoi’r
sinc yn y bathrwm.
"Pam?" medda hi.
Cyngor Paula yw iddi synfyfyrio, tra’n defnyddio’r bidet, bethau pa
mor ryfedd yw dynion.
Yn wir - yn taro’u gwragedd ac yn darllen y Spectator!
Aura. Gorffennaf. £2.50
|
|
|