Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Harry Potter Yr heip yn drech na'r safon!

A yw'r llyfrau Harry Potter gystal ag y mae'r heip yn ei ddweud?

Dydd Iau, Gorffennaf 6, 2000

Y mae cysylltiad ar waelod yr erthygl hon
gydag erthygl arall berthnasol


Bydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod mawr mewn siopau gwerthu llyfrau Saesneg. Dyma'r diwrnod y bydd y llyfr Harry Potter diweddaraf ar werth.

Y mae'r digwyddiad yn wers mewn heipio cyfres sydd wedi gwneud ei hawdur yn filiwnydd.

Yn hanes cyhoeddi llyfrau plant yn Saesneg fu yna yr un gyfres fwy llwyddiannus na'r un a grewyd gan y fam sengl, J K Rowling, mewn caffi yng Nghaeredin.

Yn Nulyn, hyd yn oed, bydd siopau llyfrau yn agor am hanner nos er mwyn cael dechrau gwerthu gynted a bo modd.

Er nad oes neb yn dadlau ynglyn â llwyddiant angrhedadwy y llyfrau y mae gwahaniaeth barn dybryd ynglyn â safon y sgrifennu.

Heip yn drech na safon
Mewn erthygl yn yr Observer yn ddiweddar damniwyd a melltithwyd y llyfrau gan Anthony Holden a gyhuddodd y llesmair Harry Potteraidd a grewyd o fod yn orchuchafiaeth heip dros safon.

Disgrifiodd ef ddarllen llyfrau Harry Potter fel gweithgarwch sydd yn trethu'r meddwl fymryn yn llai gwylio Neighbours!

"Llyfrau cwbl un ddimensiwn yw y rhain. Cartwns Disney mewn geiriau, dim byd mwy," meddai wrth ddisgrifio'r straeon am y dewin bach fel "Billy Bunter ar ysgub."

Cyfeiriodd hefyd at ryddiaith bedestriaidd angramadegol a roddodd gur pen iddo

Gellid defnyddio dawn yn well

"Os yw Rowling wedi ei bendithio a'r ddawn hudolus i dreiddio i feddyliau ifainc ni allaf ond dymuno na fyddai wedi gwneud defnydd gwell ohoni," meddai.

Aeth ymlaen i gyhuddo'r llyfrau o fethu a throsgwlyddo i blant fwynhad llenyddol ac o fethu a'u hannog i gwestiynu sicrwydd honedig eu byw bob dydd.

"Arwr plant ar gyfer ein cyfnod gelfyddydol dlawd ydi o," meddai..

Un sydd yn anghydweld yn llwyr a hyn yw Kathryn Rowlands - un o'r llaweroedd o oedolion sydd wedi eu hudo i fyd Harry Potter.

Cliciwch yma i weld beth sydd ganddi hi i'w ddweud
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y SΓ®n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy