Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Porc Peis Creu llyfr
am helynt
y peis

Wynford Ellis Owen yn troi dramau teledu yn straeon

Dydd Iau, Mehefin 29, 2000
Y mae'r rhai hynny ohonom sy'n cofio cychwyn S4C yn cael ein temtio i feddwl - yn hiraethus - am Joni Jones wrth wylio'r gyfres Porc Peis Bach ar y sianel yn awr.

Hynny'm bennaf oherwydd mai bachgen drygionus yn gwisgo'r hyn oeddem ni'n ei alw yn bwlofyr yw'r arwr unwaith eto.

Mae cyfnod Porc Peis fymryn yn nes atom - ond ddim llawer o ran naws a meddylfryd.

Wynford Ellis Owen, un o arwyr - arloesydd, yn wir, gyda Mici Plwm - teledu plant yn y Gymraeg sydd y tu Γ΄l i Porc Peis ond nad yw hon mor zany ag anturiaethau Syr Wynff ap Concord y Bos a Phlwmsan a ddaeth ag ef a Mici Plwm i amlygrwydd gyntaf.

Lladdwyd Syr Wynff a Phlwmsan gan S4C ond cyhoeddwyd llyfr i gydredeg a'r gyfres Porc Peis Bach yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Mae cynnwys Porc Peis Bach, y llyfr, yn addasiad ffyddlon o'r gyfres deledu sydd i'w gweld ar hyn o bryd.

Sylfaenwyd y stori Porc Pei gyntaf ar ddigwyddiad go iawn yn hanes Wynford Ellis Owen sydd fel Kenneth Robert Parry y straeon yn fab i weinidog ac a oedd yn blentyn - drygionus, siwr o fod - yng nghyfnod y straeon.

Mae'r stori wreiddiol - a'r gyntaf yn y llyfr - yn ymwneud a Wynford, pan yn fachgen, yn torri yn ofalus waelod porc pei a dwyn y cig ohoni cyn gosod y gwaelod yn ôl fel pe na byddai wedi ei chyffwrdd.

O ganlyniad ymwelodd cynrychiolydd gwneuthwyr y peis a'i gartref a chyfaddef yn eu hanwybodaeth mai nhw oedd ar fai! Mae honno'n stori wir, fe'm sicrhaodd.

Y mae Kenneth Robert Parry y math o hogyn yr oeddem yn gyfarwydd ag yng nghomics y cyfnod dan sylw - yn ddrygionus yn hytrach nag yn ddrwg.

Bachgen ei gyfnod ydi o ac y mae hynny, yn fy marn i, yn sicrhau fod apêl y llyfr a'r gyfres deledu gyda'i hymdeimlad o gyfnod yn fwy, mewn gwirionedd, at oedolion nag at blant yr oes hon.

Porc Peis Bach gan Wynford Ellis Owen. Hughes. £3.99
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y SΓ®n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy