Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr "Wil Mog" Darlun gonest
o fardd
a chymêr


Golwg hefyd ar grefft a chyfraniad y bardd gwlad Cymraeg

Dydd Iau, Mehefin 22, 2000
Adolygiad gan Glyn Evans

Er yn son am un person penodol y mae'r gyfrol Wil Mog a Chrefft y Bardd Gwlad yn darlunio yn ei gyfanrwydd ddull arbennig o farddoni.

Hynny yw, y mae'r awdur, Arthur Thomas, yn defnyddio un bardd gwlad i egluro a gwerthfawrogi diwylliant beirdd gwlad yn gyffredinol.


Yn defnyddio'r penodol i ddarlunio'r cyffredinol.

Cymeriad lliwgar o ardal Ysbyty Ifan a Phenmacho oedd Wil Mog. Brawd i nain Arthur Thomas ac yn "enghraifft berffaith o'r hyn a olygir wrth yr ymadrodd bardd gwlad."

Ar gychwyn ei gyfrol mae Arthur Thomas yn egluro beth a olyga wrth fardd gwlad:

"Rhywun sy'n cyfansoddi barddoniaeth yn ymwneud â'i filltir sgwar neu ei gynefin ei hun," meddai.

"Ond nid bardd wedi ei gyfyngu i'w fro ei hun yn unig . . . Mae'n canu am ddigwyddiadau byd-eang yn ogystal a gall hefyd fod yn fardd o safon cenedlaethol."

Ei "gyfrinach" meddai yw mai "bardd ei bobl ydyw."

"Nhw sy'n rhoi hwb iddo gyfansoddi ac wrth glywed ymateb i'w waith, yn rhoi hwb iddo gyfansoddi mwy. Ni chaiff fwy o foddhad, mi dybiaf, na chlywed rhywun yn adrodd ei benillion ar y stryd, mewn siop neu mewn tafarn."

Gwneud i farddoniaeth dalu!

A thalu amdanyn nhw o bryd i'w gilydd hefyd fel ag yn achos Wil Mog - a wnaeth i farddoniaeth dalu.

"Enillai Wil bum swllt yn gyson mewn eisteddfodau lleol," a chyhoeddai gasgliadau o gerddi coffa gan wybod y byddai teulu'r trancedig yn siwr o brynu.

Sgwennu i batrwm

"Cadwai hanner dwsin o batrymau wrth law, yn union fel y byddai teiliwr gwlad yn cadw patrymau siwtiau . . . rhif y sillafau yn enw'r trancedig a benderfynai pa un o'r chwe mesur a ddefnyddiai i'w goffau."

Cyfansoddai ganeuon masweddus ac enllibus hefyd y byddai yn eu canu yn y dafarn.

Yr oedd yn ddeheuig iawn yn rhoi ei hyd a'i led i rywun megis y blaenor o amaethwr:

Cynwal Hughes y Pennant
Ffermwr onide,
Mae'n Iesu Grist y bore
A'r diafol amser te

Neu

Edward Lewis dirion
A Jonnie Williams drist,
Y ddau sydd wedi eu crasu
Ym mhopty Iesu Grist

Doedd o ddim yn swil o athronyddu ychwaith:

Mae'n d'wyll
Cymrwch bwyll;
Aiff neb ddim uwch
Wrth odro buwch.


Slatwr, labrwr ac arbenigwr ar gymysgu morter oedd o wrth ei alwedigaeth ond yn gryn gymêr.

Ysgrifennu i'r papur

Bu'n ysgrifennu i Bapur Pawb dan yr enw Moses Morgan gan ddweud pethau mawr am wahanol bobol yn null gwasg Gymraeg y cyfnod. Ar y llaw arall yr oedd yn lluniwr ysgrifau coffa canmoliaethus.

Pan y'i cyhuddwyd o or-ganmol ymatebodd: "Ond mae'n rhaid iti ddweud rhywbeth am y diawled wsti."

Y mae Arthur Thomas yn ofalus i beidio a diraddio ac iselhau y bardd gwlad gan sylweddoli ei bwysigrwydd o fewn y gymdeithas wledig.

Ond nid yw'n euog o or-ganmol ychwaith ond yn gweld pethau fel yr oeddynt:

"Nid oedd barddoniaeth Wil Mog yn farddonol iawn ond roedd ei ryddiaith yn hynod o farddonllyd," meddai gan ddyfynnu un o'i frawddegau:

"Yr oedd y sêr yn disgleirio fel botymau pres ar grys nos yr Hollalluog."

Llyfryn sy'n cynnig darlun gonest o gymeriad y byddai rhywun wedi mwynhau ei adnabod.

Wil Mog a chrefft y Bardd Gwlad
gan Arthur Thomas. Llyfrau Llafar Gwlad 44. Gwasg Carreg Gwalch. £3.50.


Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y SΓ®n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy